Tân mewn tŷ yn Borth ger Aberystwyth yn 'diffodd yn raddol'
- Cyhoeddwyd

Roedd ofnau bod y fflamau wedi lledaenu i adeiladau eraill gerllaw
Dywed llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y tân yn Borth ger Aberystwyth yn diffodd yn raddol.
Fore Sadwrn roedd deg diffoddwr tân yn parhau ar y safle ac y mae'r brif stryd drwy'r pentref yn parhau ar gau.
Ddydd Gwener bu 30 o ddiffoddwyr yn delio â'r tân mewn tŷ yng nghanol y pentref.
Y gred yw i'r tân gynnau yng nghefn y tŷ, ac roedd ofnau ar un adeg bod y fflamau wedi lledaenu i adeiladau eraill gerllaw.
Bu saith injan dân ar y safle yn delio gyda'r digwyddiad a does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi'i anafu.

Y gred yw i'r tân gynnau yng nghefn y tŷ

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i'r digwyddiad ar y brif ffordd trwy'r pentref toc wedi 15:30 ddydd Gwener
Bu'n rhaid i bobl sy'n byw mewn eiddo cyfagos adael eu cartrefi er mwyn bod yn ddiogel.
Dywedodd llefarydd ar y gwasanaeth tân ddydd Gwener ei bod hi'n debygol bod nifer o silindrau nwy yn rhan o'r tân.

Roedd teithwyr oedd yn teithio ar y trên ger llaw yn gallu gweld y fflamau yn glir
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2021