Cofeb Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd wedi'i difrodi â phaent
- Cyhoeddwyd

Mae'r gofeb i fardd y gadair ddu wedi'i lleoli ar ffordd Pen y Garreg yng nghanol tref Trawsfynydd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio yn dilyn adroddiadau fod cofeb i Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd wedi'i difrodi.
Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn galwad ar brynhawn Iau, 26 Awst yn dweud fod paent wedi'i daflu ar y gofeb.
Mae'r gofeb i fardd y gadair ddu wedi'i lleoli ar ffordd Pen y Garreg yng nghanol tref Trawsfynydd.
Ychwanegodd y llu nad oes unrhyw un wedi cael ei arestio hyd yma, a bod swyddogion yn adolygu camerâu cylch cyfyng yn yr ardal ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021