Aros chwe awr am ambiwlans ar ôl torri pelfis mewn gêm rygbi

  • Cyhoeddwyd
Eifion Pughe

Bu'n rhaid i chwaraewr rygbi o Fachynlleth aros chwe awr am ambiwlans ar ôl dioddef anaf difrifol mewn gêm yn Llanidloes dros y penwythnos.

Fe wnaeth Eifion Pughe, sy'n 31 oed ac yn chwarae yn yr ail reng i dîm Machynlleth, torri ei belfis mewn dau le ar ôl cwympo yn lletchwith mewn tacl.

Fe ddigwyddodd yr anaf toc ar ôl 15:30, deng munud wedi i'r ail hanner ddechrau ar Gae Hafren, yng Nghlwb Rygbi Llanidloes.

Ar ôl sawl galwad i'r gwasanaethau brys, fe gyrhaeddodd yr ambiwlans o gwmpas 21:30 i gludo Eifion i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Bu'r chwaraewr rygbi yn gorwedd ar y cae am chwe awr, yn methu symud, tra bod y gêm yn cael ei gorffen ar gae arall.

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi ymddiheuro am yr oedi a ddigwyddodd.

Disgrifiad,

Y boen o orfod aros chwe awr am ambiwlans

Wrth i'r oriau'n aros am ambiwlans fynd heibio, aeth swyddogion clwb Llanidloes i droi'r llifoleuadau ymlaen fel nad oedd yn gorwedd yn y tywyllwch.

"Doedd y boen ddim rhy ddrwg i ddechrau", meddai Eifion.

"Dwi'n meddwl bod yr adrenalin yn helpu am yr ychydig oriau cyntaf, ond yn fuan iawn daeth y boen yn annioddefol. Dwi erioed wedi bod mewn cymaint o boen a bydde' ni byth yn dymuno hynny ar fy ngelyn pennaf."

Dywedodd Eifion ei bod hi'n amlwg bod rhaid gwella'r system gwasanaethau brys.

"Dwi'n gweld dim bai arnyn nhw, ond pan gyrhaeddodd y ddau barafeddyg roedden nhw'n teimlo cywilydd am y sefyllfa," meddai.

"Dwi'n teimlo cymaint o biti drostyn nhw achos, yn amlwg, dydy'r system ddim yn gweithio.

"Dwi'n gwerthfawrogi'r gofal gefais i gan y criw ddaeth i helpu ac i bawb o fewn y gwasanaeth iechyd sydd wedi fy nhrin i ers hynny, maen nhw'n gweithio mor galed.

"Ond, mae rhywbeth difrifol yn bod gyda'r system os ydy pobl yn gorfod aros mor hir am ambiwlans," ychwanegodd.

Yn ôl Eifion, daeth y parafeddygon mewn ambiwlans o Aberystwyth gan fod neb ar gael yn Llanidloes, Drenewydd na Machynlleth.

Fe dreuliodd ddwy noson yn Ysbyty Bronglais cyn cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae'n disgwyl triniaeth ar ei belfis ddydd Mercher.

Dywedodd Clwb Rygbi Machynlleth bod aelodau'n pryderu y bydd "toriadau i'r Gwasanaeth Ambiwlans yn cael effaith andwyol ar gymunedau gwledig".

"Fel clwb rydym yn ffodus o gael darpariaeth cymorth cyntaf profiadol, ond nid pob clwb sydd mor ffodus.

"Fel clwb rydym yn dymuno'n dda i Eifion a gwellhad buan."

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Ambiwland Cymraeg, Jason Killens: "Rydym yn ymwybodol o'r pryderon lleol ynglyn a'r lefelau staffio o'r gwasanaethau ym Mhowys.

"Mae'r pwysau ar ein gwasanaeth, ac yr holl Wasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, wedi bod yn uchel iawn haf yma.

"Wrth i ni parhau i frwydro'r pandemig Covid-19, mae rhai cleifion wedi gorfod aros yn hirach na fyddwn wedi hoffi, ac rydym eisiau ymddiheuro am hynny," meddai.

Pynciau cysylltiedig