'Dim atebion' ddegawd wedi marwolaeth Glyn Summers

  • Cyhoeddwyd
Glyn SummersFfynhonnell y llun, Sion Summers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Glyn Summers yn 17 pan fu farw wedi iddo gwympo oddi ar falconi yn Sbaen

Dywed teulu a gollodd eu mab ddegawd yn ôl wedi iddo ddisgyn oddi ar falconi gwesty yn Sbaen eu bod yn dal i ddisgwyl atebion am ei farwolaeth.

Bu farw Glyn Summers, 17, wythnos wedi iddo ddisgyn tra ar drip addysgol i Barcelona.

Dywed Coleg y Cymoedd bod "cyfyngiadau cyfreithiol" yn eu hatal rhag rhyddhau ymchwiliad mewnol.

Mae'r teulu o Hengoed, Caerffili, wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn gan gyflwyno deiseb i un o bwyllgorau'r Senedd, dolen allanol.

"Dwi methu cofio llawer am yr wythnos honno," dywedodd Sion, brawd hynaf Glyn, wrth iddo ddwyn i gof ddigwyddiadau Hydref 2011.

"Dyw e ddim yn 'neud synnwyr."

Ffynhonnell y llun, Sion Summers
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sion Summers ei fod yn dal i golli ei frawd

Roedd Glyn wedi mynd tramor fel rhan o'i gwrs yng Ngholeg Ystrad Mynach, sydd bellach yn rhan o Goleg y Cymoedd.

Fisoedd yn ddiweddarach dywed Sion bod y teulu wedi sylweddoli bod gwybodaeth allweddol am yr hyn a ddigwyddodd "yn guddiedig".

Roedd y bachgen 17 oed wedi bod mewn clwb nos y noson honno ac wedi yfed alcohol.

"Doedden ni ddim yn gwybod a gafodd e ganiatâd i fynd i'r clwb y noson honno a doedden i ddim yn gwybod chwaith nad oedd e'n cael ei oruchwylio," meddai.

"Tra'r oedden ni'n ceisio bod wrth ymyl gwely Glyn, roedden ni'n brwydro gyda'i gwmni yswiriant preifat a oedd yn gwrthod talu ei filiau meddygol oherwydd yr amgylchiadau a adroddwyd iddynt gan y tiwtoriaid."

Dywedodd Sion bod yr adroddiadau hynny yn cynnwys awgrym bod Glyn wedi "neidio" o'r balconi a bod hynny wedi arwain y teulu i gredu ei fod wedi lladd ei hun.

Maes o law, fe dderbyniodd y teulu adroddiad gan heddlu Sbaen a oedd yn dweud bod llygad-dystion wedi gweld Glyn yn cwympo ac yna'n ceisio dringo yn ôl ar y balconi.

Mae llythyr gan gyn Goleg Ystrad Mynach yn 2012, ac sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru, yn dweud bod staff wedi defnyddio "barn broffesiynol" ar ôl i fyfyrwyr, gan gynnwys Glyn, "ofyn yn benodol" am gael mynd i glwb arbennig.

Dywedodd ei frawd ei bod hi bellach yn 10 mlynedd ers i'r teulu golli "bachgen hapus" a "diddanwr y teulu" ac un y mae Sion wedi ei ddisgrifio fel "ei ffrind gorau".

"Yn anffodus y cyfan ry'n wedi'i gael yn ystod y ddegawd diwethaf yw muriau, amodau cyfreithiol a chymalau cymal cyfrinachedd."

Ychwanega bod marwolaeth ei frawd wedi bod yn "gwbl ddirdynnol" i'r teulu - yn enwedig i'w rieni, Sarah a Lee Summers.

"Fyddan nhw byth yn stopio brwydro dros Glyn. Tan bod ymddiheuriad yn cael ei wneud am fethiannau a bod tystiolaeth a sicrwydd na fydd hyn yn digwydd i deulu arall, fyddan nhw ddim yn gallu symud ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Sion Summers
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sion ei fod wedi colli ei ffrind gorau

Yn y ddeiseb i Senedd Cymru, mae'r teulu hefyd yn dweud y "dylid deddfu i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw deulu frwydro gyda gwasanaethau cyhoeddus i ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud â digwyddiadau angheuol".

Dywed pennaeth Coleg y Cymoedd, Karen Phillips, bod marwolaeth Glyn Summers yn "ddamwain drasig a oedd wedi achosi loes mawr i deulu a ffrindiau, staff a chyd-fyfyrwyr a'u bod yn parhau i deimlo'r golled".

Ffynhonnell y llun, Sion Summers
Disgrifiad o’r llun,

Mae deiseb Sion Summers yn galw am ymchwiliad cyhoeddus

'Diogelwch a lles'

Mewn datganiad, ychwanegodd Karen Phillips, bod y coleg "wastad wedi ceisio gwneud cymaint â phosib i sicrhau bod rhieni Glyn yn cael y wybodaeth yr oeddent ei hangen".

"Ond, mae cyfyngiadau cyfreithiol yn ein hatal rhag rhoi mynediad anghyfyngedig i ddogfennau yn yr achos hwn," meddai.

Dywed ei bod wedi cynnig cwrdd â'r teulu deirgwaith gan obeithio "y byddwn yn gallu dangos sut mae gwersi a ddysgwyd o'r golled erchyll wedi arwain darparwyr addysg yng Nghymru i wneud gwelliannau allweddol tra'n trefnu tripiau addysgol".

"Mae, a bydd, diogelwch a lles myfyrwyr sy'n ein gofal wastad yn flaenoriaeth i Goleg y Cymoedd," ychwanegodd.