Dychwelyd i chwarae pêl-droed wedi seibiant o 17 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Sarah a LeonieFfynhonnell y llun, Sarah O'Hara
Disgrifiad o’r llun,

Sarah a Leonie

Mam i wyth o blant yw Sarah O'Hara ac mae hi wedi dychwelyd i chwarae pêl-droed wedi seibiant o 17 mlynedd - a hynny yn yr un tîm â'i merch.

"Mae bod yn fam i wyth o blant yn gwneud amser imi chwarae pêl-droed ychydig yn heriol ond wrth lwc, dywedodd fy merch Leonie ei bod am ymuno â thîm merched Llanystumdwy, felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n ymuno â hi am ychydig o hwyl a ffitrwydd," meddai Sarah mewn sgwrs ar raglen Ar y Marc ar Radio Cymru.

"Roedd fy ngêm gyntaf yn ôl ar ôl tua 17 mlynedd o beidio chwarae yn foment anhygoel i mi fel mam gan fy mod wedi gallu chwarae ochr yn ochr â fy merch.

"Doeddwn i ddim yn meddwl am chwarae ond roedd fy merch i eisiau dechrau chwarae. Roeddwn i eisiau bod yn gwmni iddi."

Ffynhonnell y llun, Sarah O'Hara
Disgrifiad o’r llun,

Plant Sarah

Ychydig o hwyl a ffitrwydd

"Fel tîm rydyn ni'n mynd o nerth i nerth gydag agwedd gadarnhaol ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y gemau sydd o'n blaenau. Mae moral tîm Llanystumdwy yn ansbaradigaethus ar hyn o bryd ac rydyn ni'n edrych ymlaen at bob gêm a gweddill y tymor," meddai Sarah.

"Roedd hi'n anodd a nerfus dechrau chwarae. Doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i ddigon ffit i chware'r gêm gyfan. Ar y diwedd o'n i mor hapus wedi gallu chware gêm gyfan gyda fy merch.

"Roedd yn deimlad gwych bod yn ôl ar y cae a chwarae'r gamp rydw i'n ei charu."

Seren y gêm

Yn ei gêm gyntaf, chwaraeodd Sarah, sy'n 41 mlwydd oed, ochr yn ochr â'i merch Leonie sydd yn 17, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bethel.

Chwaraeodd Sarah gystal cafodd ei henwi'n chwaraewr y gêm.

Dywedodd: "Roedd yn sioc enfawr i mi gan fod gennym rai chwaraewyr gwych ac roeddwn i newydd ailddechrau chwarae iddyn nhw.

"Yn amlwg, roeddwn wrth fy modd, fel yr oedd fy merch a fy ffrindiau eraill yn y tîm. Dywedodd fy rheolwr fy mod i'n haeddiannol iawn gan fy mod wedi chwarae'n wych ac wedi gorchuddio pob darn o wair ar y cae."

Ffynhonnell y llun, Sarah O'Hara
Disgrifiad o’r llun,

Sarah mewn ymarfer i Lanystumdwy

"Galw fi'n Mam ar y cae"

"Yn ffodus i Leonie a minnau, mae merched Llan yn grŵp hyfryd iawn ac rydym wedi teimlo bod croeso inni o'r sesiwn hyfforddi gyntaf. Mae gennym reolwyr gwych sy'n gwthio ein ffitrwydd, yn gweithio ar wella ein gêm ond hefyd yn ei gwneud yn hwyl.

"Dwi'n gobeithio bod hi'n hapus ac mae llawer o'n cyd-chwaraewyr yn gweld o'n ddoniol oherwydd mae Leonie yn galw fi'n 'Mam' ar y cae.

"Dydw i ddim eisiau deud celwydd ond dwi'n amddiffynnol o fy merch. Os byswn i'n gweld rhywun yn rhoi tacl fudr arni byswn i ddim yn hapus o gwbl!"

Mae Sarah nawr yn bwriadu parhau i chwarae, wrth i Lanystumdwy chwarae ei tymor cyntaf yng Nghynghrair Menywod Gogledd Cymru.

"Nid ydw i'n rhy siŵr faint o dymhorau sydd ar ôl ynof," eglurodd Sarah.

"Rydw i'n mynd i fwynhau pob gêm y gallaf fynd drwyddi heb unrhyw anafiadau a mwynhau gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o dîm gwych."

Pynciau cysylltiedig