Dementia cŵn: Galw am godi ymwybyddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Jacqui a Poppy
Disgrifiad o’r llun,

Jacqui Bassett gyda'i chi, Poppy

Hyd at tua dwy flynedd yn ôl roedd Poppy yn gi bywiog a llawn hwyl. Ond yn raddol, dechreuodd ei pherchennog sylwi ar rai newidiadau.

Byddai Jacqui Bassett, o Burton ger Wrecsam, yn sylwi ar ei chi, oedd yn 14 oed ar y pryd, yn syllu i'r gofod.

Byddai hi'n deffro ac yn cerdded yn y nos, a hyd yn oed yn dechrau mynd yn sownd y tu ôl i'r dodrefn.

Dywed Jacqui fod siwrne i'r milfeddyg wedi cadarnhau diagnosis o ddementia a dechreuodd rhaglen driniaeth.

"Mae hi ar feddyginiaeth gan y milfeddyg i helpu i arafu pethau," meddai Jacqui, "ond hefyd rydyn ni'n gwybod sut i'w chefnogi. Rydyn ni'n amyneddgar, rydyn ni'n cymryd amser gyda hi.

"Rydyn ni'n deall nad yw hi'n deall, ac rydyn ni'n gallu ei helpu mwy."

'Nodi'r cyflwr yn gynnar'

Amcangyfrifir bod tua 85% o achosion o ddementia anifeiliaid anwes ddim yn cael eu diagnosio ar hyn o bryd.

Mae milfeddygon yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr mewn cŵn a chathod, oherwydd bod triniaeth yn fwy effeithiol yn y camau cynnar.

Bydd un o bob pedwar ci oedrannus yn ei ddatblygu, ar gyfer cathod mae'n un o bob tri.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Poppy yn dechrau dangos symptomau fel ofn dod allan o'r tu ôl i ddodrefn

Dywed Dr Huw Stacey, sy'n gyfarwyddwr gwasanaethau clinigol yn Vets4Pets, nad yw bob amser yn rhywbeth y gellir ei godi mewn gwiriadau iechyd blynyddol, oherwydd "dechrau araf" y cyflwr.

"Os ydy [cŵn] yn edrych ychydig yn ddryslyd neu'n cael damweiniau yn y tŷ, neu os ydyn nhw'n deffro ac yn aflonydd yn y nos mae pobl yn meddwl mai rhan yn unig yw hynny o heneiddio a does dim y gellir ei wneud," meddai.

"Os gallwn nodi'r cyflwr hwn yn gynnar mae rhai newidiadau y gallwn eu gwneud i arafu cynnydd y cyflwr.

"Mae trin diet yn wirioneddol bwerus yn hyn o ran gwella maeth anifeiliaid i helpu eu hymennydd i weithredu... a hefyd gall newidiadau i'r amgylchedd a'r ffyrdd rydych chi fel perchennog anifail anwes yn rhyngweithio â'ch anifeiliaid anwes wneud bywyd yn haws iddyn nhw hefyd."

'Torcalonnus'

Mae teclyn ar-lein bellach wedi'i lansio i helpu perchnogion anifeiliaid anwes sy'n poeni am eu ci neu gath i wirio eu symptomau am arwyddion dementia mewn anifeiliaid saith oed neu fwy.

Mae'r addasiadau bach y mae Jacqui a'i theulu wedi'u gwneud yn helpu Poppy, sydd bellach yn 16 oed, i fwynhau bywyd bodlon, er gwaethaf ei dementia.

"Rwy'n gobeithio ac rwy'n credu ei bod hi'n dal yn hapus y rhan fwyaf o'r amser," meddai Jacqui.

"Mae'n dorcalonnus... mae'n dorcalonnus pan maen nhw'n heneiddio beth bynnag.

"Cyn belled â'i bod yn cael ansawdd bywyd... mae popeth yn iawn. Oherwydd ein bod yn gweithio mor agos gyda'n milfeddyg, bydd hi'n ein helpu i benderfynu pryd mae'r amser yn iawn i ffarwelio."

Pynciau cysylltiedig