Cyhuddo dyn o lofruddio dyn 61 oed yn Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Robert FarleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed merch Robert Farley bod ei thad yn "dad, tad-cu a ffrind a oedd yn cael ei garu'n fawr"

Mae disgwyl i ddyn o'r Barri ymddangos o flaen llys wedi i'r heddlu ei gyhuddo o lofruddio dyn 61 oed.

Cafwyd hyd i gorff Robert Farley yn ei gartref ar stryd West Walk yn ardal Colcot, Y Barri tua 01:00 ddydd Gwener 3 Medi.

Bydd Lee John Whitlock, sy'n 53 oed ac o'r Barri, yn mynd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.

Mae swyddogion Heddlu DE Cymru'n parhau i roi cefnogaeth i deulu Mr Farley, a'i ddisgrifiodd mewn teyrnged fel dyn "addfwyn a thyner".

Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, y Ditectif Uwcharolygydd Darren George: "Tra bod hwn yn ddatblygiad hynod arwyddocaol yn ein hymchwiliad, rydym yn dal yn apelio am wybodaeth"

Mae'r llu'n awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig gwybodaeth mewn cysylltiad "ag unrhyw weithgaredd amheus yn, ac o amgylch, ardal West Walk" yn arbennig rhwng gyda'r nos ddydd Llun 30 Awst, ac oriau mân ddydd Gwener, 3 Medi.

Maen nhw hefyd yn diolch pobl o fewn y gymuned sydd eisoes wedi cynnig gwybodaeth.

Pynciau cysylltiedig