Cyfyngu ymweliadau ysbyty wedi cynnydd achosion Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google

Mae bwrdd iechyd yn ne Cymru wedi cyfyngu ar ymweliadau ysbytai yn sgil cynnydd mewn cleifion coronafeirws.

O ddydd Gwener ymlaen, ni fydd ymwelwyr yn cael mynychu unrhyw un o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sydd wedi eu lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Dywedodd y bwrdd iechyd mewn datganiad eu bod wedi cyflwyno'r cyfyngiadau "er diogelwch ein cleifion a'n staff".

Mae'r penderfyniad yn rhoi cyfle i'r bwrdd "reoli lefelau Covid yn ein hysbytai", meddent.

Mae rhai eithriadau i'r cyfyngiadau yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae'r claf yn derbyn gofal diwedd oes;

  • Un partner neu berson cymorth i gael dod gyda menyw yn ystod y cyfnod esgor sefydledig, ac yn ystod y cyfnod ôl-enedigol cyn naill ai trosglwyddo i'r cartref neu i'r ardal ôl-enedigol;

  • Bydd presenoldeb un partner mewn apwyntiadau sgan uwchsain yn gyfyngedig i'r apwyntiadau 12 wythnos (sgan dyddio) ac 20 wythnos (sgan anghysondeb) a rhai sganiau sydd wedi eu trefnu trwy'r gwasanaeth beichiogrwydd cynnar;

  • Pediatreg ac ardaloedd newydd-enedigol (un person yn unig).

'Nifer cleifion yn cynyddu'

Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd cyfarwyddwr iechyd y bwrdd, Kelechi Nnoaham, am "hydref a gaeaf anodd iawn" i GIG Cymru.

Dywedodd er bod derbyniadau i'r ysbyty yn is oherwydd brechiadau, roedd y duedd bresennol mewn achosion yn peri pryder.

Ar y pryd, roedd 67 o gleifion Covid yn ei ysbytai - yr uchaf ers canol mis Chwefror.

Dywedodd Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio Bydwreigiaeth Cwm Taf Morgannwg: "Er gwaethaf llacio rhai cyfyngiadau mewn cymdeithas, rydym yn dal i fyw mewn pandemig, ac mae nifer y cleifion sy'n sâl â Covid ac sydd angen gofal ysbyty yn cynyddu bob dydd.

"Mae gwneud y penderfyniad anodd hwn i gyfyngu ar ymweliadau yn caniatáu inni reoli lefelau Covid yn ein hysbytai, gan gadw ein cleifion a'n staff mor ddiogel â phosib."

Bydd y bwrdd iechyd yn darparu diweddariadau rheolaidd wrth i'r sefyllfa newid.