Dirwy o £100,000 i gwmni am dorri rheolau diogelwch

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ni wnaeth cyfarwyddwr Three D's Mining, David Jones, unrhyw sylw wrth adael y llys wedi'r gwrandawiad

Mae cwmni mwyngloddio wedi cael dirwy o £100,000 am dorri rheolau diogelwch wedi i un o'u gweithwyr gael ei anafu'n ddifrifol pan ddisgynnodd to arno.

Cafodd Gwyn Woodland anafiadau wrth gael ei ddal ym mhwll Danygraig yn Y Creunant ger Castell-nedd yn 2017 wedi i ystyllod pren "rhad" a oedd yn dal y to dorri.

Yn gynharach eleni fe gafwyd cwmni Three D's Mining yn euog o fethu sicrhau diogelwch a lles eu gweithwyr ac eraill, ac o beidio gwneud asesiad risg digonol.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, dywedodd y barnwr Catherine Richards fod Three D's Mining wedi dangos "agwedd di-hid am iechyd a diogelwch y glowyr".

Clywodd yr achos ym mis Mehefin fod Mr Woodland wedi cael ei ddal o dan garreg fawr yn y pwll.

Nid yw wedi gallu gweithio ers y digwyddiad wedi iddo dorri ei gefn mewn tri lle.

Ffynhonnell y llun, HSE
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod y pren oedd yn cael ei ddefnyddio tua thraean o'r trwch oedd ei angen

Dywedodd y barnwr Richards ei bod wedi syfrdanu at benderfyniad y cwmni i ddefnyddio ystyllod pren heb eu profi i ddal pwysau to'r pwll.

Ychwanegodd fod Three D's wedi dewis "torri costau ar draul diogelwch".

Clywodd y llys hefyd nad yw'r cwmni yn masnachu ar hyn o bryd, a'u bod yn wynebu mynd i'r wal.

Cafodd y cwmni orchymyn i dalu dirwy o £100,000 dros gyfnod o bedair blynedd.

Ni wnaeth cyfarwyddwr y cwmni, David Jones, unrhyw sylw wrth iddo adael y llys.