'Ry' ni'n cael 30-40 galwad bob dydd am iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan alwadau

Mae cynllun un o heddluoedd Cymru i wella eu hymateb i blant sydd mewn perygl yn esiampl i eraill, yn ôl arbenigwr.

Fel rhan o gynllun Heddlu Gwent mae gweithwyr cymdeithasol plant wrth law i gynghori swyddogion wrth ymateb i alwadau.

Mae'r llu wedi bod yn gwneud rhywbeth tebyg gyda gweithwyr iechyd meddwl ers pedair blynedd. Owain Evans fuodd yng nghanolfan reoli'r heddlu i glywed mwy.

Prynhawn yng nghanol yr wythnos ac mae canolfan reoli Heddlu Gwent yn brysur.

Mae swyddogion yno'n delio gyda galwad am glaf iechyd meddwl sydd wedi taro gweithiwr mewn uned gofal.

Mae plismyn yn gorfod asesu a ydy'r sefyllfa dan reolaeth. A fydd eu presenoldeb yn gwneud pethau'n waeth? Neu a oes angen ymateb beth bynnag i honiad o ymosod?

Mae'n nhw'n gyfarwydd gydag asesu sefyllfaoedd sy'n newid o funud i funud ond go brin bod rheiny'n fwy heriol na rhai sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.

Gyda nhw yn y swyddfa mae arbenigwr yn y maes sydd yn gallu gweld ffeiliau'r claf a chynghori'r heddlu ar sut i ymateb.

Dyw hanner y galwadau mae Heddlu Gwent yn eu derbyn ddim yn arwain at gofnodi trosedd, ond dyw hynny ddim yn golygu llai o waith.

Mae'r Uwch Arolygydd Matthew Williams yn gwerthfawrogi cael yr arbenigedd wrth law: "Ry' ni'n cael tua 30 neu 40 galwad bob dydd ynglŷn ag iechyd meddwl.

"Mae'n rhoi llawer o bwysau ar yr heddlu ar y stryd wrth ddelio gyda'r problemau yma."

Mae 'na bump arbenigwr iechyd meddwl yn rhan o'r tîm yng Ngwent.

"Mae un person bob shifft yn gallu helpu ni i ddeall beth yw'r broblem a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y cyngor cywir…

"Mae'n llawer o help i wneud penderfyniadau risg uchel."

Mae ymchwil yn dangos fod yr heddlu'n treulio mwy o amser yn delio gyda galwadau iechyd meddwl nag y maen nhw gyda galwadau eraill.

Mae arbenigwyr wedi bod yn rhan o'r tîm yng Ngwent ers 2018.

David Richards sy'n eu harwain: "Weithiau mae pobl yn troi at yr heddlu am nad y'n nhw'n gwybod lle arall i droi.

"Mae'n siŵr bod ni 'di helpu pobl i gael cymorth doedden nhw ddim yn gwybod sut i'w gael fel arall."

Mae'n nhw'n cael galwadau dyddiol am bobl yn bygwth lladd eu hunain. Felly mae ymateb yn y ffordd gywir yn allweddol i'r heddlu ac i'r unigolion dan sylw.

"Bore 'ma er enghraifft, roedd person yn bygwth taflu ei hun o bont. Roeddwn i'n gallu cael gafael ar bobl oedd wedi gweithio gyda'r person yma a chael arbenigwr i ddelio gyda nhw o fewn 20 munud."

Tra'n pwysleisio nad gwasanaeth brys iechyd meddwl y'n nhw, mae'r arbenigwyr yn helpu ysgafnhau'r baich ar yr heddlu.

O ganlyniad i lwyddiant y cynllun hwn mae Heddlu Gwent bellach yn cydweithio gyda gweithwyr cymdeithasol sy'n arbenigo ar ddiogelwch plant.

"Penderfynon ni yn 2019 i ddod a thîm mewn... achos mae'r sgiliau gyda nhw i helpu cadw plant yn saff, mae gyda nhw fynediad at fas data ac at wybodaeth sydd ddim gyda ni.

"Mae'n nhw'n gallu cael gafael ar wybodaeth yn gyflym a helpu ni wneud penderfyniadau yn aml mewn sefyllfa risg uchel."

Disgrifiad,

'Mae modd diogelu plant ynghynt'

Mae'r heddlu'n awyddus i sicrhau fod y cynllun yn parhau. Mae un arbenigwr blaenllaw, y seicolegydd plant Dr Mair Edwards, am weld lluoedd eraill yn dilyn Gwent.

"Mae cynllun peilot Gwent yn sicr yn ffordd ymlaen o fod yn gweithio'n fwy effeithiol ar draws asiantaethau ac efallai'n fodel y dylai heddluoedd eraill Cymru edrych arno fo i gael gweld pa mor effeithiol ydy o.

"Os ydy o'n gost effeithiol mae hynny'n amlwg yn dda… ond mae o'n fwy effeithiol hefyd os ydy asiantaethau yn gallu cydweithio'n gynnar mewn achos fel bod plant yn gallu cael eu diogelu ynghynt a theuluoedd yn gallu cael help ynghynt."

Nôl yng Nghwmbrân mae'n nhw'n sicr yn teimlo fod y peilot wedi talu ffordd.

"Ry' ni wedi 'neud ymchwil am waith y tîm. Mae'r ymchwil yn bositif iawn. Mae stori dda gyda ni i ddweud wrth heddluoedd eraill am sut mae pethau'n mynd yng Ngwent."