Cyswllt Cymraeg â'r heddlu yn 'hawl, nid braint'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud ei fod am sicrhau bod pob cymuned yn gallu derbyn gwasanaeth gan y llu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Dr Richard Lewis bod y Gymraeg yn "rhan annatod o'r gwasanaeth ni'n rhoi yma yn Heddlu Dyfed-Powys".
"Nid braint yw'r cyfle i siarad Cymraeg gyda'r heddlu, ond hawl yw hi," meddai.
Ychwanegodd bod delio ag effeithiau Covid-19 ar frig ei agenda fel Prif Gwnstabl.
Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, cafodd Dr Richard Lewis ei enwi fel ymgeisydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu, Dafydd Llywelyn ar gyfer swydd y Prif Gwnstabl.
Yn gwneud y gwaith hwnnw yn ardal Cleveland ar hyn o bryd, mae disgwyl iddo ddechrau ar ei waith yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.
'Pwysig bod ein staff yn deall'
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, ysgrifennodd Dr Lewis mewn blog diweddar ynglŷn â phwysigrwydd cynnig gwasanaeth dwyieithog.
Mae'n benderfynol y bydd yn rhan ganolog o'i weledigaeth.
"Mae'n bwysig fod pob un sydd yn gweithio yma yn Nyfed-Powys yn gallu cyfarch ei gilydd a'r gymuned trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.
"Nid oes yn rhaid i bawb fedru'r iaith yn rhugl, ond mae'n flaenoriaeth i fi allu cynnig y gwasanaeth yn y famiaith i'r rheiny sydd yn gofyn amdani.
"Fel wedes i, nid braint yw hynny ond hawl ac mae'n bwysig bod ein staff ni yn deall hynny hefyd."
Dywedodd Dr Lewis hefyd bod yn rhaid i daclo effeithiau Covid-19 fod yn flaenoriaeth i'r llu.
"Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n cymunedau," meddai.
"Dwi wedi gweld o bell fod Dyfed-Powys wedi bod yn gwneud hynny dros gyfnod y pandemig, a dyna fydd yn parhau o dan fy arweinyddiaeth i.
"Bydda i'n sicrhau ein bod yn esbonio'r rheolau fel ag y maen nhw yng Nghymru, sydd yn wahanol wrth gwrs o'i gymharu â Lloegr lle dwi 'di bod yn gweithio'n ddiweddar."
Cafodd Dr Lewis ei benodi'n Brif Gwnstabl yn ardal Cleveland yn 2019.
Fisoedd yn ddiweddarach, daeth adroddiad i'r casgliad fod y llu yn "gweinyddu heb gyfeiriad nac unrhyw gynllun clir".
Yn wreiddiol, ei fwriad oedd aros yno am o leiaf pum mlynedd arall, ond roedd yr ysfa i ddychwelyd adref yn ormod.
"Roedd y temtasiwn i ddychwelyd i Gymru ac i siarad Cymraeg yn y gwaith a'r cymunedau hefyd yn ormod," meddai.
'Mwy o amser i weithio gyda'n cymunedau'
Wedi'i holi am yr heriau sy'n wynebu Dyfed-Powys, mae Dr Lewis yn cyfaddef bod y ddaearyddiaeth yn codi rhwystrau, ond bod 'na gyfleoedd hefyd.
"Ni'n lwcus yma yng ngorllewin a chanolbarth Cymru bod modd treulio mwy o amser yn gweithio gyda'n cymunedau na rhai o'n dinasoedd mawr," meddi.
"Ond ry'n ni'n wynebu'r un heriau, boed yn gyffuriau - y County Lines - neu'n faterion eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021