Angen diogelu gwasanaethau ieuenctid 'bregus' wedi Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
plant mewn clwbFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed arbenigwyr bod angen diwygio gwasanaethau yn sylweddol fel eu bod ar gael ar gyfer plant y dyfodol

Mae angen deddfwriaeth newydd i ddiogelu gwasanaethau ieuenctid "bregus" yng Nghymru fel nad yw pobl ifanc yn dioddef, medd arbenigwyr.

Yn ôl gweithwyr ieuenctid mae llawer o blant wedi cael trafferth ymdopi wrth i glybiau fod ar gau yn ystod y pandemig.

Mewn adroddiad, dolen allanol, dywedodd panel o arbenigwyr bod angen newid y ffordd y mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn cael eu cefnogi a'u datblygu.

Mae yna alwadau hefyd ar i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cydnabod bod yr adroddiad wedi cyflwyno nifer o heriau.

'Gwasanaeth anghyson'

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynghorau wedi cau dros 160 o glybiau ieuenctid oherwydd toriadau ac ailstrwythuro, a gan nad oedd nifer fawr o adeiladau yn gallu agor yn sgil Covid, doedd dim modd cynnal sesiynau.

Mae pobl ifanc, sydd wedi rhannu profiadau â BBC Cymru, yn dweud bod gwasanaethau ieuenctid yn hanfodol.

Mae angen iddi fod yn haws i gael cefnogaeth a chyngor, meddent, ac maent yn pwysleisio bod angen dirfawr am le diogel oddi ar y strydoedd.

Mae gwaith ieuenctid yn cynnwys amrywiol wasanaethau a sefydliadau gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc 11-25 - gan gynnwys clybiau ieuenctid, delio â digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn dweud bod y gwasanaethau yn "anghyson" ar draws Cymru wedi blynyddoedd o doriadau ac mae cyfeiriad hefyd at ddiffygion ynglŷn â staffio a diogelwch.

Mae'r panel yn galw ar weinidogion i drawsnewid y sector yn sylweddol ac i sefydlu strwythur llywodraethu a gaiff ei arwain gan bobl ifanc.

Dywed y panel, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw golwg ar y sector wedi i adroddiad ganfod bod gwasanaethau wedi dirywio, bod nifer o weithwyr ieuenctid yn gweithio'n eithriadol o galed o dan bwysau a bod rhai gwasanaethau yn "fregus".

Nodir bod Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa wrth i weithwyr gael ei rhoi ar ffyrlo neu eu symud i wasanaethau eraill a bod y sefyllfa bresennol yn "anghynaladwy".

Mae'n galw am gyflwyno deddf newydd a fydd yn sicrhau bod darparu gwasanaethau ieuenctid yn angen cyfreithiol a nodir na ddylid cyfeirio atynt fel gwasanaethau "moethus" ychwanegol.

Argymell cael Gweinidog Pobl Ifanc

Yn ystod yr ymchwiliad tair blynedd, fe siaradodd y panel â gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc a daethant i'r casgliad bod angen i Lywodraeth Cymru gynnal arolwg annibynnol i sut y mae gwasanaethau ieuenctid yn cael eu cyllido.

Mae yna ofnau nad yw'r arian a glustnodir yn cael ei wario'n gyfan gwbl ar bobl ifanc.

Mae'r panel hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i benodi gweinidog ar gyfer pobl ifanc yn y cabinet - rhywun o dan 25 - gyda "phortffolio penodol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid" fyddai'n arwain "proses o bennu gweledigaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Halyna Soltys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Halyna Soltys ei bod hi'n bwysig bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed

Fe ddechreuodd Halyna Soltys fynychu clwb pobl ifanc pan yn bump oed ac mae hi bellach yn gweithio gyda phobl ifanc - yn eu hannog i rannu eu straeon a'u hymgyrchoedd ar ProMo-Cymru.

"Fyddwn i ddim y person ydw i heb wasanaethau ieuenctid," meddai, gan ychwanegu bod ei chlwb ieuenctid wedi ei pharatoi ar gyfer y brifysgol a gwaith.

"Mae gwasanaeth sydd yn eich annog i brofi pethau newydd ac i wneud eich gorau yn agor byd newydd i chi."

Ond mae'n dweud nad oes digon o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru i weithwyr ieuenctid a bod angen sicrhau cefnogaeth i bob person ifanc.

'Y gwasanaethau yn hanfodol'

Dywed Rhodri Lewis o Sir Benfro ei fod yn berson swil iawn cyn ymuno â chlwb ffermwyr ifanc ond ei fod bellach yn drysorydd, yn aelod o'r Urdd ac yn cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau tynnu rhaff.

"Roedd methu â chwrdd yn ystod cyfnod Covid yn dangos pwysigrwydd y clybiau," meddai.

Ychwanegodd fod pobl ifanc yn wynebu dyfodol heriol o ran dod o hyd i swyddi, cael mynediad i wasanaethau a gorfod symud o adre oherwydd prinder tai fforddiadwy a'i bod felly yn bwysig iddyn nhw gael cefnogaeth.

"Mae'n 2021 - rhaid i'r ffordd rydyn ni'n ystyried pobl ifanc a gwrando ar eu hanghenion newid," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhodri Lewis ei fod wedi dysgu sgiliau bywyd drwy fod yn rhan o glwb

Dywedodd Keith Towler, cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru a'r cyn-Gomisiynydd Plant fod pobl ifanc wedi dweud wrth y panel sut bod cael mynediad i wasanaethau wedi trawsnewid a hyd yn oed arbed eu bywydau.

"Y nod bellach yw sicrhau newid a chyflawni. Bydd hyn yn gofyn am ffyrdd newydd o weithio," meddai.

"Gall newid fod yn heriol ond, os byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl ifanc yng Nghymru, bydd y sector gwaith ieuenctid yn ffynnu.

"Rydym wedi creu momentwm go iawn ar gyfer newid ac mae pobl ifanc Cymru yn haeddu darpariaeth gwaith ieuenctid sy'n diwallu eu hanghenion."

'Heriol ac uchelgeisiol'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod gweithwyr ifanc wedi wynebu "nifer o anawsterau" yn ystod y pandemig ond bod "y sector wedi dangos y pwysigrwydd a'r angen am wasanaethau ieuenctid arloesol yng Nghymru".

Ychwanegodd bod argymhellion yr adroddiad yn "uchelgeisiol a heriol" a bod ymdrechion eisoes ar y gweill i helpu gwasanaethau wedi'r pandemig gyda £2.5m o arian wedi ei neilltuo ar gyfer 2021-22.