'Carreg filltir' datblygiad tai hen ysbyty meddwl

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Meddwl Dinbych
Disgrifiad o’r llun,

Mae safle'r hen ysbyty seiciatryddol ar gyrion tref Dinbych

Mae gan lawer o bobl Dinbych gyswllt teuluol â'r hen Ysbyty Gogledd Cymru - boed hynny'n ŵr, modryb, neu dad-yng-nghyfraith oedd yn gweithio yno.

Ar un cyfnod, roedd yr ysbyty seiciatryddol ar gyrion y dref yn gartref i 1,500 o gleifion.

Nawr, wedi penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych yr wythnos ddiwethaf, bydd yr adeilad hanesyddol sydd wrth galon y safle yn cael ei adfer a'i droi yn fflatiau.

Bydd 300 o dai hefyd yn cael eu codi ar dir cyfagos - datblygiad "anferth" allai gynyddu'r pwysau ar wasanaethau a ffyrdd, yn ôl cynghorydd lleol.

Ond mae eraill yn pwysleisio pwysigrwydd adnewyddu'r adeiladau rhestredig gafodd eu codi yn yr 19eg ganrif.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddant yn "ceisio lliniaru'r effaith ar yr ardal" drwy osod amodau ar y datblygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd teuluoedd cyfan yn dod i weithio yn yr ysbyty, medd Delyth Trevelyan

Does dim amheuaeth bod gan yr ysbyty - gafodd ei godi yn yr 1840au a'i gau yn 1995 - berthynas agos â'r dref gerllaw.

"Yr ysbyty oedd Dinbych ar un cyfnod," meddai Delyth Trevelyan, 66, a symudodd i'r ardal o Lundain pan gafodd ei gŵr swydd fel ymgynghorydd yn yr ysbyty.

"Roedd o'n cyflogi cymaint o bobl Dinbych. Roedd teuluoedd cyfan yn gweithio yno. Dwi'n cofio synnu o weld teulu cyfan - rhieni, ewythrod, modrybedd, neiaint, nithoedd - i gyd yn gweithio yn yr ysbyty."

Mae hi'n cefnogi'r datblygiad newydd, ac yn credu bod cyn-staff, fel ei gŵr, yn teimlo'n "drist iawn bod yr adeilad wedi cael dirywio cymaint".

Ond mae cynghorydd lleol, Gwyneth Kensler, yn poeni am yr hyn sydd i ddod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Gwyneth Kensler yn pryderu ynghylch effaith bosib datblygu safle'r ysbyty ar dref Dinbych

Tra'i bod hi'n cefnogi adfer yr hen adeilad, mae'n rhagweld y bydd maint y datblygiad yn effeithio ar draffig a gwasanaethau addysg ac iechyd.

"Bydd o'n creu, mewn ffordd, pentref newydd ar gyrion Dinbych a 'dan ni wedi cael llawer o adeiladu tai yn Ninbych a llefydd fel Llanrhaeadr," meddai.

"Pwy fydd yn prynu'r tai 'ma? Fydd o'n effeithio'r diwylliant a'r Gymraeg? A fydd pobl leol yn gallu fforddio'r tai 'ma?"

Does dim tai cymdeithasol na fforddiadwy'n rhan o'r cynllun gafodd ei gymeradwyo gan gynghorwyr, a dywedodd y cyngor sir y bydd "yr arian a godir o'r tai yn mynd tuag at gynnal yr adeiladau hanesyddol" ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd tai newydd yn hwb i'r ardal, ym marn Rhian Owen

Ar y Stryd Fawr, mae Rhian Owen, 57, wedi bod yn siopa. Roedd ei thad-yng-nghyfraith yn gogydd yn yr ysbyty ac fel un gafodd ei magu yn Ninbych, mae'n teimlo y bydd y tai newydd yn rhoi hwb i'r ardal.

"Bydd o'n dda i fusnes - i'r siop fara, y llyfrgell, y caffis," meddai.

"Ar ôl i'r ysbyty fynd mae 'na lot o lefydd wedi cau lawr, ac mae'n bechod, rili."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Connor Shakespeare yn gobeithio prynu tŷ ac yn croesawu'r datblygiad

Un arall oedd â pherthynas yn gweithio yn yr ysbyty yw Connor Shakespeare, 25. Mae'n gobeithio bydd y tai newydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc lleol ymgartrefu yn y cylch.

"Fel person ifanc yn chwilio am dŷ, mae'n rhy ddrud, does 'na ddim llawer o dai mewn lleoliadau da," meddai.

"I deuluoedd ifanc sy'n chwilio am gartref, mi fyddai'n ddatblygiad gwych."

Ers i'r ysbyty gau yn 1995, bu'r safle yn nwylo sawl perchennog, cyn cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir Ddinbych drwy orchymyn prynu gorfodol yn 2018.

Cwmni lleol Jones Bros sydd tu ôl i'r cynlluniau diweddaraf, a allai greu tua 1,200 o swyddi. Mae'r cwmni eisoes wedi agor canolfan hyfforddi ar y safle.

Yn ôl y Cynghorydd Hugh Evans, arweinydd y cyngor, gallai'r gwaith adeiladu gychwyn mewn tua 18 mis, ond cyn hynny rhaid i'r awdurdod lleol a'r datblygwyr gytuno ar amodau'r prosiect.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod "hon yn garreg filltir allweddol ar y daith at ddyfodol newydd i adeilad sydd â chysylltiad pwysig â'r dref a'i phobl".

Ychwanegodd: "Bydd amodau ar y caniatâd cynllunio a chytundeb cyfreithiol fydd yn ceisio lliniaru'r effeithiau ar yr ardal.

"Bydd materion fel adfer y prif adeiladau rhestredig, gwelliannau i briffyrdd a llwybrau troed oddi ar y safle, gwelliannau i fioamrywiaeth ac ecoleg, newid hinsawdd, yr iaith a'r diwylliant Cymreig, hyrwyddo defnydd deunyddiau lleol a chyfleon gwaith a hyfforddiant yn cael eu cynnwys fel rhan o'r caniatâd."

Pynciau cysylltiedig