Llafur Cymru'n canslo cynhadledd yn sgil pryder Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur Cymru wedi canslo ei chynhadledd ar gyfer 2021 wrth i'r blaid ragweld y bydd achosion Covid a phwysau ar y GIG yn cynyddu dros yr hydref.
Roedd y gynhadledd wedi cael ei symud o fis Chwefror eleni i rhwng 5 a 7 Tachwedd.
Dyw'r blaid heb gynnal cynhadledd ers 2019 oherwydd y pandemig, ac roedd disgwyl i tua 1,000 o bobl fynychu'r digwyddiad yn Llandudno ar ddechrau Tachwedd.
"Dydy'r feirws ddim wedi diflannu, ac yr awgrym yw y dylen ni ddisgwyl cyrraedd brig o ran achosion a phwysau ar systemau iechyd a gofal yn yr hydref," meddai llefarydd ar ran y blaid.
"Dyw hi ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd ond rydyn ni'n credu mai dyma'r un cywir."
Daw'r penderfyniad ddiwrnod yn unig wedi i arweinydd y blaid, y Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud fod bywydau pobl Cymru "bron yn ôl" i sut oedd pethau cyn y pandemig.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i gynhadledd wanwyn y blaid gael ei gynnal rhwng 11 a 13 Mawrth 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021