Blog Vaughan: Glo Mân

  • Cyhoeddwyd

Roeddwn i'n gyrru lawr Cwm Rhondda fach y dydd o'r blaen am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig a bu'n rhaid i mi stopio'r car ar ôl gweld maint y graith ar y domen lo uwchben pentref Pendyrus.

Mae'n ddeunaw mis bellach ers i'r domen lithro yn ystod storom Dennis ond mae'r olygfa o hyd yn un arswydus - llawer mwy arswydus nac mae lluniau neu fideo yn gallu cyfleu.

I bobol o fy nghenhedlaeth i sydd yn gallu cofio'r digwyddiad mwyaf trawmatig yn hanes y Gymru fodern, ni ellir edrych ar yr erchyll beth hwn heb i atgofion arswydus ynghylch trychineb Aberfan hela ias oer lawr cefn dyn.

Mae'n anodd credu rhywsut bod 'na dal fod tomenni gwastraff yn sefyll ar lethrau serth cymoedd y de hanner canrif a mwy ers i faw llaid foddi ysgol Pantglas.

Yn ôl asesiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae 'na o hyd dros 2,000 o domenni gwastraff glo yng Nghymru ac mae rhyw 300 o rheiny'n creu "risg i bobl, eiddo neu seilwaith allweddol" yng ngeiriau'r Awdurdod Glo.

Gallwn gyd gytuno gobeithio fod hi'n hen bryd cael gwared ar y pethau melltigedig yma. Y cwestiwn yw wrth gwrs: pwy sydd am dalu?

Yn ôl y trysorlys, Llywodraeth Cymru ddylai ysgwyddo'r baich, ac mae'n ymddangos bod Whitehall yn llygad ei lle yn gyfreithiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod y tomenni yn waddol hanesyddol a bod cyfrifoldeb moesol ar y Deyrnas Unedig i gyfrannu at y gost.

Boed felly ond, yn anffodus efallai, dyw moesoldeb ddim yn rhoi bara ar y ford a does dim arwydd o symud o du San Steffan.

Bob tro mae ffrae fel yr un yma yn codi ei phen mae'n werth cofio nad y gyfraith a moesoldeb yw'r unig ffactorau. Mae gwleidyddiaeth yn chwarae rhan hefyd.

Mae'n werth nodi bod Llywodraeth Lafur Cymru ar ei hennill beth bynnag yw'r penderfyniad terfynol.

Os ydy'r Deyrnas Unedig yn agor ei choffrau fe fydd Llywodraeth Cymru yn hawlio buddugoliaeth. Os na ddaw'r arian wel fe fydd hi'n brawf, yn ôl Llafur, o ba mor calon galed yw'r Ceidwadwyr.

Y peryg yw y gallai'r ddwy ochr edrych yn sinigaidd pe bai tomen arall yn llithro yn y cyfamser ond, y tro hwn, heb y waredigaeth wyrthiol a gafwyd pan lithrodd tomen Llanwynno i lawr y mynydd i gyfeiriad Pendyrys.

Pynciau cysylltiedig