Ateb y Galw: Y bardd Mari George
- Cyhoeddwyd
Y bardd Mari George sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Meirion Jones yr wythnos diwethaf.
Mae Mari'n dod o Ben-y-bont ar Ogwr ac yn gweithio fel is-deitlydd i gwmni Atebol yn ogystal ag yn awdur, golygydd a bardd llawrydd. Mae hi wedi symud yn ôl i Ben-y-bont i fyw gyda ei gŵr Gwyn ac yn magu dau o blant sef Elen a Morgan. Mae hi'n hoff o gerdded yn ei milltir sgwâr a theithio bob cyfle posibl.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod mewn car gyda fy mam-gu a fy nhad-cu Alltwen a Dad-cu'n rhoi afal melyn yn fy llaw. Roedd Dad-cu'n barddoni a bu farw pan oeddwn yn dair sydd yn drueni mawr achos bydden i wedi bod wrth fy modd yn trafod barddoniaeth gydag e dros y blynyddoedd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bro Ogwr. Ers y cyfnod clo rydym yn cerdded fel teulu bob un cyfle rydyn ni'n ei gael trwy gaeau'r dref, heibio cerrig gorsedd Eisteddfod Genedlaethol 1948, i Ferthyr Mawr gan groesi Pont y New Inn lle mae'r plant wrth eu bodd yn clywed hanes Cap Coch y llofrudd o'r 18fed ganrif.
Byddwn yn cyrraedd Castell Ogwr yn y pendraw ac yn croesi ato dros y cerrig camu hynafol. Mae twyni tywod Merthyr Mawr a thraeth Ogwr ynghyd â'r holl arfordir i Borthcawl i'r gorllewin a Southerndown i'r dwyrain yn wledd i'r llygaid. Dw i mor lwcus i fyw fan hyn.
Rydym hefyd yn gallu manteisio ar y cyfleustra o fod yn agos at yr M4 ac yn union rhwng Caerdydd ac Abertawe. Mae Bro Ogwr yn lle arbennig i fyw.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson gurodd Cymru Slofacia yn Bordeaux yn haf 2016. Roeddwn wedi teithio yno ar y trên yr holl ffordd o Ben-y-bont ac wedi bod yn ddigon lwcus i gael lle i aros reit yn y canol lle'r oedd y cyffro i gyd. Wedi'r gêm aethon ni gyd i ddathlu yn un o'r strydoedd bach lle'r oedd champagne yn rhatach na gwin.
Roedd hi fel Steddfod yn yr haul gyda ffrindiau yn gweld ei gilydd ar hap, llawer o ganu a phawb yn hapus, hapus. Ar y pwynt yna yn yr Ewros, roedd y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd wedi bod yn ddigon o gamp heb sôn am ennill y gêm gyntaf. Un o'r pethau mwyaf cofiadwy oedd y ffaith bod ffans Slofacia'n falch droston ni a hyd yn oed yn dathlu gyda ni.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Aderyn y nos.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan o'n i'n disgwyl Elen roeddwn i wedi darllen a darllen ac yn hollol benderfynol o gael genedigaeth holistig a naturiol heb unrhyw gyffuriau i leddfu'r boen. Un o'r cynghorion oedd i fwyta'n fân ac yn aml yn ystod yr enedigaeth.
Gyrhaeddon ni'r ganolfan eni gyda bag mawr o fwyd er mawr syndod i'r fydwraig. Wrth i'r boen fynd o ddrwg i waeth a minnau'n griddfan ac yn cydio'n dynn yn ochr y pwll dŵr, estynnodd Gwyn fanana o'r bag a'i bilio cyn ei roi dan fy nhrwyn.
"Stwffia dy blydi banana," oedd yr ateb gath e. "A cer i chwilio am gas and air!"
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ar ôl bod yn rhan o don o genedligrwydd gwta bythefnos yng nghynt yn Ffrainc, deffro ar fore Mehefin 24ain 2016.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn y cyfnod clo cyntaf. Pasio parc chwarae cyfagos a dim un plentyn yna a'r giât wedi ei gloi. Wedi rhyw gyfnod o fethu amgyffred a phrosesu sefyllfa swreal y pandemig, honna oedd y foment y profais bob emosiwn dan haul, ofn erchyll, tristwch enbyd o weld un farwolaeth ar ôl y llall ar y newyddion bob dydd ac euogrwydd o fod yn hunanol yn sgil fy nghaethiwed fy hun.
Roedd y gwacter hwn yn galw arna i i ateb cwestiynau mawr amdana i fy hun a dod i adnabod fi fy hun a'r hyn oeddwn i wir ei eisiau allan o fywyd. Dyma'r cyfnod i mi werthfawrogi fy nhre enedigol yn fwy nag erioed.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dw i'n gadael y tanc petrol yn wag i Gwyn ei lenwi, dw i'n yfed coffi sydd lawer yn rhy gryf a dw i'n addoli'r haul.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr ers yn blentyn yw The Lion, the Witch and the Wardrobe gan CS Lewis am iddo, yn llythrennol, agor y drws ar fyd newydd i mi.
Fy hoff ffilm erioed yw The Godfather Part 1. Mae'n wefreiddiol a Coppola ar ei orau. Yr actio, y cyffro, y tensiwn. Ac mae rhywbeth rhamantaidd ynddi er yr holl erchylltra. Mae'n rhyfeddol bod rhywun yn dod i uniaethu â dihirod misogynistaidd teulu'r Corleone er gwaetha popeth.
Mae golygfa hir, hir y briodas sy'n llawn ffasiwn y 70au ar ddechrau'r ffilm ac sy'n para hanner awr yn hudolus ac yn mynd dan groen pob un o'r cymeriadau mewn ffordd mor gynnil. Mae'r gerddoriaeth arswydus yn goron ar y cyfan.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Cranogwen. Am fenyw a hanner.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n gwisgo sanau i'r gwely ym mhob tywydd ac mae Sylvester Stallone wedi gafael yn fy llaw.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bydden i'n hedfan i Mallorca gyda'r teulu ac yn mynd i nofio yng nghynhesrwydd Môr y Canoldir ac yna'n ymlwybro i Bar Dia yn ninas Palma sef bar tapas ddarganfuom pan oedd hi'n bwrw glaw rhyw dro. Café cortado yn fan yna wedyn callamari, patatas bravas, gorgimychiaid, tortillas espanol, pimientos de padrón gyda gwydraid neu ddau o Rioja.
Wedyn bydden i'n teithio i bentref bach Sencelles reit yng nghanol yr ynys ac ail-fyw pryd o fwyd arbennig gawson ni yna ym mwyty bach Sa Cuina De N'Aina, pryd tri chwrs o orgimychiaid, mochyn bach wedi ei rostio a sorbet lemwn gyda vodka ynddo a gwin coch Mallorcaidd. Wedyn bydden i'n treulio'r prynhawn yn cysgu yn yr haul ac yn marw'n hapus.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Fe wnaeth yr artist Meirion Jones greu'r darlun hwn o Langrannog fel anrheg i fi ag Elen fy merch. Roedd e'n cofio bod ei dad Aneurin wedi gweld y ddwy ohonom ni ar faes Eisteddfod Abertawe. Roeddwn i'n dal Elen oedd yn dri mis oed yn fy nghôl ac roedd Aneurin wedi dweud ein bod yn destun darlun a'i fod am ein paentio.
Ddaeth y cyfle byth i hynny gael ei wireddu ond fe baentiodd Meirion y llun hyfryd hwn i ni. Dw i wrth fy modd â'r llun am fod Llangrannog yn golygu gymaint i ni fel teulu. Rydym wedi bod yn mynd â'r plant yna ar wyliau ers iddyn nhw gael eu geni a does dim yn well na dal peint oer o lager a gwylio'r haul yn machlud tu allan i'r Pentre Arms.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Mynd i'r Eisteddfod, mynd i'r babell lên, mynd i far syched ac yfed peint o Wrecsam Lager a tharo ar bobl ar hap dw i heb eu gweld ers sbel a chael y fraint o gwyno am fan bethau fel y tywydd a mwd.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Barbwr Boris Johnson