'Risg i blant oherwydd anghysondeb cofrestru'
- Cyhoeddwyd

Mae anghysondeb yn y rheolau yn creu risg i blant yng Nghymru wrth alluogi gweithwyr i osgoi cael eu cofrestru, yn ôl adroddiad newydd.
Ar hyn o bryd, does dim rhaid i weithwyr gofrestru mewn llefydd fel ysgolion annibynnol a chwmnïau preifat.
Mae arbenigwyr ar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro nawr yn galw am gofrestru bob unigolyn sy'n gweithio gyda phlant gyda'r Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd yn cydweithio gyda chyrff cyhoeddus i ddatrys y broblem.
"Mae'n amlwg bod risgiau lles i bobl ifanc yma, ac i rieni, gofalwyr, gwarcheidwaid a'r cyhoedd," meddai'r adroddiad.

Mae gweithwyr ieuenctid yn dweud bod plant wedi cyffroi o gael dychwelyd i glybiau
Mae 78,000 o bobl wedi'u cofrestru gyda'r CGA.
Mae'r rhain yn cynnwys athrawon a staff cynorthwyol mewn ysgolion cyhoeddus a cholegau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a phobl sy'n ymwneud â dysgu yn y gweithle.
Ond nid oes rhaid i oedolion sy'n gweithio i gymdeithasau tai, grwpiau ffydd neu fentrau preifat gofrestru.
'Cadw pobl ifanc yn ddiogel yn flaenoriaeth'
Y cyn-gomisiynydd plant, Keith Towler, oedd cadeirydd y bwrdd, sy'n adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd bod hi'n bwysig i waith ieuenctid ddigwydd mewn "safle diogel".
"Pan dwi'n siarad gyda phobl ifanc am waith ieuenctid, maen nhw wastad yn sôn am bwysigrwydd perthynas y gellir ymddiried gyda'u gweithwyr ieuenctid," meddai.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i staff ysgolion cyhoeddus gofrestru, ond nid oes gofyn i weithwyr ysgolion breifat wneud yr un peth
"Mae'r gwaith ieuenctid hwnnw'n cynnig rhywun wnaiff wrando arnyn nhw ac ymateb i'w pryderon, darparu cyngor a chymorth a cynnig cyfleoedd a phethau llawn hwyl i'w wneud.
"Rhaid i gadw pobl ifanc yn ddiogel fod yn flaenoriaeth i bawb, ond mae cofrestru hefyd yn gwella a datblygu safonau gwaith ieuenctid."
'Rhaid newid y gyfraith'
Y llynedd, cafodd pennaeth ysgol breifat yn Sir Ddinbych ei ddiswyddo ar ôl i'r arolygwyr ysgolion, Estyn, ddarganfod "methiannau lles" oedd yn creu risg o niweidio plant.
Cafodd Toby Belfield o Ysgol Rhuthun ei gyhuddo mewn adroddiadau papur newydd o anfon negeseuon anaddas i chwech o ferched.

Daeth arolygwyr i'r casgliad yn 2020 bod Ysgol Rhuthun heb gydymffurfio gyda rheolau iechyd, lles a diogelwch
Ar y pryd, dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland bod yr achos yn amlygu "bylchau" yn y rheolau i ysgolion annibynnol.
Mae Ms Holland nawr yn galw am newid, gan ddweud: "Dylid ehangu cofrestru i gynnwys nid yn unig i gynnwys pob gweithiwr ieuenctid, ond hefyd athrawon a gweithwyr ieuenctid dan hyfforddiant a staff lleoliadau addysg annibynnol.
"Mae angen newid y cyfreithiau'n ymwneud â chofrestru i'r CGA i sicrhau ein bod yn cryfhau trefniadau amddiffyn plant a phobl ifanc yn yr holl fannau ble maen nhw'n derbyn eu haddysg."
Mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro wedi argymell sawl newid gan gynnwys creu cynllun gweithlu i'r sector a sicrhau bod pawb yn gymwys i weithio gyda phobl ifanc.

Dywed yr arbenigwyr bod rhaid gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau ieuenctid
Dywedodd rheolwr polisi a materion cyhoeddus NSPCC Cymru, Viv Laing: "Mae'n hanfodol bod popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau bod modd ymddiried mewn staff a gwirfoddolwyr i gadw pobl ifanc yn ddiogel," meddai.
"Rydym yn credu y gall system gofrestru orfodol, ynghyd â pholisi, gweithdrefnau a hyfforddiant diogelu cyson, fod â photensial o sicrhau amgylchedd diogel i bobl ifanc ymhob lleoliad gwaith ieuenctid."
Dyddiau cynnar proses 'mapio'
Ar hyn o bryd, mae proses "mapio" ar ran Llywodraeth Cymru'n ceisio amcangyfrif y niferoedd sydd heb eu cofrestru.
Y Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol sy'n gwneud y gwaith, ac yn ôl ei brif weithredwr, Paul Glaze, mae'n ddyddiau "cynnar iawn" o ran y broses.
Dywedodd eu bod "ar fin dechrau prosiect ymchwil 12 mis gyda chymorth academaidd" ar draws Cymru a bod pawb "yn gyffrous" ynghylch ei gwblhau.
Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn dweud y bydd yn cymryd camau i sicrhau bod cofrestru a diogelu gwaith ieuenctid "â chydraddoldeb gydag adrannau eraill y sector addysg".
Dywedodd prif weithredwr y CGA, Hadyen Llywelyn: "Rydym yn croesawu'r ymrwymiad y gweinidog i ddatrys y anghysonderau cofrestru presennol o ran staff gwaith ieuenctid sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad.
"Mae diogelwch o bobl ifanc a dysgwyr yng Nghymru o'r pwys mwyaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff gwaith ieuenctid i ddatrys y bylchau presennol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2021
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2021