Plant mor ifanc ag 11 oed 'dan bwysau i anfon lluniau noeth'

  • Cyhoeddwyd
Plant ar ffonau symudol

Mae honiadau o ymosodiadau rhyw ymysg plant ysgol yn cael eu hymchwilio gan heddlu, ar ôl i fwy na 90 o ysgolion yng Nghymru cael eu henwi mewn ymgyrch ar-lein.

Cafodd y wefan Everyone's Invited ei dechrau i helpu disgyblion i rannu profiadau o gamdriniaeth ac aflonyddu tra'n aros yn ddienw.

Dywedodd rhai disgyblion wrth BBC Cymru Fyw ei bod hi'n gyffredin i ferched mor ifanc ag 11 cael eu rhoi dan bwysau i anfon lluniau noeth o'u hunain, ac roedd nifer ohonynt yn derbyn lluniau anaddas heb ofyn oddi wrth fechgyn bron bob nos.

Dywedodd y gweinidog addysg ei fod wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru yn dilyn yr honiadau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddau achos yn gysylltiedig â thystiolaeth ar y wefan.

Ni wnaeth Heddlu Dyfed Powys na Heddlu De Cymru ddarparu ffigyrau, a dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw wedi agor unrhyw achosion.

Fe fydd arolygwyr ysgolion o'r corff rheoleiddio addysg Estyn yn dechrau mynd mewn i ysgolion ar ddiwedd mis Medi i ymchwilio i "aflonyddu rhywiol ymysg disgyblion".

Fe wnaeth ymchwiliad tebyg yn Lloegr ddarganfod bod aflonyddu rhywiol wedi'i 'normaleiddio' ymysg plant ysgol.

Dywedodd Neil Foden, prifathro Ysgol Friars ym Mangor - un o'r ysgolion yng Nghymru gafodd ei henwi ar wefan Everyone's Invited - bod prifathrawon yn "twyllo ei hunain" os oedden nhw'n credu nad yw aflonyddu rywiol yn broblem.

"Mae yna, dwi'n meddwl, ddiwylliant ymysg rhai disgyblion yma, fel y bydd mewn mwyafrif o ysgolion eraill, lle dydy pobl ddim yn deall y ffin rhwng beth sy'n jôc a beth sy'n anaddas," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden yn credu bod rhaid i ysgolion newid er mwyn daclo'r problem.

Dywedodd Mr Foden bod "camymddygiad difrifol" yn anghyffredin ond polisi'r ysgol, ynghyd â gweithio gyda'r heddlu, yw gwahardd y rhai sy'n gyfrifol.

"Ar un adeg roedd rhaid i mi wahardd un disgybl yn barhaol," meddai.

"Ymhell cyn i'r wefan yma fodoli, dylai ysgolion fod wedi bod yn edrych ar eu dulliau o weithredu.

"Rhywbeth mae hyn wedi gorfodi ni i neud yw ailedrych ar ein gweithdrefnau."

300 o droseddau

Dywedodd er y bydd nifer o bobl wedi'u "brawychu" gan rai o'r straeon cafodd eu postio ar wefan Everyone's Invited, roeddent yn gyfarwydd i'r mwyafrif o athrawon.

Dywedodd Cwnstabl Dylan Pritchard, sy'n gweithio fel swyddog ysgolion i Heddlu De Cymru, bod cyfryngau cymdeithasol a lluniau anaddas wedi dod yn un o'i broblemau mwyaf.

"Dwi'n credu ei bod hi'n mynd yn waeth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr heddlu, mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwaethygu'r problem o aflonyddu rhywiol.

"Ond fedr hyn fod oherwydd mod i'n gwybod mwy am y broblem, ac rydym yn annog pobl ifanc i siarad.

"Mae lluniau anaddas yn cael eu rhannu'n aml. Mewn rhai achosion yng Nghymru, ni wedi gweld digwyddiadau lle mae'r lluniau yma [o'r merched] yn cael eu rhannu ar draws yr ysgol - a falle i rannau eraill o'r we," ychwanegodd.

Mae'r NSPCC wedi dod o hyd i ffigyrau sy'n dangos y cafodd dros 300 o droseddau yn ymwneud â chyfathrebu rhywiol gyda phlant - sy'n medru cynnwys gofyn i blant ddanfon lluniau noeth - eu cofnodi rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn cydweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i helpu dioddefwr posib i "dorri rhwystrau i lawr".

"Yn y dyfodol, byddwn yn hoffi os na fyddai angen i blant defnyddio gwefan anhysbys i siarad," meddai'r Ditectif Prif Arolygydd dros-dro, Myfanwy Kirkwood.

'Lot o waith i'w wneud'

Dywedodd ei bod yn "erchyll" i weld gymaint o dystiolaeth wedi'u postio gan ferched yng Nghymru, yn enwedig wrth ystyried bod nifer ddim wedi siarad â swyddogion.

"Rydym yn deall yn hollol bod hyn yn faes anodd a chymhleth," meddai.

"Falle mai dynamig teulu sy'n rhwystro pobl rhag siarad, neu mae pobl eisoes wedi cael profiad gwael gyda'r heddlu, neu falle eu bod nhw wedi cael profiad gwael mewn amgylchedd addysg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Myfanwy Kirkwood bod y straeon ar Everyone's Invited yn "erchyll."

"Wrth edrych ymlaen, mae dal lot o waith i wneud i dorri rhwystrau i lawr a chyrraedd pwynt lle does dim angen system adroddiadau dienw," ychwanegodd.

Dywedodd Ms Kirkwood gall paratoi adroddiad ar Everyone's Invited fod y cam cyntaf, gyda swyddogion yn barod i helpu a gwrando pan fydd merched yn barod.

'Pryderu'n fawr'

Dywedodd y gweinidog addysg ei fod wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru yn dilyn yr honiadau.

Ychwanegodd Jeremy Miles ei fod eisiau sicrwydd gan bob ysgol bod "systemau mewn grym i gefnogi disgyblion yn y sefyllfa yma".

Dywedodd bod clywed bod y fath droseddau wedi eu normaleiddio yn ei "bryderu'n fawr".

"Dwi am i bobl godi eu llais a dweud pan mae hyn yn digwydd er mwyn iddyn nhw gael cefnogaeth ac i'r ysgolion sicrhau bod gyda nhw systemau i gefnogi'r unigolyn."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yr haf yma, fe wnaeth y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg ofyn i Estyn gynnal adolygiad o'r diwylliant a phrosesau mewn ysgolion uwchradd i warchod a chefnogi pobl ifanc.

"Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr."