Menyw wedi marw o'i hanafiadau dridiau wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Tyntyla, LlwynypiaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y fenyw ei dal yn sownd yn yr eiddo ar Ffordd Tyntyla

Mae menyw 28 oed gafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn tân ddydd Mawrth wedi marw o'i hanafiadau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Ffordd Tyntyla, Llwynypia yn Rhondda Cynon Taf lle'r oedd y fenyw yn sownd.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe mewn cyflwr difrifol iawn.

Cafodd dyn 26 oed ei arestio ar y pryd, ond yna cafodd ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad gyda'r heddlu'n dweud nad oedd y tân yn ganlyniad i weithred droseddol.

Dywedodd Heddlu'r De fod swyddogion arbenigol yn cynnig cefnogaeth i deulu'r fenyw, a bod ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau ar ran y crwner.

Pynciau cysylltiedig