'Angen i'r Blaid Lafur Brydeinig ddysgu gwersi gan Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dywed y Prif Weinidog y gall y Blaid Lafur Brydeinig ddysgu llawer gan Llafur CymruFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Prif Weinidog y gall y Blaid Lafur Brydeinig ddysgu llawer gan Llafur Cymru

Mae angen i'r blaid Lafur Brydeinig ddysgu o lwyddiant y blaid yng Nghymru os ydyn nhw am ddychwelyd i lywodraethu yn San Steffan, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Wrth annerch cynhadledd y blaid yn Brighton, pwysleisiodd Mark Drakeford bod Llafur eisoes yn "adeiladu gwasanaethau cyhoeddus blaengar" ar lefel leol a chenedlaethol.

Wedi llwyddiant y blaid yn etholiadau'r Senedd ac wedi iddo gael proffil uwch yn ystod y pandemig, cafodd Mark Drakeford slot mwy blaenllaw yn y gynhadledd eleni.

Yn ystod yr araith dywedodd bod rhaid i'r arweinyddiaeth edrych at Gymru am ysbrydoliaeth os ydyn nhw am gael llwyddiant ar lefel Brydeinig eto.

Yr her i Keir Starmer yr wythnos hon yw amlinellu beth fyddai yn ei wneud petai'n brif weinidog, a dangos ei fod o ddifri' ynglŷn â llywodraethu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog wedi cael slot gwell yn y gynhadledd eleni wedi ei berfformiad yn ystod y pandemig

Mae Mark Drakeford yn credu y gall y polisïau Llafur sydd ar waith yng Nghymru ac ardaloedd o Loegr annog etholwyr mewn ardaloedd eraill i gefnogi'r blaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

"Mae'r gynhadledd yma yn gyfle i atgoffa ein hunain, er nad ydym yn llywodraethu yn San Steffan, bod y blaid Lafur yn gwneud gwahaniaeth bob dydd - mewn ardaloedd a chymunedau ar draws Prydain," meddai.

"Dylen ni edrych ar lwyddiannau'r blaid Lafur ar draws Lloegr, Yr Alban a Chymru a deall beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am sut y gall Llafur ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf."

Ychwanegodd Mr Drakeford bod profiad Llafur o ennill yng Nghymru yn golygu "na ddylai uchelgais y blaid yma fod i ennill consesiynau bach ac amharod gan y cyfoethog, pwerus a breintiedig".

Daw'r gynhadledd yn ystod cyfnod cythryblus yn y blaid yn dilyn dadleuon mewnol ynglŷn â faint o ddylanwad mae aelodau yn cael ar arweinwyr ac aelodau seneddol.

Dros y penwythnos, fe wnaeth Llafur gefnogi penderfyniad Syr Keir Starmer i roi mwy o bwerau i aelodau seneddol wrth ddewis arweinwyr, a'i gwneud yn anoddach i aelodau'r blaid ddad-ddewis ASau.

Yn ei araith, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru amddiffyn gwaith ymgyrchwyr o fewn y blaid, gan ddweud eu bod yn hanfodol er mwyn i Lafur ennill pŵer.

"Yn y gorffennol mae wedi bod yn ffasiynol i edrych yn amheus ar y rhai sy'n gweithio'n frwdfrydig o fewn Llafur," meddai.

"Ond y gwirionedd yw, yn y llefydd lle mae Llafur mewn pŵer, mae'n stori hollol wahanol."

Ychwanegodd Mr Drakeford bod ymgyrchwyr yn "ein helpu ni i ennill".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig edrych ar yr hyn mae Llafur Cymru yn ei wneud, medd Nia Griffith AS

Yn ôl Nia Griffith AS, llefarydd y blaid ar Gymru yn San Steffan "mae mor bwysig bod pobl yn gallu gweld beth mae Llafur yn gallu 'neud mewn pŵer".

"Pan 'da chi'n gweld Llywodraeth Llafur Cymru yn 'neud pethau, chi'n meddwl - wel mae hyn yn bosib a wedyn bydd e'n bosib hefyd i Llafur ar draws y Deyrnas Unedig. Dyna pam mae mor bwysig bod ni yn 'neud pethau, i roi'r cyfle i bobl weld beth ni yn gallu neud."

Ond mae Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon, wedi mynegi pryder ynghylch siawns y blaid o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf a hynny oherwydd diffyg "polisïau radical, blaengar".

Mae hi wedi beirniadu'r ffrae am reolau mewnol y blaid sydd wedi dominyddu dechrau'r gynhadledd.

"Dylen ni fod yn canolbwyntio ar herio'r Ceidwadwyr yn hytrach na checru'n fewnol ac rwy' wirioneddol yn gobeithio wrth symud ymlaen, yn y gynhadledd, y byddwn ni'n canolbwyntio ar y polisïau trawsnewidiol, blaengar hynny mae'n rhaid eu cael," meddai.