Gareth Bale allan o garfan Cymru ar gyfer gemau mis Hydref
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i Gymru ymdopi heb Gareth Bale ar gyfer gemau hollbwysig fis Hydref yn erbyn y Weriniaeth Siec ac Estonia.
Nid yw rheolwr Cymru Robert Page wedi ei enwi yn y garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd am fod ganddo anaf.
Mae Aaron Ramsey yn ôl yn dilyn anaf, yn ogystal â Kieffer Moore a Connor Roberts.
Mae 'na un enw newydd yn y grŵp hefyd, wrth i ymosodwr Huddersfield, Sorba Thomas, gael ei gynnwys am y tro cyntaf.
Dim canfed cap i Bale
Mae capten Cymru wedi methu pum gêm ddiwethaf Real Madrid gyda'r hyn a ddisgrifiodd eu rheolwr Carlo Ancelotti fel anaf "pwysig".
Roedd disgwyl i brif sgoriwr Cymru - sydd wedi sgorio 36 gôl mewn 99 ymddangosiad - ennill ei ganfed cap dros ei wlad yn Prague ar 8 Hydref.
Ar nodyn fwy cadarnhaol, mae Aaron Ramsey yn dychwelyd i'r garfan.
Daeth ymlaen fel eilydd i Juventus ddydd Sul, ar ôl colli tair gêm dros ei wlad ym mis Medi gydag anaf i'w glun.
Chwaraeodd Bale yn y dair, gan sgorio hat-tric i gipio buddugoliaeth ddramatig o 3-2 yn erbyn Belarws yn Rwsia.
Ond roedd yn rhwystredig dridiau'n ddiweddarach ar ôl gêm gyfartal ddi-nod gartref i Estonia.
Mae hynny'n gadael Cymru'n drydydd yng Ngrŵp E ar gyfer Cwpan y Byd Qatar 2022, yn lefel ar bwyntiau gyda'r Sieciaid, ond naw pwynt y tu ôl i Wlad Belg.
Mae eu gêm ragbrofol oddi cartref yn erbyn Estonia yn Tallinn ddydd Llun, 11 Hydref.
Carfan Cymru i wynebu'r Weriniaeth Siec ac Estonia:
Golwyr: Wayne Hennessey, Daniel Ward, Adam Davies;
Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Tom Lockyer, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies;
Canol cae: Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Ethan Ampadu, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Matthew Smith, Dylan Levitt;
Ymosodwyr: Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris, Sorba Thomas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd5 Medi 2021