Dyn o Frasil yn dweud 'diolch' drwy greu ap i ddysgwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r person cyntaf erioed i sefyll prawf dinasyddiaeth y DU yn Gymraeg wedi creu ap i ddysgwyr er mwyn diolch am y gefnogaeth gafodd o gan bobl Cymru.
Flwyddyn yn ôl fe ofynnodd Dr Rodolfo Piskorski i gael gwneud ei brawf am hanes a gwerthoedd Prydain, sy'n rhaid ei basio fel rhan o'r broses dinasyddiaeth, yn y Gymraeg er nad oedd yn rhugl - gan mai dim ond yng Nghymru roedd wedi byw.
Fe roddodd y gŵr o Frasil apêl ar y we i'w helpu i dalu'r ffi o £1505 am y broses gyfan o ddod yn Brydeiniwr ac o fewn dyddiau roedd wedi cyrraedd ei darged.
Felly i ddiolch am y gefnogaeth, dros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio ar ap arbennig i helpu dysgwyr eraill.
Ap am ddim
Pan mae Rodolfo yn darllen Cymraeg ar y we dydy pwyso botwm i gael cyfieithiad ddim yn ddigon iddo. Fel dysgwr ac athro iaith mae'n teimlo bod angen deall mwy am y geiriau a'r rheolau iaith sydd tu cefn i'r brawddegau er mwyn dysgu'n iawn.
Meddai: "Pan mae rhywun yn darllen rhywbeth, fel Cymru Fyw, a ddim yn deall y frawddeg dydy rhywun ddim eisiau dim ond cyfieithiad. Does dim pwynt os dydy rhywun ddim yn dysgu dim byd.
"Mae deall y gramadeg hefyd yn help i wybod pa ran o'r frawddeg mae'n rhaid ei deall a pa ran sy'n bosib ei anwybyddu am y tro. Er enghraifft, mae gair mewn brawddeg weithiau'n gallu bod yn ferf neu rywbeth arall, fel ansoddair - ac os mai ansoddair ydi o, mae posib deall y frawddeg hyd yn oed os nad ydyn nhw'n deall yr ansoddair."
Gan fod yr adnoddau ar gael yn ei le gwaith fel ieithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a'i bartner gyda'r sgiliau cyfrifiadurol angenrheidiol, fe benderfynodd greu ap i helpu dysgwyr a'i roi i'w ddefnyddio am ddim ar y we.
Hawdd i'w ddefnyddio
Roedd yn rhaid gwneud yr ymchwil ieithyddol er mwyn rhoi'r data yn y system a chreu cod cyfrifiadurol i 40 reol gramadeg. Roedd yn rhaid cynnwys yr holl eithriadau a rheolau iaith fel treiglo hefyd.
Mae Rodolfo wedi ceisio gwneud yr ap hir-iaith Hi-lite yn hawdd i'w ddefnyddio, ac mae'n addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am yr iaith.
Mae'r defnyddiwr yn amlygu brawddegau ar y we ac yna mae'r ap yn egluro'r holl eiriau ac ymadroddion, gyda chyfieithiad a gwybodaeth ramadegol ddefnyddiol. Mae hefyd yn egluro treigliadau, yn rhoi opsiwn o glywed ynganiad geiriau ac mae'n bosib cadw cofnod o eirfa.
"Fe wnaeth nifer o bobl wirfoddoli i roi cynnig ar yr ap cyn iddo fynd yn fyw - pobl yng Nghymru a Lloegr, ond hefyd ar draws y byd yn America a Mecsico," meddai Rodolfo. "Wnaethon nhw chwarae o gwmpas efo fo a chynnig newidiadau ac egluro beth fyddai'n gweithio'n well - felly mae angen diolch iddyn nhw.
"Roedd yn lot o waith ond yn hwyl, ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôI wedi i mi gael yr holl gefnogaeth."
Mae'r ap ar gael ar wefan Hir-iaith, dolen allanol a fideo ar sut i'w ddefnyddio ar sianel YouTube, dolen allanol Rodolfo.
Hefyd o ddiddordeb: