Pêl-droed rhyngwladol i ddychwelyd i'r Principality?

  • Cyhoeddwyd
Juan Roman Riquelme a Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ariannin v Cymru, 2002: Bu Stadiwm y Mileniwm yn gartref pêl-droed Cymru rhwng 2000 a 2009

Mae arweinwyr pêl-droed Cymru yn ystyried y posibilrwydd o ddychwelyd i chwarae gemau rhyngwladol yn Stadiwm Principality unwaith eto.

Dim ond unwaith y mae Cymru wedi chwarae yno ers 2011 - yn erbyn cyn-bencampwyr Ewrop a'r byd, Sbaen ym mis Hydref 2018.

Roedd ychydig dros 50,000 yn y gêm gyfeillgar honno - colled o 4-1 - gyda'r stadiwm yn dal hyd at 74,500.

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd â 33,280 o gapasiti, wedi bod yn gartref poblogaidd a llwyddiannus i dîm cenedlaethol y dynion dros y degawd diwethaf.

Fe lwyddodd Cymru i fynd drwodd i rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop yn 2016 a 2020.

"Mae gennym ni gytundeb â Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae pawb yn hoff iawn o fynd yno," meddai prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Noel Mooney wrth asiantaeth newyddion PA.

"Ond byddwn ni'n siarad ag Undeb Rygbi Cymru yn hwyr yr wythnos nesaf. Yn sicr, rydyn ni mewn trafodaethau gyda nhw.

"Dim ond i sicrhau, os daw gêm, ble nad yw Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael am ba bynnag reswm.

"Neu os oes teimlad cryf go iawn bod pobl eisiau mynd i Stadiwm Principality."

Y flwyddyn nesaf, bydd Cymru'n wynebu gêm ail gyfle bosib yng Nghwpan y Byd ym mis Mawrth, cyn herio rhai o fawrion Ewrop ym mis Mehefin a mis Medi ar ôl cael eu dyrchafu i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.

Ar y posibilrwydd o symud gemau i Stadiwm Principality, ychwanegodd Mooney: "Mae'n rhywbeth y gallem ei wneud. Pam lai?"