Andy Morrison yn gadael Cei Connah 'mewn lle cryf iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae Andy Morrison wedi dweud ei fod yn gadael Cei Connah "mewn lle cryf iawn", ar ôl cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel rheolwr y clwb ar ôl chwe blynedd.
Yn y cyfnod hwnnw fe lwyddodd y Nomadiaid i ennill Cwpan Cymru yn 2018, ac yna'r Cymru Premier yn 2020 a 2021.
Pan gymerodd Morrison, 51, yr awenau roedd Cei Connah ar waelod Uwch Gynghrair Cymru - fel oedd hi'n cael ei 'nabod ar y pryd.
Ond fe lwyddodd i droi'r tîm yn un oedd yn cystadlu ar frig y gynghrair ac yn cyrraedd cystadlaethau Ewropeaidd yn gyson.
Ymhlith eu buddugoliaethau mwyaf nodweddiadol yn Ewrop roedd trechu Stabæk o Norwy yn 2016, a Kilmarnock o'r Alban yn 2019.
Llwyddodd y clwb hefyd i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban yn 2019, cyn ennill y gynghrair yng Nghymru ddwywaith gan dorri rhediad hirfaith Y Seintiau Newydd.
Ar ôl saith gêm y tymor yma mae'r clwb yn chweched yn y tabl, wyth pwynt y tu ôl i'r Seintiau ar y brig.
"Yr wythnos yma rydyn ni wedi llwyddo i ennill dwy gêm gwpan anodd, rydyn ni dri phwynt yn brin o safle Ewropeaidd hyd yn oed mor gynnar â hyn, ac mae'r garfan gyfan yn ffit unwaith eto," meddai Morrison.
"Felly dwi'n pasio'r awenau draw i bwy bynnag sy'n cymryd drosodd mewn lle cryf iawn, a dwi'n dymuno pob dymuniad da i'r clwb yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021