Cei Connah yn Bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Cei ConnahFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cei Connah yn dathlu ar ôl ennill y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn

Mae Cei Connah wedi dal eu gafael ar deitl Uwch Gynghrair Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol gyda buddugoliaeth 2-0 ym Mhenybont ar ddiwrnod olaf y tymor.

Rhoddodd peniad George Horan o groesiad Aeron Edwards y dechrau perffaith i Gei Connah ar ôl pedwar munud.

Gyda 15 munud yn weddill o'r gêm fe beniodd Edwards i sicrhau'r ail deitl yn olynol i dîm Andy Morrison.

Roedd buddugoliaeth y Nomadiaid yn golygu bod buddugoliaeth 2-0 Y Seintiau Newydd dros Bala yn ofer.

Y llynedd, cafodd y Nomadiaid eu coroni yn bencampwyr wedi i'r tymor ddod i ben yn ddisymwth oherwydd Covid-19.

Wedi'r gêm, dywedodd Andy Morrison: "Mae'n debyg ei fod yn un o'r digwyddiadau yna lle byddaf yn deffro yfory a bydd popeth yn dod yn glir.

"Roedd mor bwysig i mi, i'm balchder personol fy hun. Rwy'n ddyn balch iawn ac nid wyf am gael unrhyw beth.

"Ni oedd y tîm gorau'r llynedd ac eleni rydyn ni wedi cadarnhau hynny. Felly rydyn ni wedi ennill dau deitl heddiw, nid un yn unig, a dyna sy'n golygu llawer i mi.

Ffynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

George Horan yn dathlu ar ôl rhoi Cei Connah ar y blaen yn erbyn Penybont

"Efallai y bydd pobl yn dweud bod yn rhaid i chi adael i'r pethau hyn fynd ond alla i ddim. Roedd yn rhaid i mi sicrhau ein bod ni'n rhoi o'n gorau eleni ac roedd yn adlewyrchu'r hyn wnaethon ni'r llynedd ac rydyn ni wedi'i wneud.

"Fe wnaethon ni weithio mor galed y llynedd. Roeddwn i yn y gegin, ar fy mhen fy hun y llynedd, pan ddyfarnwyd y teitl i ni ac nid oeddwn gyda'r chwaraewyr y mae gen i gysylltiad agos gyda nhw, ac wedi tyfu i garu nhw dros y blynyddoedd.

"Chawson ni ddim y dathliadau ac roedd yn arbennig heddiw oherwydd roedden ni i gyd gyda'n gilydd ac roedd yn iawn."

Pynciau cysylltiedig