Abergele yn paratoi ar gyfer ail gyfres I'm a Celebrity...
- Cyhoeddwyd
Cafodd Castell Gwrych a gogledd Cymru sylw mawr y llynedd pan ddaeth y rhaglen deledu I'm a Celebrity Get Me Out of Here i'r ardal.
Bu'n rhaid ail-leoli'r gyfres boblogaidd gan fod y pandemig yn gwneud hi'n amhosib i'w chynnal yn ei chartref arferol yn Awstralia.
Gyda'r pandemig yn parhau, bydd y gyfres yn dychwelyd i'r castell ger Abergele cyn diwedd y flwyddyn ac mae 'na hen edrych ymlaen.
Rŵan mae Ymddiriedolaeth Castell Gwrych wedi cyhoeddi llyfryn lliwgar yn adrodd yr hanes a beth oedd yn rhaid gwneud i'r castell hynafol i'w gael o'n barod ar gyfer Ant, Dec a'r sêr eraill y llynedd.
"Roedd yn rhaid sicrhau bod y waliau i gyd yn saff, er mwyn i'r ffilmio fynd ymlaen," meddai Rhŷn Williams, gwirfoddolwr gyda'r ymddiriedolaeth.
"Roedd 'na rhywfaint o craciau yn y waliau so oedd yn rhaid achub hwnnw yn gyntaf... oedd o'n dipyn o waith er mwyn sicrhau bod hwnnw'n saff.
"Mae'r castell yn wag i gyd. Mae angen gwneud yn siŵr bod pob dim yn saff er mwyn y dyfodol [ac] er mwyn cael y lle i weithio yn iawn."
Mae Ymddiriedolaeth Castell Gwych wedi agor siop yn Abergele ar thema I'm a Celebrity.
Ei phwrpas yw tynnu sylw at y rhaglen a chodi arian ar gyfer adnewyddu'r castell yn y tymor hir, ac mae'r lle'n boblogaidd iawn efo pobl leol a thwristiaid.
Mae'r Cynghorydd Delyth MacRae, aelod o Gyngor Tref Abergele, yn gobeithio bydd modd i'r ardal elwa fwy fyth eleni efo rheolau Covid yn llacio.
"Mi oedd 'na fwrlwm mawr yma flwyddyn dwetha' yn y dref, yn enwedig efo'r busnesau bach," meddai.
"Ond yn anffodus oedd Covid wedi hitio hefyd yn doedd, felly doedd 'na ddim llawer o lefydd ar agor.
"Oedd pobol yn troi fyny i lan y môr ar fin nos, yn dod â picnics efo nhw a bob peth gan bod 'na ddim byd yn agored, i weld y goleuadau mawr ar y castell.
"Flwyddyn yma mae pawb yn gobeithio bydd y Covid wedi gwella a gawn ni amser da iawn, ac y ceith y busnesau bach roi hwb i'r economi yma yn Abergele, yn Sir Conwy ac yng ngogledd Cymru hefyd.
"Mae o'n mynd i wneud gwahaniaeth y flwyddyn yma. Oedd 100,000 o bobol wedi dod i weld y castell ac mae hynny yn sgil y sioe I'm a Celeb...
"Yn y ddwy flynedd cyn hynny oedd 'na ryw 30,000 o bobol wedi ymweld so mae o'n dangos bod 'na fwrlwm yn mynd i fod yma yn Abergele."
Mae'n gwestiwn arall a fydd y gyfres yn dod yn ôl i Gastell Gwrych y flwyddyn nesa' hefyd am drydedd gyfres.
Mae'r arwerthwr Prys Jones yn gobeithio hynny ac yn dweud y bydd 'na groeso mawr yn disgwyl y tyrfaoedd yn Abergele
"Mae'r dref yn buzzio, fel ma' nhw'n dweud, yn sôn amdano oherwydd ddoe hefyd ddaru ni glywed bod nhw'n cymryd opsiwn am ddod flwyddyn nesa' hefyd.
"Mae hynny yn beth braf i'r dref ac i'r gymuned ac i Gymru bod o'n dŵad yma. Oherwydd bod nhw wedi bod llynedd ac yn dod eleni mae'r twristiaeth wedi ehangu'r dre...
"Mae 'na fobol da [yn Abergele], mae 'na siopa da… ma' nhw gyd wedi dweud bod y croeso [i ymwelwyr] yn anhygoel a phawb yn hapus bod nhw'n dod."
Giovanna Fletcher oedd 'brenhines' Castell Gwrych y llynedd.
Mae ITV eto i gadarnhau pwy sy'n cymryd rhan eleni a phryd fydd y gyfres ymlaen ond mae fel arfer yn cael ei darlledu rhwng canol Tachwedd a chanol Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020