'Blaenoriaethu troseddau difrifol nid pàs Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
People dancing in nightclubFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd hi'n orfodol dangos pàs Covid yng Nghymru mewn clybiau nos o 11 Hydref

Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys ei fod yn bryderus am ba mor ymarferol fydd hi i blismona y pás Covid newydd a allai ddod i rym ganol Hydref.

Rhaid i blismyn roi blaenoriaeth i droseddau difrifol, medd Dafydd Llywelyn, yn hytrach na gwirio a yw pás Covid yn un ffug ai peidio.

Bydd pleidlais ar y pás yn y Senedd ddydd Mawrth ac os yw'r cynnig yn cael sêl bendith bydd yn dod i rym ar 11 Hydref.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai cyflwyno'r pás sicrhau fod busnesau yn aros ar agor pan fo nifer yr achosion yn uchel.

Fe fyddai pobl yng Nghymru angen pás Covid i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mwy.

Byddai'r pás yn dangos fod person wedi cael ei frechu ddwywaith neu wedi cael prawf negyddol o fewn y 48 awr ddiwethaf.

Dywed Mr Llywelyn y byddai plismyn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau "sy'n debygol o greu y niwed mwyaf i gymuned" ac y byddent ond yn ymyrryd ag achosion cysylltiedig â phás Covid petai "torcyfraith difrifol".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwneud ffugio canlyniad prawf Covid unffordd er mwyn cael pàs Covid yn drosedd.

Ar y dechrau, dywed Mr Llywelyn, bod angen i reolwyr digwyddiadau ac awdurdodau lleol ddelio gyda'r rhai sy'n torri'r gyfraith er mwyn osgoi "gwaith ychwanegol" i'r heddlu.

Mae'n annog y cyhoedd i ufuddhau i'r rheolau newydd ac yn dweud nad yw'n disgwyl i nifer fawr o bobl fynd yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth bosib.

Bydd unrhyw un sydd dros 16 ac sydd wedi cael ei frechu'n llawn yng Nghymru neu Loegr neu sydd wedi cael prawf Covid negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf yn gymwys i gael pás.

Sut mae cael pás Covid?

Mae'r pás ar gael drwy wefan y GIG ac nid drwy'r app yng Nghymru.

Rhaid mynd drwy sawl cam i gofrestru, gan gynnwys dangos llun o'ch cerdyn adnabod.

Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn mae modd cael pás drwy ffôn neu gyfrifiadur.

Os bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio ddydd Mawrth bydd pás yn orfodol i unrhyw un dros 18 sydd am fynd i:

  • Glybiau Nos;

  • Digwyddiad sefyll tu mewn ar gyfer mwy na 500 o bobl;

  • Digwyddiad sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;

  • Unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys dros 10,000 o bobl, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon.

Mae rhai lleoedd eisoes yn gorchymyn pás Covid, gan gynnwys gwyliau a digwyddiadau cerddorol.

Fe benderfynodd Clwb yr Academi ym Mangor eu cael ar gyfer wythnos y glas er mwyn rhoi sicrwydd i bobl sy'n mynd yno.

'Teimlo'n well'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ash James sy'n rheolwr clwb nos bod y rhan fwyaf o bobl yn ffafriol i bás Covid

Dywed y rheolwr Ash James ei fod wedi ei synnu gydag agwedd gadarnhaol myfyrwyr.

"Mae'r rhan fwyaf o'u plaid ac yn teimlo'n hapusach dod i le sy'n gofyn amdanynt," meddai.

Ond dywed bod cael trefn lle mae angen pás yn gallu bod yn heriol.

"Rhaid cael tipyn o staff wrth y drws i helpu pobl i lawrlwytho y pás," meddai ond dywed bod myfyrwyr wedi cael un eisoes yn ystod y ddwy noswaith olaf.

'Her ar y dechrau'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Beca Evans a Brengain Rhys bod cael pás yn rhoi hyder iddyn nhw

Dywed Beca Evans, 18, sy'n fyfyriwr ym Mangor bod hi'n "ychydig o her cael y pás i ddechrau" ond unwaith eich bod wedi gwneud cais am un roedd e'n hawdd.

"Roedd un merch yn fy fflat wedi methu mynd allan un noson am nad oedd wedi clywed amdano mewn pryd," ychwanegodd.

"Ond unwaith roeddech wedi cael un, dim ond dangos y pás wrth ddrws y clwb oedd angen ac roeddech yn cael mynd mewn."

Dywed Brengain Rhys, 18, sydd hefyd yn fyfyriwr ym Mangor bod cael pás yn ei gwneud i deimlo yn "fwy diogel".

"Mae'n rhoi sicrwydd meddwl i chi achos chi'n gwybod bod pawb yn y clwb heb Covid," meddai.

Dywed rhai clybiau eu bod yn teimlo eu bod wedi'u targedu ac y gallent golli hyd at 30% o'u henillion.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r pás yn un o nifer o fesurau all atal lledaeniad wrth i ni gymysgu yn fwy rhydd ymhlith ein gilydd.

"Rhaid cydbwyso'r dystiolaeth sydd ar gael yn erbyn anghenion cymdeithasol ac economaidd y wlad ac mae pás Covid yn un ffordd o gadw busnesau ar agor pan fo cyfradd achosion o'r haint yn uchel."