Brechiad Covid i blant 12-15 oed: Pryd, ble, sut a pham?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Merch yn cael pigiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r rhaglen frechu i blant 12 i 15 oed yn cyflymu yr wythnos hon, a phob plentyn i gael cynnig y brechlyn erbyn diwedd mis Hydref.

Mae rhai plant â chyflyrau iechyd eisoes wedi cael eu brechu.

Penderfynodd prif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig y dylid cynnig y brechlyn i bob plentyn 12 i 15 oed ar sail y budd i'w lles yn ogystal â rhesymau iechyd.

Roedd hynny'n dilyn cyngor nad oedd y ddadl o blaid brechu yn ddigon cryf ar sail iechyd yn unig.

Pryd mae'r brechu'n digwydd?

Maen nhw eisoes wedi dechrau mewn rhai ardaloedd ond fe fyddan nhw wedi dechrau ledled Cymru yr wythnos hon. Mae gwahoddiadau'n cael eu hanfon ar gyfer apwyntiadau ar benwythnosau ac ar ôl oriau ysgol er mwyn osgoi tarfu ar ddosbarthiadau.

Ble mae nhw'n digwydd?

Yn yr un canolfannau brechu ag i oedolion - a dim ond rhai enghreifftiau o frechu'n digwydd mewn ysgolion. Mae hynny'n wahanol i Loegr a Gogledd Iwerddon lle mae'n digwydd yn bennaf mewn ysgolion.

Sut mae'n wahanol i frechiadau oedolion?

Ar hyn o bryd, dim ond un brechlyn Pfizer sy'n cael cynnig i bobl ifanc 12 i 17 oed. Fe ddylai plant dan 16 oed gael eu hebrwng i'r apwyntiad gan riant neu ofalwr. Mae teuluoedd yn cael eu hannog i drafod manteision ac anfanteision brechu ac os oes anghytuno, gall plant 12 i 15 oed roi caniatâd neu beidio os mai'r farn yw eu bod nhw'n gymwys i benderfynu.

Pam mae'r brechlyn yn cael ei gynnig?

Penderfynodd y prif swyddogion meddygol gynnig brechlyn i bobl ifanc 12 i 15 oed ar ôl i'r Cyd-gyngor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) ddweud na fydden nhw'n ei argymell am resymau iechyd yn unig. Wedi ystyried yr effaith ehangach y gallai brechu gael o ran gostwng faint o ysgol sy'n cael ei golli a'r tarfu i fywydau plant a'u lles, y penderfyniad oedd i'w gynnig.

A fydd brechu'n lleihau achosion o Covid mewn ysgolion?

Ddim yn y tymor byr achos mae'n cymryd rhai wythnosau i adeiladu'r imiwnedd. Ers dechrau Medi, mae dros 10,000 o achosion positif o Covid wedi bod ymhlith plant a staff ysgol yng Nghymru. Ar y cyfan, mae'r prif swyddogion meddygol wedi barnu y bydd y brechlyn o fudd wrth amddiffyn addysg, tra'n rhybuddio nad yw'n mynd i gynnig datrysiad llwyr.

Faint fydd yn cael y brechlyn?

Fydd hynny ddim yn glir tan ar ôl yr hanner tymor, ddiwedd Hydref, pan ddylai pob plentyn sy'n gymwys fod wedi cael cynnig apwyntiad. Mae'r neges gan y llywodraeth o blaid brechu pobl ifanc 12 i 15 oed yn wahanol i'r argymhelliad mwy cryf sydd yna i bobl hŷn gael y brechlyn. Mae mwy na 70% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu brechiad cyntaf.