Cabinet Cyngor Sir Penfro o blaid dyblu treth ail dai

  • Cyhoeddwyd
Eglwys
Disgrifiad o’r llun,

Gallai Sir Benfro ddilyn esiampl Gwynedd gan gynyddu'r dreth i ail dai

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio o blaid cynyddu'r dreth ychwanegol ar ail gartrefi o 50% i 100%, ond fe fydd y penderfyniad terfynol yn nwylo'r cyngor llawn.

Y bwriad yw cyflwyno'r cynnydd ym mis Ebrill 2022, os yw yn cael cefnogaeth cynghorwyr Sir Benfro.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cefnogi cynyddu'r dreth ychwanegol ar ail gartrefi i 100%

Dywedodd y Cynghorydd Bob Kilmister, sydd yn gyfrifol am gyllid, wrth y cyfarfod rhithiol, taw'r dreth ychwanegol oedd yr unig fesur ar gael ar hyn o bryd i ddelio gydag effaith ail gartrefi yn y sir.

Dywedodd wrth ei gyd aelodau fod ail gartrefi wedi creu "problem gymdeithasol ddifrifol" ac mewn rhai cymunedau arfordirol roedd 40% o'r stoc tai yn ail gartrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd megis Cwm-yr-Eglwys yng ngogledd Sir Benfro wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y tai haf

Fe fyddai cynyddu'r premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi yn golygu £3.3m o incwm ychwanegol yn ôl y Cynghorydd Kilmister.

Y bwriad yw gwario 75% o'r swm ar dai fforddiadwy a 25% ar gronfa "Gwella Sir Benfro" i ddarparu cyllid i brosiectau newydd sy'n helpu i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol ail gartrefi.

Dim cefnogaeth unfrydol

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson y gallai mwy o berchnogion ail gartrefi gofrestru eu tai fel busnesau ac felly osgoi'r cynnydd.

Roedd hi'n ofni hefyd am sgil effeithiau "anfwriadol" y polisi.

Yn ôl y Cynghorydd Cris Tomos, roedd angen "cydbwysedd" wrth benderfynu ond dywedodd bod Sir Benfro yn wynebu argyfwng tai a "bod rôl gan Lywodraeth Cymru i chwarae " yn hyn oll.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl protest wedi bod dros effaith ail dai ar gymunedau lleol

Fe bleidleisiodd wyth aelod o'r cabinet o blaid y cynnig gyda'r Cynghorydd Tessa Hodgson yr unig aelod i wrthwynebu.

Fe fydd y penderfyniad nawr yn gorfod cael sêl bendith y Cyngor llawn ar Hydref 14eg.

Pynciau cysylltiedig