Davies a Brooks allan o garfan Cymru gyda salwch

  • Cyhoeddwyd
Ben DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Davies wedi ennill 67 cap dros Gymru ac wedi bod yn gapten ar ei wlad

Mae Ben Davies a David Brooks wedi tynnu'n ôl o garfan Cymru cyn y gemau yn erbyn Gweriniaeth Siec ac Estonia oherwydd salwch.

Mae'n ergyd arall i dîm Cymru ar ôl i Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer dynnu'n ôl yn gynharach yn yr wythnos gydag anafiadau.

Nid yw capten Gareth Bale ar gael chwaith, er mae 'na obaith y bydd Aaron Ramsey ar gael.

Cafodd Ben Cabango a Will Vaulks eu hychwanegu at y garfan ddydd Llun.

Ond does dim sôn eto pwy fydd yn cymryd lle Davies a Brooks cyn y gemau rhagbrofol tyngedfennol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Mae Cymru yn wynebu'r Weriniaeth Siec nos Wener ac yna Estonia nos Lun, 11 Hydref.