Rhedeg marathon 'gwlyb iawn' i godi arian i barc Bute
- Cyhoeddwyd
"Oedd o mor wlyb o'n i'n teimlo fel o'n i'n rhedeg mewn pwll nofio," meddai Helen Lloyd Jones ddiwrnod ar ôl cwblhau marathon rhithiol Llundain o gwmpas Caerdydd.
Bu'n rhaid i Helen, 73, fynd adref i newid deirgwaith cyn gorffen y marathon "gwlyb iawn" mewn saith awr a hanner.
Roedd Helen yn codi arian i adfer parc Bute wedi i ddifrod gael ei wneud iddo ym mis Medi.
Dywedodd ei bod hi'n teimlo'n "violated" pan glywodd hi am yr ymosodiad ar y parc: "O'n i ffaelu credu e, so o'n i'n teimlo bo' rhaid i fi roi rhywbeth nôl."
Pan ddechreuodd Helen redeg am 05:30 fore Sul doedd dim glaw o gwbl, ond erbyn iddi ddechrau ail hanner y ras "agorodd y nefoedd," meddai.
Dywedodd bod hi wedi "overdoso ar Ed Sheeran" i gadw hi i fynd, a'i bod wedi darganfod "bod gwrando ar 'Galway Girl' yn helpu fi redeg yn gyflymach".
Ond gyda'r glaw yn parhau i arllwys, roedd yn rhaid i Helen - sy'n rhedwr profiadol - gerdded rhannau o'r ffordd gan fod hi methu gweld fawr ddim drwy ei sbectol.
"O'dd fy 'sgidiau'n slyrpio pan o'n i'n symud, ac yn mynd yn wlypach ac yn wlypach," meddai.
Gorffennodd Helen y marathon gan redeg o bont y Mileniwm yng nghanol Caerdydd i Radur ble mae hi'n byw.
Sut oedd hi'n teimlo erbyn y diwedd? "Oer ac yn wlyb," meddai gan chwerthin.
Rhedodd Helen farathon Efrog Newydd ddwy flynedd yn ôl, ond dywedodd fod y profiad o redeg marathon rhithiol yn wahanol.
"O'dd e tipyn bach yn unig," meddai, "yn enwedig achos o'dd e mor ddiflas.
"Pan chi wedi cael pobl o gwmpas ac maen nhw'n gwenu a'n gweiddi eich enw mae hwnna'n cefnogi chi. Ond doedd dim ots!"
Mae Helen wedi codi dros £310 i barc Bute erbyn hyn.
Mae ganddi "lwyth o memories gwych" o'r parc, meddai.
"Fi'n rhedeg yn y parc lot... gyda ffrindiau, gyda fy nghlwb rhedeg, ac mae'n agored i bawb... chi'n gallu jyst dod mewn a mwynhau.
"Fi wedi teimlo fel fi wedi bod yn violated pan fi'n gweld bo' pobl wedi 'neud yr attack ar y parc, o'n i ffaelu credu e, so o'n i'n teimlo bo' rhaid i fi roi rhywbeth nôl."
Dywedodd y bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at adfer y coed sydd yn y parc.
"Os chi eisiau i'r coed dyfu yn y parc, maen nhw angen tree guards i warchod nhw", meddai, "ac maen nhw'n gostus".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021