Dynes wedi marw wrth dynnu llun castell I'm a Celebrity
- Cyhoeddwyd
Cafodd dynes ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar wrth geisio tynnu llun o Gastell Gwrych, a oedd wedi'i oleuo ar gyfer y gyfres deledu I'm a Celebrity Get Me Out of Here.
Dioddefodd Sharn Iona Hughes, 58 oed o Brestatyn, anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar Volvo ar lôn dywyll tua 17:00 ar 21 Tachwedd 2020.
Clywodd cwest i'w marwolaeth yn Rhuthun bod Mrs Hughes a'i gŵr wedi stopio eu car mewn llecyn ar yr A547 o'r enw Middle Gate - rhwng Abergele a Llanddulas - er mwyn iddi dynnu llun o'r castell i'w anfon at ffrind.
Nid oedd y lôn wedi'i goleuo, ac roedd cyfyngiad cyflymder o 60 milltir yr awr yno.
Wrth i'w gŵr, Elfyn Hughes, gloi'r car, roedd Mrs Hughes wedi dechrau cerdded i lawr y lôn.
Mewn datganiad i'r cwest, dywedodd Mr Hughes sut y clywodd sŵn "metalaidd, fel brics yn syrthio o gefn lori".
Dechreuodd helpu i gyfeirio traffig ar y lôn, heb wybod bod ei wraig ers 35 mlynedd, yn rhan o'r digwyddiad.
'Rhy hwyr'
Pan ddywedodd swyddogion heddlu wrtho beth oedd wedi digwydd, roedd "sioc yr wybodaeth yn ormod i'w goddef", meddai.
Clywodd y cwest bod gyrrwr y Volvo wedi cyflymu ar ôl mynd heibio ardal oedd â chyfyngiad o 20mya am bod pobl yn ymgynnull yno yn ystod ffilmio'r gyfres, a'i fod yn gwneud tua 60mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad,
Erbyn iddo weld Mrs Hughes yng ngoleuadau'r car roedd yn rhy hwyr iddo wneud unrhyw beth, meddai.
Bu farw Mrs Hughes yn y fan a'r lle.
Dywedodd yr archwiliwr damweiniau, Simon Richards, wrth y crwner, John Gittins, y gallai'r dillad tywyll yr oedd Mrs Hughes yn eu gwisgo, a'r ffaith bod car arall yn troi rownd ar y lôn, fod yn ffactorau fyddai wedi rhwystro'r gyrrwr rhag gweld Mrs Hughes.
Ni fyddai wedi cael amser i ymateb ac osgoi Mrs Hughes, meddai.
Wrth gyhoeddi ei gasgliad bod Mrs Hughes wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad, dywedodd y crwner na fyddai hi'n ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd, a'i fod yn gobeithio bod hynny'n cynnig mymryn o gysur i'r teulu.
"Ni allaf ddechrau dychmygu pa mor anodd y byddai hynny wedi bod i chi, Mr Hughes, a oedd yno yn y fan a'r lle," meddai Mr Gittins.
Ar ôl clywed bod Mrs Hughes wedi bod yn helpu i baratoi hamperi ar gyfer banc bwyd lleol cyn ei marwolaeth, a bod £5,000 wedi cael ei godi er cof amdani, dywedodd y Crwner wrth Mr Hughes ac aelodau eraill o'r teulu "dwi'n siŵr eich bod yn falch iawn ohoni".
Gyda chyfres arall o I'm a Celebrity yn cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych cyn y Nadolig, dywedodd y crwner ei fod wedi cael ar ddeall gan Gyngor Conwy y byddai cyfyngiad cyflymder dros dro o 30mya mewn grym yn y man lle digwyddod y gwrthdrawiad, yn ogystal â mesurau traffig eraill ger Abergele, ac y byddai'r sefyllfa'n cael ei hadolygu cyn i'r ffilmio ddechrau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020