Trysorau ac atgofion melys Gareth Edwards

  • Cyhoeddwyd
gareth edwards

Mae Gareth Edwards a'i wraig Maureen yn hel atgofion am yrfa disglair Gareth wrth ail-ddarganfod memorabilia a hen drysorau maen nhw wedi casglu dros y blynyddoedd.

I lawer, Gareth Edwards yw un o'r chwaraewyr gorau yn hanes rygbi. Bu'n sgwrsio gyda Shân Cothi ar Bore Cothi am rai o'r trysorau sy'n bwysig iddo.

"Mam a Dad oedd wedi dechrau casglu'r holl bethau, yn enwedig pan 'oeddwn i'n grwt ifanc. Roedden nhw'n meddwl y byd pan oeddwn i'n cael fy newis i chwarae i Gymru neu'r Llewod, a chael y cyfle i deithio gyda'r timoedd hyn," dywedodd Gareth.

"Roeddwn i wastad yn dod â phethau yn ôl o Dde Affrica, Seland Newydd a pha bynnag lefydd o'n i'n chware. Roedden nhw'n casglu nhw ac yn edrych ar ôl nhw gyda llawer o fwynhad."

Bocsys llawn trysorau

"Ychydig o flynyddoedd yn ôl goffes i ddod â'r bocsys lawr o dŷ Mam, ac wrth gwrs doeddwn i ddim yn sylwi faint ohonyn nhw oedd a beth oedd yn rhan fwyaf ohonyn nhw.

"Er bo' fi wedi bod yn casglu ychydig bach o bethau fy hunan. Dwi'n gwybod lle mae rhan fwyaf o'r pethau dwi wedi cadw oherwydd maen nhw fyny ar y wal neu ar ben y silff ben tân, lle dwi'n gallu gweld nhw.

"Ond pan ddechreues i fynd trwy'r bocsys o dŷ mam, doeddwn i methu credu faint o bethau roedd hi wedi casglu a beth oedd yna."

'Lagonda o Gastell-nedd i Waencaugurwen'

"Daeth y syniad am y rhaglen ((Trysorau Gareth Edwards ar S4C, 9:00 ar Hydref 6) yn rhannol gyda dathlu bod hi'n hanner can mlynedd ers taith y Llewod yn erbyn Seland Newydd yn 1971. Bryd hynny, pan ddychwelodd y garfan cafon ni Lagonda yr holl ffordd o Gastell-nedd i Waencaugurwen. Roedd pawb allan a'i baneri!

"Nathon ni ail greu'r llun yma, gafon ni Lagonda lliw gwahanol ac ishte o flaen stasiwn Castell-nedd. Roedd y tywydd yn hyfryd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a Maureen yn ail-greu'r llun enwog ohonynt yn cyrraedd adref yng Nghwmgors, yn dilyn taith lwyddiannus y Llewod yn 1971.

'Trysor i'r meddwl'

Dywedodd Maureen: "Fy hoff lun yw tîm Cymru yn ymarfer gyda Clive Rowlands ar y traeth yn Aberafon ac mae cŵn a'r cwbl yn joio gyda nhw. Hwnna yw fy ffefryn i."

Atebodd Gareth: "Mae'n dangos y gwahaniaeth paratoi am gemau rhyngwladol heddiw i gymharu gyda sut roeddwn i yn paratoi hanner can mlynedd yn ôl."

"Roedd yn anodd iawn dewis a dethol y trysorau sy'n cael eu dangos ar y rhaglen, chi'mod mae'n fwy na thrysor i edrych arno, mae'n drysor i'r meddwl hefyd, llawn atgofion melys.

"Pan chi'n edrych nôl mae'n golygu gyment.

"Ma' llawer o gwestiynau yn codi yn eich pen fel, 'ble mae'r crys yma wedi dod?' neu 'ble mae'r bêl wedi dod?' ac mae stori tu ôl bob un.

Ffynhonnell y llun, S4C

"Un o fy hoff bethau i yw pêl rygbi yn fy ngêm gyntaf yn erbyn Ffrainc," meddai Gareth.

"A'r rheswm am hyn yw dau beth. Y ffaith bo' fi wedi gallu cadw'r bêl ond hefyd dwi'n cofio chwiban yn mynd yn ystod y gêm hynny.

"Dwi'n cofio meddwl 'llinell yw hon neu sgrym?' ac mae'r bechgyn eraill yn dweud 'mae'r gêm wedi gorffen' a finne ddim yn gallu credu pa mor gyflym roedd y gêm wedi mynd. Wrth i fi edrych o gwmpas y maes yn Ffrainc, dyma Dewi Bebb, oedd yn arwr i mi, basio'r bêl chwaraeon ni gyda a dweud, 'sgwl, dod hwn o dan dy grys', a ges i gadw fe."

Y Groggs

Ers dechrau'r cwmni yn y 60au, mae tad a mab o'r enw John a Richard Hughes wedi gwneud cannoedd o Groggs Gareth Edwards.

Yn ôl Richard, mae mwy o Groggs o Gareth Edwards wedi eu cynhyrchu na unrhyw ffigwr arall yn hanes Groggs. Mae o dal mor boblogaidd ag erioed ers iddo fe ddechrau chwarae.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a Maureen yng nghwmni Richard Williams, sydd yn rhedeg y busnes modelau Groggs, ym Mhontypridd.

"Does dim Grogg ohonof i ond 'nes i wneud un o Gareth. Dyw e ddim cystal â John a Richard o Bontypridd," meddai Maureen.

"Does gen i ddim syniad beth fy' nhw'n galw'r Grogg nes i o Gareth!"

Dywedodd Gareth: "Fi'n credu mai fi oedd y Grogg cyntaf nath e neud. Ond ma rhaid i mi gyfaddef, dwi ddim yn adnabod y person dwi'n edrych arno pan dwi'n gweld Grogg Maureen ohonof i - nage Gareth Edwards yw hwnna!"

Er bod y broses o fynd trwy'r bocsys wedi bod yn llawer o hwyl, roedd Maureen yn credu ei fod wedi bod yn help mawr i'r meddwl hefyd:

"Roedd yn bendant yn rhyw fath o therapi. 'Nathon ni 'neud e pan oedd pobl methu mynd allan o'r tŷ ac roedd yn rhywbeth pwysig i 'neud."

Gwyliwch Trysorau Gareth Edwards ar S4C am 9 o'r gloch, 6 Hydref.

Pynciau cysylltiedig