'Angen i awdurdodau lleol drin pobl digartref yn well'

  • Cyhoeddwyd
YHAFfynhonnell y llun, YHA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nifer o bobl ddigartref aros yng ngwesty'r YHA yng Nghaerdydd yn ystod y pandemig

Gallai pobl sy'n wynebu digartrefedd yng Nghymru gael eu "siomi" oherwydd "camweinyddu systemig" gan awdurdodau lleol, yn ôl adroddiad newydd gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae yna "batrymau o arfer da", medd Nick Bennett, ond "mae oedi annerbyniol, prosesau annigonol, cyfathrebu gwael a rhoi pobl mewn llety anaddas yn golygu bod nifer yn dioddef anghyfiawnder".

Mae'r Ombwdsmon yn argymell penodi Rheoleiddiwr Tai er mwyn helpu awdurdodau lleol i fod yn gyson wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol.

Dyma ei ymchwiliad cyntaf i bwnc o'i ddewis ei hun, ac mae'n cyhoeddi ei ganfyddiadau o ran sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn delio â digartrefedd ddydd Mercher.

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar dri awdurdod lleol - Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam - gan ystyried tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau trydydd sector fel Shelter Cymru.

Ymhlith y pryderon a ddaeth i'r amlwg:

  • Nid yw dyletswyddau Deddf Hawliau Dynol a Chydraddoldeb 2010 bob amser yn cael eu hystyried mewn asesiadau ac adolygiadau;

  • Oedi trwy gydol y Broses Asesu ac Adolygu;

  • Weithiau collir materion arwyddocaol yn ystod y broses asesu;

  • Nid yw cleientiaid bob amser yn deall negeseuon gan nad ydynt yn eglur ac yn ddigonol;

  • Diffyg ystyriaeth a yw llety yn addas;

  • Methiannau o ran darparu cefnogaeth i gleientiaid sy'n agored i niwed a'r sawl sydd ag anghenion cymhleth.

Canfu'r ymchwiliad hefyd fod pob awdurdod yn defnyddio dulliau gwahanol wrth asesu achosion o ddigartrefedd.

"Gyda chynnydd cyson yn y galw am lety ar gyfer y sawl a ystyrir yn ddigartref... mae gan awdurdodau lleol rôl hanfodol wrth atal digartrefedd ynghyd â chefnogi pobl sydd yn ddigartref," meddai Mr Bennett.

"Yn 2018/2019, aseswyd bod dros 31,000 o aelwydydd yng Nghymru yn ddigartref, a derbyniodd llawer mwy gefnogaeth gyda materion digartrefedd. Mae'r ffigwr hwn wedi parhau i godi.

"Mae diffyg cwynion i'm swyddfa am y mater hwn yn awgrymu efallai nad yw'r unigolion yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'u hawl i drosglwyddo eu cwynion ataf, neu efallai nad ydynt yn gallu arfer yr hawl honno.

"Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfran uchel o benderfyniadau asesu digartrefedd yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod adolygu, ac mewn rhai awdurdodau lleol, dyma'r achos flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Roedd hyn yn awgrymu camweinyddu systemig a methiant i nodi a dysgu gwersi."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, wedi ymchwilio i ddigartrefedd ar ei liwt ei hun

Dywed yr Ombwdsmon bod y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig i leihau achosion o ddigartrefedd wedi bod yn rhagorol ond bod angen parhau â'r gwaith da.

"Rwy'n cydnabod y bu ymateb i'r pandemig yn heriol i'r awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt, ac mae eu hymateb clodwiw wedi galluogi inni nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau ehangach a thymor hwy," meddai.

"Fodd bynnag, rhaid cynnal a rhannu'r arfer da a ddangoswyd mewn ymateb i'r pandemig er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir i bobl ddigartref - yn awr ac mewn dyfodol ar ôl y pandemig."