Bywyd "syrcas" rheolwr taith yn LA

  • Cyhoeddwyd
diwylliantFfynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ben wrth ei waith ym mherfformiad Kenny Hoopla, Gŵyl Reading, 2021

"Y peth mwyaf ridiculous am y diwrnod 'na oedd cael ASAP Rocky ar y llwyfan rili… eithaf amhosib."

Daw Benjamin Brinley Morgan o'r Gelli Aur ger Caerfyrddin yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn ardal Culverwest yn Los Angeles.

Mae'n byw yn yr Unol Daleithiau ers wyth mlynedd ac yn ddinesydd llawn yno ers llynedd. Ers blynyddoedd bellach mae Ben wedi sefydlu ei hun yn rheolwr taith llwyddiannus o dan yr enw Captain Morgan Touring.

Yn ystod ei ddyddiau cynnar yn chwarae'r drymiau yn Ysgol Bro Myrddin ac ar hyd a lled Prydain, ni ddychmygodd erioed y byddai'n tywys artistiaid fel Charlie XCX, Nao, ASAP Rocky, Mura Masa, Thundercat, Courtney Barnett a King Krule o gwmpas y byd.

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

We Have Band yn Catania, yr Eidal yn 2012 (un o'r bandiau wnaeth Ben ei dywys yn nyddiau cynnar ei yrfa fel rheolwr taith)

Yn ei eiriau yntau, mae bywyd rheolwr taith "fel dy fod yn mynd i'r syrcas a dy fod yn gwybod yn iawn be' sydd yn mynd i ddigwydd… but really it's a shocker a dyw e ddim byd fel ti wedi disgwyl!"

Ond ei ddyfalbarhad, a hynny mewn diwydiant hynod gystadleuol, sydd wedi galluogi iddo gyrraedd lle mae o heddiw, gan deithio i 78 o wledydd ar hyd y ffordd.

Drymiwr newydd ar y bloc

Fe ddechreuodd taith Ben mewn gwers cerdd yn Ysgol Bro Myrddin ac mewn bandiau lleol o gwmpas Caerfyrddin ar ddiwedd y 1990au.

"Pan yn tua unarddeg oed 'nes i weld plentyn yn chwarae drymiau a gwylio be' oedd e'n gwneud, wedyn neidio ar git arall a gwneud yr un peth. Aeth yr athro 'hei, ti'n chwarae dryms?!'" meddai Ben.

"Roeddwn yn eithaf cystadleuol. Yn dy arddegau rwyt ti'n trio ffeindio mas pwy wyt ti ac yn cael identity crisis ac roedd llwyth o fois tair blynedd yn hynach na fi yn chwarae mewn bandiau. Roedden nhw yn gweld fi yn dod yn well ar y dryms so ges i gynnig i ymuno â band.

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ben yn chwarae gyda'r band Scary Mary yn Llandeilo pan oedd yn 16 mlwydd oed

"Ambyti dwy flynedd ar ôl hynny fi'n cofio'r Eisteddfod. Roedd band o'r ysgol o'r enw Dolly ac roedd drymiwr y band wedi gadael ac roedden nhw yn chwilio am rywun. Ges i gynnig £100 a fi'n cofio cael yr arian mewn un o'r pocedi bach plastig 'na ti'n cael o'r banc."

Blas ar y lôn

Ar ôl blwyddyn yng Ngholeg Sir Gar yn gwneud celf aeth Ben i'r brifysgol i astudio Perfformiad Cerdd yng Nghernyw a Brighton gan barhau i fynd o fand i fand a chael blas ar fywyd cerddor ar daith.

"Nes i chwarae yn Brighton llwyth. Nes i ymuno â llawer o fands tu fas i'r brifysgol."

"Nes i ymuno â band o'r enw Early Morning Sountrack oedd yn swnio fel band indi o'r 2000au cynnar,wedyn band oedd fel emo, post-hardcore, indie crossover o'r enw This City. Roedden ni yn chwarae mewn clybiau o gwmpas Prydain. Roedden ni'n gwneud tua 130 o sioeau'r flwyddyn dim ond yn yr UK!"

Yn sydyn roedd Llundain yn galw…

"Nes i'r classic mae'n rhaid i bob cerddor wneud… peidio rhoi lan a meddwl "dwi am 'neud hyn ddigwydd, give it a shot a chadw fynd," meddai Ben.

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ben (canol) yn Hoxton, Llundain yn 2008 ar ôl symud yno

"'Nes i symud lawr oherwydd roedd y boi oedd yn gofalu am Pure Groove Records, Mick Shiner, yn delio gyda phobl fel Amy Winehouse, The Libertines a Marina and the Diamonds."

"Roedd hi'n 2007 ac fel post MySpace pre Facebook days, roeddwn angen mynd at y clic i roi fy hunan mas 'na."

Yn fuan iawn fe gafodd Ben waith fel drymiwr i artist o'r enw Ladyhawke o Seland Newydd ar ôl cael tip-off gan Mick Shiner.

"Roedd e fel rhyw fath o overnight sensation. Nes i anfon neges iddi hi ar MySpace un noson a chael neges yn ôl y bore wedyn. Dwedodd y rheolwri fi ar y ffôn… "Ok it's 15 songs - you've got 10 days and there's 4 days reheasals, see you next week - get on with it!""

Newid cyfeiriad ar ôl damwain

Yn dilyn cyfnod gyda band arall o'r enw Storms yn cefnogi artistiaid mawr fel Wolf Alice a Tribes bu rhaid i Ben roi'r gorau i chwarae am dri mis ar ôl damwain beic.

Meddai Ben: "Ces i fy nharo gan gar pan oeddwn ar y beic yn 2012. 'Nes i feddwl, gan bo' fi ar fy mhen ôl am dri mis, mae'n rhaid i fi gael plan b os yw hwn yn digwydd eto. Ges i epiphany moment i ddechrau meddwl y dylie fi wneud pethau ar yr ochr rheoli. Dechreuais roi fy hun mas 'na…"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tra'n drymio gyda Storms, bu'n rhannu llwyfan gydag artistiaid mawr fel Wolf Alice

Wrth i freuddwyd drymio Ben ddiflannu, agorwyd drws newydd…

"Roedd y dyn tu ôl i'r asiantaeth bwcio roeddwn yn defnyddio gyda Storms wedi dod 'nôl ata'i yn dweud fod artist o America o'r enw Adam Green yn dod draw i chwarae o gwmpas Ewrop. Ges i gynnig gwaith fel tour manager… 'na oedd y job gyntaf ges i."

Breuddwyd Americanaidd

Roedd Ben yn 28 pan symudodd draw i'r Unol Daleithiau yn 2014 ac eisoes wedi dechrau gweithio gyda bandiau o'r wlad fel rheolwr taith.

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Fan Captain Morgan, California, 2019

"Nes i chwarae gyda band lo-fi ac indi yn Brooklyn o'r enw The Teenage er mwyn cael hwyl a sbri, i gadw mynd a chreu rhwydwaith fy hunain," meddai Ben.

"Fel o'n i'n gwneud hwnna roeddwn i'n edrych am tours i wneud mas yn America. Roedd 'na fand o Lundain yn dod draw ac yn cefnogi The Wombats oedd yn gwneud North American Tour. Ces i'r job o fod yn tour manager iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ben (canol) tu allan i Dischord Records House gyda Ian McKaye (dde) o'r band pync Minor Threat

Fe neidiodd Ben ar y cyfle a gwelodd bod modd cynnig math gwahanol o wasanaeth oedd yn darparu rheolwr taith, offerynnau, baclein ynghyd â faniau ac ymhen dim roedd rhai o artistiaid mwyaf y byd yn dewis Captain Morgan Touring.

Y gair yn lledu

Fel yn ei ddyddiau cynnar fel drymiwr ifanc roedd Ben yn parhau i ehangu ei rwydwaith, yn chwilio am waith ac yn benderfynol o godi ei statws ei hun.

"Roeddwn yn edrych ar bethau fel erthyglau'r Guardian oedd yn rhestru 'UK's Top 20 Artsit to Watch' ac ti… Roeddwn yn meddwl pwy fydd yn dod draw i America ac yn trio gwneud hi fan hyn?" esbonia Ben.

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Gig Mura Masa ym Manceinion yn 2020 cyn i'r pandemig daro

Gwelodd Ben fod ganddo fantais gan ei fod yn dod o Brydain ac wedi chwarae mewn bandiau ac felly "yn gwybod y ffordd roedden nhw'n meddwl. Roeddwn yn gysylltiad da ar draws yr Iwerydd."

Cyn iddo droi rownd roedd Ben ar y llinell ffon gyda rheolwyr Nao a Mura Masa ar draws Môr Iwerydd yn cynnig ei wasanaeth.

"Wrth i hyn ddechrau roedd pawb yn dechrau clywed am beth roeddwn yn gallu cynnig. Roeddwn i hefyd yn cyfarfod â phobl ar yr hewl ac yn barod ro'n i mewn cylch ble roedd pobl yn dod ata i oherwydd word of mouth. Fel snowball effect rili…"

"Syrcas"

Fe ffrwydrodd pethau i Ben wedyn. Erbyn hyn mae o wedi bod mewn 78 gwlad a 48 talaith yn yr Unol Daleithiau. Ag yntau yn gyfrifol am artistiaid, gyrwyr, offerynnau, y criw a lleoliadau mae pwysau'r gwaith yn aruthrol.

Un atgof sydd ganddo yw pan drefnodd daith ar gyfer Mura Masa, ASAP Rocky, Charlie XCX a Desinger i ŵyl Coachella yn California.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

ASAP Rocky: Un o'r enwau mawr sydd wedi bod dan ofal Ben

"Y peth mwyaf ridiculous am y diwrnod 'na oedd cael ASAP Rocky ar y llwyfan rili… eithaf amosib. Yr unig ffordd i wneud e oedd anfon sprinter van i'w hel nhw a chael y gyrrwr i ddreifio nhw holl ffordd trwy'r security at y llwyfan."

"Fel roedd hyn digwydd ces i alwad ar y radio gan y gyrrwr oedd yn dweud bod dau gar heddlu wedi dod tu ôl i'r fan… Nes i ddweud wrtho fe "it doesn't matter, just keep going, get them to the stage!'"

"Wnaethon ni dorri holl reolau security yr ŵyl a chau'r giatiau oedd tu ôl i'r llwyfan fel nad oedd y ceir heddlu yn gallu dod drwodd. Nes i agor drws y sprinter van a wnaeth ASAP Rocky neidio mas a llusgo fe mlaen gyda thri munud i fynd tan oedd y sioe yn dechrau. Aeth y crowd yn wirion!"

"Fi'n meddwl nes i gysgu am tua pythefnos wedi 'ny," meddai Ben.

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Gŵyl Coachella yn California, 2018

Ymhlith rhai o brif atgofion eraill Ben mae teithio i Tokyo ac Osaka yn Japan neu fynd i Indonesia a chefnogi The Weeknd gyda Mura Masa "ynghanol rhywle oedd yn edrych fel Temple of Doom, Indiana Jones" ble roedd y fyddin yn cerdded o gwmpas gyda gynnau AK47.

Mae hefyd yn cofio chwarae sioe yn Israel, pedair milltir o ffin Lebanon a Syria. "Roedd hwnna yn brofiad pryderus," meddai. "Roedd yr heddlu yn gwneud bomb sweeps ar y llwyfannau."

Aros yn yr UDA

Mae Ben bellach wedi setlo yn Los Angeles ac yn mwynhau mynd ar ei feic ar hyd Venice Beach a'r Marina Del Rey yn ei amser sbâr.

Er ei fod yn ceisio cymryd cam bach yn ôl o'r "syrcas" wedi seibiant yn ystod y pandemig, ni fydd y wefr o fywyd ar y lôn yn pylu yn fuan iawn ac mae'n hapus ei fyd yn California.

"Nes i ddweud wrth Mam a Dad pan 'nes i weld nhw ym mis Awst fod y ffordd mae pethau draw fan hyn yn wahanol. Oherwydd 'mod i wedi bod yma ers saith mlynedd, mae wastad yn od mynd yn ôl i lefydd fel Llundain a gweld sut ma' fe'n gweithio fel dinas i gymharu â sut mae pethau mas fan hyn," meddai Ben.

"Fi wedi dod i arfer â sut mae pethau yn gweithio yn LA neu New York i gymharu â Phrydain. Fi'n meddwl fi wedi gwneud y transition 'na nawr…"

Ffynhonnell y llun, Ben Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ben yn mwynhau ei fywyd yn Los Angeles

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig