Galw am godi mwy o dai i bobl leol Llŷn yn Abersoch

  • Cyhoeddwyd
Abersoch
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod prisiau tai uchel yn Abersoch yn golygu ei bod yn anodd i bobl leol brynu yn yr ardal

Mae 'na alwad ar gwmni Tai Gogledd Cymru i godi mwy o gartrefi ar dir o'i heiddo yn Abersoch yn dilyn pryderon nad ydy pobl leol yn gallu fforddio prynu tŷ yn y pentref.

Mae Abersoch yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac mae 'na lawer o dai haf ac ail gartrefi yn yr ardal, gyda'r tai yn gwerthu am arian mawr.

Mae Tai Gogledd Cymru yn dweud eu bod yn adolygu eu hopsiynau i weld os oes modd cyflenwi rhagor o dai.

Un sydd wedi gweld newid dros y blynyddoedd ym mywyd y pentref ym Mhen Llŷn ydy Arthur Roberts, sy'n dweud ei bod hi'n amhosib i bobl leol brynu tai yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cynghorydd lleol mae gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru ddau ddarn o dir ger stad Bryn Garmon

"Mae'n ddigalon yma. Lle magwyd fi ym Mwlchtocyn does 'na neb o'r hen gymeriadau ar ôl yma, a certainly does 'na neb Cymraeg yno ar ôl. Mae'n chwith cofiwch," meddai Mr Roberts.

"Mae'n amhosib i bobl ifanc - fedran nhw ddim fforddio dim byd.

"Os nad oes ganddoch chi rhyw hanner miliwn a mwy i wario, does 'na ddim byd yma fel arall.

"S'gen pobl ifanc Cymraeg ddim gobaith yma gwaetha'r modd."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n amhosib i bobl ifanc - fedran nhw ddim fforddio dim byd," meddai Arthur Roberts

Dywedodd y cynghorydd lleol Dewi Roberts, sy'n cynrychioli Abersoch ar Gyngor Gwynedd, bod gan Tai Gogledd Cymru ddau ddarn o dir ger stad Bryn Garmon, a godwyd gan y gymdeithas.

Yn ôl y cynghorydd mae lle i adeiladu 10-15 o gartrefi ar y darn mwyaf o dir, tu ôl i'r ystad bresennol.

"Mae o wedi bod yn eu perchnogaeth nhw ers codi'r stad," meddai.

"Mae 'na blot o dir yn y gwaelod ac yn y fan yna mae 'na gynlluniau wedi cael eu gwneud am ddau dŷ, ond does 'na'm llawer o symud i'w weld ynglŷn â hyn.

"Mae prisiau adeiladu wedi mynd i fyny yn aruthrol ac mae'n bechod 'na fysa 'na symud yn gynt arno fo.

"Y neges ydy 'gadewch i ni symud ymlaen'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Roberts ei fod wedi pwyso am adeiladu'r tai ers pedair blynedd

Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn pryderu am ddiffyg cynlluniau tai i bobl leol yn yr ardal ehangach - nid yn Abersoch yn unig.

"Dwi'n pryderu bod fi wedi bod yn cysylltu efo nhw [y gymdeithas dai] ers pedair blynedd a does 'na ddim tŷ wedi cael ei godi yma eto.

"Hefyd dwi wedi bod mewn cyfarfodydd efo cymdeithasau tai eraill a dwi'n pryderu nad oes 'na gynlluniau yn Nwyfor a dweud y gwir i bobl leol yn fan hyn gael cartrefi.

"Mae'n gwestiwn dwi wedi gofyn i un gymdeithas tai ac maen nhw'n dweud eu bod nhw yn edrych ar lefydd ond ei bod hi'n anodd iawn cael tir.

"Yn fan hyn mae gennym ni dir yn barod felly ella bod 'na beth bynnag le i 10 neu 15 o dai yn fan hyn, a'r gobaith ydy ein bod ni'n cael nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Roberts mae lle i adeiladu 10-15 o gartrefi ar ddarn o dir tu ôl i'r ystâd bresennol

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Tai Gogledd Cymru eu bod yn deall y galw am dai yn ardal Abersoch a'u bod yn adolygu eu hopsiynau i ystyried a oes modd cyflenwi mwy o dai ar stad Bryn Garmon.

Ychwanegodd eu bod nhw wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi ar draws gogledd Cymru a'u bod nhw'n croesawu trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd a'r Cynghorydd Dewi Roberts.

Pynciau cysylltiedig