Tai haf: 'Dim hyder i weithredu gan Gyngor Gwynedd'
- Cyhoeddwyd
Mae degau o bobl wedi gorymdeithio am tua saith awr o Ben Llŷn i Gaernarfon i alw am weithredu ar yr argyfwng tai.
Daeth rhagor i ymuno â nhw tu allan i bencadlys Cyngor Gwynedd yn y dref, lle galwodd ymgyrchydd ar yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i "wthio ffiniau".
Mae arweinwyr yr ymgyrch Hawl i Fyw Adra yn dweud nad ydy'r cyngor na Llywodraeth Cymru yn cymryd y mater o ddifri.
Gwrthod hynny mae Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Ar drothwy'r orymdaith a'r brotest roedden trefnwyr wedi cyhuddo arweinwyr Cyngor Gwynedd o fod â diffyg hyder i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yn y sir, gan ddiystyru barn gweddill y cynghorwyr.
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i drigolion o Ben Llŷn ac aelodau o Gyngor Tref Nefyn gerdded i Gaernarfon i godi ymwybyddiaeth o'r "diffyg rheoliadau sydd ar ail gartrefi a'r diffyg gwarchodaeth o'n cymunedau a'n hiaith".
Hyd yma, er bod nifer o addewidion, "ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni yn wleidyddol", meddai Rhys Tudur cadeirydd Cyngor Tref Nefyn.
Gwrthod yr honiad yn llwyr wnaeth arweinydd Cyngor Gwynedd, gan ddweud mai nhw "sydd wedi arwain ar yr ymgyrch i newid deddfwriaeth i reoli ail gartrefi".
'Diystyru eu cynghorwyr'
Dywedodd Rhys Tudur bod cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio'n unfrydol ar 18 Mehefin eleni, o blaid adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, er mwyn mynd i'r afael â phroblem ail gartrefi mewn mannau fel Pen Llŷn.
"Ar 2 Awst anfonodd 47 o gynghorwyr sir lythyr ar y cyd at y Cabinet yn eu hannog i wneud newidiadau penodol i'r Cynllun Datblygu Lleol er lles ein cymunedau a'n hiaith," meddai.
"Hyd yma nid yw Arweinyddiaeth Gwynedd na'r Pwyllgor ar y Cyd rhwng Gwynedd a Môn wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cynigion.
"Maen nhw wedi diystyru eu cynghorwyr eu hunain.
"Er gwaetha hyn oll does 'na ddim symud o gwbl wedi bod - mae'n edrych fel eu bod nhw ofn y gwaith, neu bod diffyg hyder gan arweinwyr y cyngor sir i weithredu."
Yn ystod y brotest ddydd Sadwrn dywedodd Mr Tudur wrth y dorf: "Mae'n sarhad arnom ni a'n cymunedau.
"Mae'n argyfwng dros ein hunaniaeth ni a tydi'n cyngor sir ni na'n llywodraeth ni ddim cymryd hyn o ddifrif."
'Honiad di-sail'
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Rwy'n gwrthod yn llwyr yr honiad di-sail nad yw Cyngor Gwynedd yn gweithredu ar frys ar y materion hyn; wedi'r cyfan Cyngor Gwynedd sydd wedi arwain ar yr ymgyrch i newid deddfwriaeth i reoli ail gartrefi.
"Yn dilyn gwaith ymchwil trylwyr gan ein Gwasanaeth Polisi Cynllunio fe fabwysiadwyd nifer o argymhellion clir a manwl ddiwedd y flwyddyn diwethaf gan alw ar y Llywodraeth i weithredu.
"O ran y Cynllun Datblygu Lleol 'does dim oedi o gwbl; mae'r gwaith sylweddol yma wedi dechrau.
"Fe eglurwyd fod yn rhaid i'r Cyngor lynu at drefn statudol yr adolygiad sy'n cynnwys casglu gwybodaeth a thystiolaeth ar ystod eang o bynciau, ac i ymgynghori'n drwyadl gyda'n holl drigolion - a iawn o beth yw hynny. Fedrwn ni ddim addasu'r cynllun ar sail un llythyr gan gynghorwyr.
"Os na wnawn y gwaith yn unol a chanllawiau'r llywodraeth gellid gwrthod ein adolygiad gan y Llywodraeth a byddai hynny'n ein gadael mewn sefyllfa lle na fedrid mabwysiadu'r newidiadau y mae'r ymgyrchwyr yn galw amdano.
"Tra'n deall y rhwystredigaeth ofnaf fod yr ymgyrchwyr yn anelu eu saethau at eu cyfaill a rheitiach y dylen nhw dargedu Llywodraeth Cymru lle mae modd gweithredu."
Dywedodd Rhys Tudur bod hi'n "drist nad oes rheoliadau i atal pobl rhag difetha cymunedau nes bod dim ar ôl i bobl leol".
Cyfeiriodd at ardaloedd yn Ewrop, ac at ynysoedd Jersey a Guernsey, lle'r oedd rheoliadau ar y nifer o dai haf.
"Mae'r Swisdir yn cynyddu'r rheoliadau ar gyfer prynu tai i bobl sydd ddim yn lleol, felly mae'n berffaith bosib cyflwyno mesurau, mae 'na ddigon o gynseiliau y gellid eu dilyn yma."
Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo treialu cynllun peilot i geisio taclo'r broblem, ond roedd angen camau mwy radical, yn ôl Rhys Tudur.
"Mae'n cymunedau yn parhau i fod yn ddiamddiffyn gyda chwlwm bro pobl leol yn cael ei rhwygo am na allent fforddio tŷ yn eu cymunedau.
"Mae cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw yn crebachu ac maent bellach yn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig.
"Y siom yw nad yw ein Llywodraeth nac Arweinyddiaeth ein Cyngor Sir yn gweithredu ar frys ac yn eofn i ddatrys yr argyfwng."
'Gwahanol safbwyntiau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dros yr haf, fe wnaethom ni lansio ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo, ac rydyn ni'n trafod lleoliad y cynllun peilot gyda phartneriaid.
"Cymru yw'r unig wlad yn y DU i roi pwerau i awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 100% o'r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
"Rydyn ni hefyd wedi cynyddu'r gyfradd uwch o'r Dreth Trafodiadau Tir, sy'n berthnasol pan fydd pobl yn prynu eiddo ychwanegol.
"Rydyn ni'n edrych i weld pa fesurau pellach sydd ar gael a hefyd sut y gall ein partneriaid ddefnyddio'r pwerau presennol.
"Rydyn ni'n cydnabod bod gan bobl nifer o wahanol safbwyntiau ar y mater, ac rydyn ni'n annog yr holl randdeiliaid i gyfrannu at ein hymgynghoriadau."
Galw am weithredu brys
Mae'r protestwyr yn galw ar Arweinydd y Cyngor Sir a Phwyllgor ar y Cyd Gwynedd a Môn "i sicrhau adolygiad ar frys i'r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ei atgyfnerthu i warchod pobl leol a'u cymunedau a'n hiaith".
Maent hefyd yn annog y llywodraeth i ymgymryd â mesurau megis:
Peilota dosbarth defnydd ar gyfer tai haf fel bod angen hawl cynllunio i drosi tŷ preswyl yn dŷ haf.
Cyflwyno brêc ar bryniannau ail dai drwy greu dosbarth defnydd penodol ar ail dai a chodi treth tir yn sylweddol uwch arnynt gan wneud y lefel isaf o'r dreth yn 20% yn hytrach na 4%.
Peilota rheoliadau drwy'r system trafodion tir i atal pobl nad ydynt yn lleol rhag prynu ail dai.
Sicrhau defnydd eang o Gynllun 'Prynu Cartref-Cymru' sy'n rhoi ecwiti di-log i bobl leol allu cystadlu â'r farchnad a phrynu tai yn eu bro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021