Rhieni'n bygwth camau cyfreithiol i gadw ysgol ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni sydd â phlant mewn ysgol bentref ym Mhowys wedi dweud y byddan nhw'n mynd â'r cyngor i'r llys os bydd yn penderfynu ei chau.
Cafodd Ysgol Llanbedr ger Crucywel - sydd â 52 o ddisgyblion - ei sefydlu bron i 300 mlynedd yn ôl yn 1728.
Mae'n un o sawl ysgol gynradd wledig sydd â dyfodol ansicr o dan gynlluniau ailwampio addysg yr awdurdod lleol.
Dywedodd Kate Stradling, sydd â dwy ferch yn yr ysgol, ei bod yn "teimlo'n sâl" pan glywodd am y tro cyntaf y gallai'r ysgol gau.
Yn ôl Cyngor Powys mae'n rhaid gwneud "penderfyniadau anodd", ac mae'r sir yn dweud y byddai ei strategaeth yn "caniatáu i ddysgwyr ffynnu".
Mae'r cyngor eisoes wedi penderfynu bwrw ymlaen â chau Ysgol Castell Caereinion ger Y Trallwng sydd â 25 o ddisgyblion. Cafodd yr ysgol honno ei sefydlu 200 mlynedd yn ôl.
Hefyd mae bwriad i gau'r ysgol gynradd yn Llanfihangel Rhydieithon ger Trefyclo.
Mae amheuaeth hefyd ynghylch dyfodol nifer o ysgolion eraill gan gynnwys Ysgol Bro Cynllaith ym mhentre' Llansilin.
Mae'r rhain yn ysgolion sy'n cynnig addysg cyfrwng Saesneg ac mae niferoedd y disgyblion yn amrywio rhwng 23 a 109.
Ond mae cyfreithiwr sy'n cynrychioli rhieni mewn sawl un o'r ysgolion wedi dweud wrth raglen Wales Live ei fod yn credu bod y cynlluniau yn torri polisi Llywodraeth Cymru a ddyluniwyd i amddiffyn ysgolion gwledig.
Yn 2018 newidiodd Kirsty Williams - y gweinidog addysg ar y pryd - god trefniadaeth ysgolion i ddod â "rhagdybiaeth yn erbyn cau" ysgolion gwledig rhestredig.
Dywedodd y cyfreithiwr Michael Imperato, pe bai Cyngor Powys yn bwrw ymlaen â'r cau, y byddai'r mater yn cael ei "benderfynu yn yr Uchel Lys".
Ychwanegodd, os digwydd hynny, dyna fydd y tro cyntaf i'r cod diwygiedig wynebu prawf cyfreithiol.
Mae'r cod yn nodi bod yn rhaid i'r achos dros gau ysgol wledig fod yn "gryf" a rhaid ystyried pob dewis hyfyw arall yn "gydwybodol".
Dywed Cyngor Powys ei fod wedi cael "cyngor cyfreithiol annibynnol" i sicrhau bod ei gynigion yn gadarn a dywedodd fod ei ymgynghoriadau'n cael eu cynnal yn unol â chod trefniadaeth yr ysgol.
Dywedodd y cyngor fod gan ei ysgolion lleiaf gyllidebau uwch fesul disgybl na'r cyfartaledd ac mae'n amcangyfrif y bydd cau Ysgol Gynradd Llanbedr yn arbed tua £100,000 erbyn 2024.
'Sefyllfa well i fodloni'r cwricwlwm'
Ym mis Ebrill dywedodd prif weithredwr Cyngor Powys, Dr Caroline Turner, pe bai'r ysgol yn cau y byddai plant yn mynychu ysgolion sydd "mewn sefyllfa well i fodloni gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd ac y gallai hynny ddarparu ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol".
Ond dywedodd Mr Imperato fod pobl yn teimlo y byddai cymunedau yn anghynaladwy heb eu hysgolion.
"Gallai ffyrdd o fyw yng Nghymru newid am byth os caniateir i ysgolion gwledig da ddiflannu," meddai.
Dywedodd rhieni plant yn yr ysgol wrth BBC Cymru pam eu bod am ei chadw ar agor.
"Mae gen i dri o blant ifanc yn yr ysgol a byddai'n golygu'r byd iddyn nhw petai'n aros ar agor," meddai Fi Loftus.
"Hefyd ry'n ni'n deulu milwrol, ac maen nhw wedi wynebu digon o aflonyddwch yn eu bywyd yn barod, pam tarfu ar ysgol wledig berffaith, lewyrchus?"
'Heriau sylweddol'
Mae Cyngor Powys yn cael ei redeg gan glymblaid o gynghorwyr Annibynnol a Cheidwadwyr.
Dywedodd Phyl Davies, yr aelod cabinet dros addysg, y bydd eu strategaeth "yn ein helpu ni i drawsnewid y profiad i ddysgwyr" ac yn mynd i'r afael â'r "heriau sylweddol sy'n wynebu addysg ym Mhowys".
"Mae'r heriau hyn yn cynnwys cyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, llai o ddisgyblion, nifer fawr o lefydd gwag, anghydraddoldeb o ran mynediad at addysg Gymraeg, diffyg cyfleoedd ôl-14 ac ôl-16 ac anghydraddoldeb o ran mynediad at ddarpariaeth anghenion addysg arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol," meddai.
"Rydym am sicrhau'r gorau i'n dysgwyr ni ac rwy'n credu y bydd y strategaeth hon yn creu gwaddol a fydd yn sicrhau fod dysgwyr yn ffynnu ac yn cyrraedd eu potensial a chystadlu â gweddill y byd."
Dywedodd yr aelod senedd dros Sir Drefaldwyn, y Ceidwadwr Russell George, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod "cyllid priodol" yn mynd i gynghorau ochr yn ochr â'r amddiffyniad a roddir i ysgolion gwledig.
"Os bydd anhawster wrth gyflwyno'r cwricwlwm ac nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion ac awdurdodau lleol yn briodol i gyflawni'r cwricwlwm hwnnw, yna ychydig iawn o ddewis sydd gan y cyngor ond edrych ar newid y ffordd maen nhw'n strwythuro addysg a gorfod cau ysgolion llai," meddai.
"Mae hynny'n drist iawn oherwydd rwy'n credu y dylid cael rhagdybiaeth i gadw ysgolion llai ar agor."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drefnu ysgolion yn eu hardal.
Ychwanegodd eu bod wedi cymryd "nifer o gamau" i helpu rhoi'r "dechrau gorau" i blant mewn ardaloedd gwledig.
"I gydnabod yr heriau y gall ysgolion bach a gwledig eu hwynebu, rydyn ni hefyd wedi cyflwyno grant gwerth £2.5m y flwyddyn er mwyn annog dyfeisgarwch, cydweithio rhwng ysgolion a chodi safonau," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021