Galw am well system gyfiawnder i ddioddefwyr trais

  • Cyhoeddwyd
domestic abuse
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un dioddefwr ei bod yn "teimlo fel 'mod i wedi gorfod profi fy mod yn ddieuog"

Mae 'na alwadau ar i ddioddefwyr troseddau treisgar yng Nghymru gael gwell gefnogaeth trwy'r system gyfiawnder.

Dywedodd un fenyw wnaeth ddioddef trais domestig fod ei phrofiad o fynd trwy achos llys mor "ofnadwy", ei bod "fel petai'r cam-drin wedi parhau".

Yn ôl elusen sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr treisio a cham-drin rhyw, mae rhai yn disgwyl blynyddoedd i'w hachosion gyrraedd y llys.

Ychwanegodd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Fonesig Vera Baird, fod troseddau treisgar yn erbyn menywod yn cael eu herlyn yn "wan iawn".

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn buddsoddi "cannoedd o filiynau" er mwyn gwella'r oedi mewn achosion a ddaeth yn sgil y pandemig.

'Dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel'

Fe wnaeth Abby - nid ei henw iawn - adael ei phartner a chymryd ei phlant gyda hi wedi iddi ddioddef cam-drin emosiynol, ariannol a chorfforol.

Fe benderfynodd erlyn ei chyn-bartner, ac mae'r achos yn dal i fynd trwy'r llysoedd ar hyn o bryd.

Dywedodd fod y profiad yn "sugno eich emosiwn i gyd", a bod gorfod ailadrodd yr hanes dro ar ôl tro yn "drawmatig".

Ychwanegodd ei bod wedi gorfod sefyll o flaen ei chyn-bartner wrth ddisgwyl i fynd i mewn i'r llys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai dioddefwyr yn disgwyl blynyddoedd i'w hachosion gyrraedd y llys, medd elusennau

"Fe wnaeth e godi ofn arna i. Roedd e'n ofnadwy. Ro'n i'n teimlo fy hun yn crynu - doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd am ddigwydd," meddai.

"Dydw i ddim yn teimlo fel 'mod i wedi cael fy nhrin fel dioddefwr o gwbl - rwy'n teimlo fel 'mod i wedi gorfod profi fy mod i'n ddieuog.

"Dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel, a does gen i ddim hyder y bydd y llysoedd yn gwneud diogelwch fy mhlant yn flaenoriaeth.

"Trais dynion ydy'r broblem, nid ymddygiad menywod, ac rwy'n teimlo bod angen cydnabod hynny."

Mae arolwg trosedd Cymru a Lloegr yn amcangyfrif mai dim ond 16% o'r menywod sy'n dioddef cam-drin rhyw neu dreisio sy'n ei adrodd i'r heddlu.

Dywedodd elusen New Pathways eu bod wedi rhoi cymorth i 9,500 o ddioddefwyr cam-drin rhyw yn ne Cymru dros gyfnod o flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sarah Thomas fod oedi yn mynd i'r llys yn cael effaith ar iechyd meddwl dioddefwyr

Yn ôl Sarah Thomas o'r elusen, mae oedi "sylweddol" yn y system gyfiawnder yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu dioddefwyr.

"Maen nhw'n teimlo bod pawb wedi anghofio amdanyn nhw. Maen nhw'n teimlo ar goll yn y system, fel nad ydyn nhw'n bwysig," meddai.

"Mae'n gallu teimlo fel bod y system wedi'i ddylunio ar gyfer yr ymosodwr yn hytrach na chefnogi dioddefwyr."

Ychwanegodd ei bod wedi gweld rhai achosion yn cymryd tair blynedd i gyrraedd y llys, a bod hynny'n cael effaith ar iechyd meddwl dioddefwyr.

Mae Gwendolyn Sterk o elusen Cymorth i Ferched Cymru hefyd eisiau gweld system sy'n blaenoriaethu cefnogi dioddefwyr, gan gynnwys ei gwneud yn haws i roi gorchmynion atal - neu restraining orders - mewn lle.

17,726 o achosion yn disgwyl

Ers 2020 mae cyllid yr adran gyfiawnder wedi cael ei dorri 25%.

Yng Nghymru mae 22 o lysoedd ynadon wedi cau ac ar hyn o bryd mae 17,726 o achosion yn disgwyl i fynd i'r llys - gyda Covid wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y system.

Mae nifer yr erlyniadau ar gyfer achosion o dreisio wedi gostwng 59% ers 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fonesig Vera Baird bod troseddau treisgar yn erbyn menywod yn cael eu herlyn yn "wan iawn"

Dywedodd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Fonesig Vera Baird ei bod eisiau gweld trais yn erbyn menywod yn cael ei drin gyda'r un brys ag achosion o derfysgaeth.

"Mae angen ymgyrch bwerus ar frys er mwyn newid nid yn unig agwedd yr heddlu ond agwedd y llysoedd a'r cyhoedd," meddai.

"Mae angen sicrhau nad ydy pobl yn goddef y troseddau lefel isel, a bod y rhai lefel uchel yn cael eu herlyn yn ffyrnig, nid yn wan iawn fel yw'r achos ar hyn o bryd."

'Ailadeiladu ffydd'

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn bwriadu gwario dros £150m ar ddioddefwyr troseddau, gan gynnwys £50m i wella'r gefnogaeth i ddioddefwyr treisio a cham-drin rhyw.

"Roedd effaith y pandemig yn ddigynsail ond rydyn ni eisoes yn lleihau nifer yr achosion sy'n disgwyl i fynd i lysoedd ynadon a'r goron ledled Cymru," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n buddsoddi cannoedd o filiynau er mwyn adfer y cyfiawnder sydyn y mae dioddefwyr yn ei haeddu, tra'n ailadeiladu ffydd yn y system trwy gyflwyno cyfraith newydd i ddioddefwyr a chynyddu'r cymorth sydd ar gael iddynt."

Pynciau cysylltiedig