Galw ar sêr a chlybiau chwaraeon i gefnogi'r ymgyrch frechu
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar sêr a chlybiau chwaraeon Cymru i wneud mwy i gefnogi'r ymgyrch i gael brechlyn Covid.
Daw wedi i gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nad ydy holl glybiau chwaraeon yr ardal wedi cefnogi ymgyrch i annog pobl i gael eu brechu.
Dywedodd Ken Reid fod rhanbarth rygbi'r Gweilch wedi cefnogi'r ymgyrch, ond dyw Clwb Pêl-droed Abertawe heb fod mor amlwg eu cefnogaeth.
Dywedodd Clwb Pêl-droed Abertawe eu bod "wedi ymrwymo i roi cymorth i'r rhaglen frechu yn y rhanbarth".
'Dylanwad sylweddol'
Yn ôl Mr Reid fe allai sêr lleol o fyd chwaraeon fod yn esiampl wrth gael eu brechu i brofi ei fod yn ddiogel.
"Mae un [clwb] wedi bod yn eiddgar i gefnogi ein hymgyrch frechu - dyw un arall heb," meddai.
Dywedodd ei fod yn credu bod hynny "oherwydd yr agwedd ymysg y chwaraewyr eu hunain".
Mae'r BBC yn deall bod llai na hanner y chwaraewyr yn y mwyafrif o'r clybiau ym mhedair cynghrair uchaf Lloegr wedi cael eu brechu.
"Heb os fe all pobl - yn enwedig sêr chwaraeon - gael dylanwad sylweddol ar ymddygiad ein cymunedau, a chwarae teg i'r rheiny sy'n gwneud hynny," meddai Mr Reid.
Yn dilyn cais am sylw gan BBC Cymru dywedodd Clwb Pêl-droed Abertawe eu bod wedi cysylltu gyda'r bwrdd iechyd i holi am "ffyrdd y gallwn helpu yn y dyfodol".
"Mae ein chwaraewyr a'n staff yn derbyn cyngor rheolaidd gan dîm meddygol y clwb ynglŷn â diogelwch cyhoeddus a brechiadau, ac rydyn ni'n parchu'r penderfyniadau maen nhw'n eu gwneud ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd," meddai llefarydd.
Beth yw barn y bobl?
Tan yn ddiweddar, ardal Castell-nedd Port Talbot oedd â'r gyfradd uchaf o achosion Covid ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Fe wnaeth BBC Cymru ymweld â chlwb bocsio y Bulldogs ym Mhort Talbot i glywed barn y bobl ifanc yno am y cynllun brechu.
Yn eu plith mae'r bocsiwr Connor McIntosh, 26.
Flwyddyn yn ôl roedd wedi bwriadu ymladd ei ornest broffesiynol gyntaf, ond daeth y pandemig a bu raid iddo aros tan ddiwedd y mis yma cyn cael ei ornest gyntaf.
Mae trefniadau o ran brechu yn bwysig iddo o ran diogelwch personol, ac yn y cyfnod ers dechrau'r pandemig mae wedi bod yn ofalus iawn, yn enwedig cyn geni ei ferch fach Bronagh, sydd nawr yn flwydd oed.
"Nes i ddim gadael y tŷ - do'n ni ddim eisiau cymryd y risg," meddai.
"Dwi 'di cael fy jab cyntaf ac fe fyddai'n cael fy ail mewn cwpl wythnosau - bydd yn rhaid i mi gael e cyn fy ffeit proffesiynol cyntaf beth bynnag oherwydd mesurau diogelwch."
Ychwanegodd nad oedd ganddo bryder am gael ei frechu, er ei fod yn adnabod rhai sy'n wyliadwrus ohono.
"Chi'n gweld y bobl 'ma ar Facebook yn meddwl eu bod nhw'n wyddonwyr ac yn deall beth sydd ynddyn nhw, ond os yw'n mynd i wneud pethau 'nôl i'r arfer yn gynt, rwy'n credu y dylai pawb eu cael nhw."
Cafodd Seren Jenkins, 22, Covid y llynedd, ac mae hi bellach wedi cael ei brechu, ond mae hi'n gwrthod y syniad mai pobl ifanc yw'r unig rai sy'n teimlo na fyddai'r feirws yn cael effaith fawr arnyn nhw.
"Rwy'n siŵr bod loads o bobl ifanc yn meddwl fel 'na, ond rwy'n 'nabod digon o bobl hŷn sydd wedi bod yr un fath - dydw i ddim yn credu ei bod hi'n deg rhoi hynny ar un grŵp oedran yn unig," meddai.
Roedd cael y brechlyn yn benderfyniad rhwydd i Rhodri Williams ar ôl gweld ei fam ai dad - un yn nyrs a'r llall yn gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans - yn dod adref o'r gwaith yn ystod y pandemig yn amlwg dan straen.
"Fi'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pawb yn cael eu brechu - mae'n achub bywydau ac yn lleihau'r chances bod pobl angen mynd i'r ysbyty," meddai.
"Mae gennych chi bobl sydd ddim eisiau fe, yn dweud nad ydyn nhw'n gwybod beth sydd ynddo fe, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth sydd yn eu sigaréts nhw a phethau fel 'na chwaith.
"Ond rydw i wedi gweld lot o bobl enwog - yn enwedig ar TikTok ac Instagram - yn ffilmio eu hunain yn cael eu brechu - ac efallai y bydd hynny'n annog mwy o bobl ifanc i fynd a chael eu brechiad nhw."
Fe gafodd Mackenzie Itzstein, 22, Covid hefyd, ac ers hynny mae yntau wedi cael ei frechu.
"Roeddwn i yn rhannu tŷ gyda fy mam-gu a thad-cu - roedd gen i fwy o bryder amdanyn nhw na fi fy hun," meddai.
"Oherwydd 'mod i'n ifanc fe fyddwn i'n gallu brwydro fe ond rwy'n teimlo dros bobl hŷn."
Ond dywedodd Keith Reid fod hynny'n gamsyniad, a bod pobl ifanc yn cael Covid yn ddifrifol.
"Rydyn ni wedi gweld 45 o bobl ifanc yn yr ysbyty yn y tri mis diwethaf - iau na 15 oed," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021