Y Ganolfan Dysgu Cymraeg i reoli cwrs Cymraeg Duolingo
- Cyhoeddwyd
Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cymryd cyfrifoldeb dros y cwrs dysgu Cymraeg ar ap Duolingo o fis Hydref.
Ers lansio yn 2016, mae'r cwrs wedi denu bron i 1.9m o ddysgwyr ledled y byd.
Mae'r Ganolfan eisoes wedi unioni'r cwrs gyda'i chwricwlwm dysgu Cymraeg.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, fod hyn yn "newyddion ardderchog" wrth weithio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
'Ffurfioli' cyrsiau
Cafodd cwrs Cymraeg ei gyflwyno i Duolingo, ap am ddim i ddysgu ieithoedd, yn 2016 ar ôl i griw o wirfoddolwyr bwyso ar y cwmni a helpu i greu'r cwrs.
O fis Hydref bydd cyfrifoldeb dros y cwrs yn trosglwyddo o'r gwirfoddolwyr i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy'n gyfrifol am y sector dysgu Cymraeg ac sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r datblygiad yn rhan o fenter gan Duolingo i "ffurfioli'r ffordd mae cyrsiau'n cael eu creu," meddai Rheolwr Gwlad DU Duolingo, Colin Watkins.
Y bwriad yw symud i ffwrdd o fodel sy'n seiliedig ar wirfoddolwyr, ac yn lle creu a chynnal cyrsiau yn fewnol neu mewn partneriaeth â chyrff allanol.
Dywedodd Mr Watkins: "Mae'n bwysig i ni ein bod ni'n cydweithio gyda'r partneriaid cywir, ac mae'r bartneriaeth gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn berffaith."
Dyma'r tro cyntaf i gyfrifoldeb drosglwyddo i bartner allanol fel rhan o'r menter.
Yn ôl Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol, "bydd y bartneriaeth newydd yma yn ein galluogi ni i unioni cwrs Duolingo yn agosach gyda'n cyrsiau".
"Hoffai'r Ganolfan Genedlaethol dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar gwrs Cymraeg Duolingo. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â'u gwaith da ac at groesawu a chefnogi hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr Cymraeg."
'Gwirioni' gyda'r cwrs
Mae 476,000 o bobl yn dysgu'r Gymraeg ar Duolingo ar hyn o bryd, ac mae'r cwrs ymysg y mwyaf ar yr ap o ran y nifer o eiriau mae'n bosib eu dysgu.
Yn ôl Duolingo, Cymraeg oedd yr iaith oedd yn tyfu gyflymaf ym Mhrydain yn 2020, pan welodd nifer y dysgwyr Cymraeg newydd ar yr ap gynnydd o 44% - uwchlaw Hindi, Japanaeg a Ffrangeg.
Un sydd wedi "gwirioni" gyda'r cwrs yw Liz Day o Gaerdydd.
Fe ddechreuodd Liz ddysgu Cymraeg flwyddyn yn ôl, ac mae hi'n defnyddio'r ap i ymarfer rhwng ei gwersi.
Dywedodd hi: "Mae eiconau defnyddiol ar ddiwedd pob pennod yn y cwrslyfrau Dysgu Cymraeg yn dangos yr unedau cyfatebol ar Duolingo - dyma arweiniodd fi at ddefnyddio'r ap.
"Dwi wedi bod yn defnyddio Duolingo bob dydd ers dros flwyddyn bellach, a dwi wedi dysgu bron 2,000 o eiriau.
"Mae'n ffordd wych o ymarfer beth dwi wedi'i ddysgu yn y dosbarth - dwi'n cyfaddef fy mod i wedi gwirioni ychydig!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021