'O'n i'n gweld fy hun yn stori digartrefedd Rownd a Rownd'

  • Cyhoeddwyd
John BarnettFfynhonnell y llun, John Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Barnett ei fod wedi gweld llawer o'i brofiad yntau yn stori 'Caitlin'

Mae dyn fu'n byw ar strydoedd Bangor yn y gorffennol wedi canmol cyfres Rownd a Rownd am eu portread diweddar o stori merch ifanc ddigartref.

Dywedodd John Barnett o Fodedern ei fod wedi cysylltu gyda'r rhaglen ar ôl gwylio stori cymeriad 'Caitlin', oedd yn debyg iawn i'w brofiad yntau o fod yn ddigartref pan yn ifanc.

Mae'r opera sebon nawr wedi rhoi cyfle iddo yntau rannu ei brofiad ar eu sianeli digidol fel ffordd o godi ymwybyddiaeth bellach o'r broblem.

"Mae'n bwysig achos maen nhw yn dangos bod 'na broblemau tua allan yn y byd go iawn sydd angen eu solvio, [a bod] angen dangos y sylw iddyn nhw," meddai Mr Barnett.

Cysgu ar dir yr ysgol

Yn y gyfres mae Caitlin, sy'n cael ei chwarae gan Manw Robin, yn ferch ifanc sy'n dod i sylw rhai o gymeriadau'r dref i ddechrau wedi iddi gael ei gweld yn dwyn bwyd o siopau a biniau.

Yn ddiweddarach mae hi'n cael cymorth gan rai o'r trigolion, gan gynnwys ditectif arolygydd yr orsaf heddlu leol, wedi iddi ddod o hyd i Caitlin yn byw mewn pabell yn y goedwig.

"Pan o'n i'n dechrau gwylio Caitlin yn Rownd a Rownd, roedd 'na bethau tebyg i mhlentyndod i," meddai John Barnett wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mwya'm byd oedd yr episodes yn mynd ymlaen oedd o'n fwy a fwy agos, ac o'n i'n gweld be' o'n i'n 'neud yn fy mhlentyndod union yr un fath â be' oedd Caitlin yn 'neud."

Ffynhonnell y llun, Rondo/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cymeriad Caitlin ei darganfod yn byw mewn pabell yn y goedwig

Pan oedd ond yn 13 oed, fe dreuliodd Mr Barnett gyfnod yn cysgu yng Nghanolfan Wellfield ym Mangor er mwyn dianc o adref.

"O'n i 'di bod fewn ac allan o foster homes - oedd pobl foster homes yn dda efo fi, ond oedd awdurdodau yn gadael fi lawr ac o'n i'n gorfod fendio amdan fy hun.

"O'n i'n cysgu weithiau yn Ysgol Tryfan, yn yr adeiladau tu allan i fan 'na, achos fan 'na oedd fy ysgol i.

"Nes i dorri mewn i'r ysgol un dydd Sul i 'nôl bwyd achos o'n i angen rhywbeth i fyta, ac isio survivio."

'Effaith go iawn'

Roedd gweld portread ar y sgrin fach o berson ifanc yn mynd drwy broblemau tebyg yn bwysig iawn iddo felly.

"Mae 'na bobl ifanc allan yna rŵan, 'di'r bobl yna ddim yn cael yr help maen nhw angen, a dwi jyst yn falch achos mae Rownd a Rownd yn cynrychioli pobl go iawn," meddai.

"Dylai 'na fod fwy o help i bobl ifanc pan maen nhw 'di bod mewn foster care, a phan maen nhw'n cyrraedd 18, bod nhw'n cael yr help ar ôl hynna i fedru helpu nhw mewn bywyd fel dydyn nhw ddim yn stryglo."

Ychwanegodd Ciron Gruffudd, aelod o dîm cynhyrchu Rownd a Rownd: "Roedd clywed gan John, a'i stori o, nid yn unig yn gydnabyddiaeth bod ni 'di delio efo'r mater mewn ffordd sensitif a chywir, ond hefyd yn atgoffa ni bod ein cynnwys ni a chynnwys teledu yn gyffredinol yn gallu cael effaith go iawn ar bobl."

Pynciau cysylltiedig