Awgrym mai batris oedd achos tân canolfan ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd i bobl yn Sir Gaerfyrddin i beidio rhoi batris mewn bagiau bin du neu las, wrth i dystiolaeth awgrymu'n gryf mai dyna achosodd dân sylweddol mewn canolfan ailgylchu ger Caerfyrddin ym mis Ebrill.
Fe wnaeth y tân yng nghanolfan Nant-y-caws achosi gwerth miliynau o bunnau o ddifrod, a bu'n rhaid i'r safle gau am bum diwrnod.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mae batris ïon lithiwm i'w cael mewn mwy a mwy o eitemau erbyn hyn, ac mae eu gwaredu wedi dod yn broblem gynyddol, gyda hyd yn oed y rhai lleiaf yn gallu achosi tân sylweddol fyddai'n lledaenu'n gyflym.
Yn y pum mlynedd ddiwethaf mae nifer y tanau sy'n gysylltiedig, neu'n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â batris o'r fath wedi mwy na dyblu.
'Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn'
Y llynedd fe wnaeth y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol gyhoeddi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu batris yn anghywir, oherwydd eu bod yn achosi gwerth miliynau o bunnau o ddifrod mewn canolfannau ailgylchu bob blwyddyn, ac yn peryglu bywydau pobl sy'n gweithio yno.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros yr Amgylchedd:
"Diolch byth na chafodd neb ei anafu yn y tân yng Nghanolfan Ailgylchu Nantycaws yng Nghaerfyrddin.
"Peidiwch â rhoi hen fatris rhydd neu eitemau sy'n cynnwys batris yn eich bagiau bin gyda sbwriel arall. Mae'n beryglus iawn a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn.
"Mae gan bob un o'n canolfannau ailgylchu gyfleusterau i gael gwared â'ch batris yn ddiogel ac mae gan lawer o siopau ac archfarchnadoedd fannau casglu batris hefyd."
Mae'r eitemau amhriodol mwyaf cyffredin sy'n cael eu rhoi mewn bagiau bin i'w casglu wrth ymyl y ffordd yn cynnwys gwastraff trydanol fel tostwyr, teganau plant, offer steilio gwallt, dyfeisiau symudol, a hen fatris unigol sy'n cael eu taflu - batris celloedd safonol neu fatris ïon lithiwm y mae'n bosib eu hailwefru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2021