Stonewall wedi 'gorchymyn polisi' ar Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
baner prideFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi bod y llywodraeth y hybu diwylliant ideolegol ac yn ailysgrifennu'r Ddeddf Cydraddoldeb ar yr un pryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhuddo o "dderbyn gorchymyn" gan elusen LHDT.

Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi bod y llywodraeth yn hybu diwylliant ideolegol trwy fabwysiadu dehongliad Stonewall o'r gyfraith ar gydraddoldeb.

Roedd hi'n ymateb i ymchwiliad gan y BBC sy'n dangos bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dehongliad Stonewall o'r Ddeddf Cydraddoldeb.

Mae Llywodraeth Cymru bod ei pholisi cydymffurfio gydag "ysbryd y ddeddf" ac yn dweud nad yw eu polisïau yn anfanteisio, tanseilio nac yn eithrio unrhyw gydweithwyr.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod hawliau yn seiliedig ar oed, anabledd, ailgyfeirio rhywedd (gender reassignment), hil, crefydd neu gred, rhyw, gogwydd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, a beichiogrwydd a mamolaeth.

Ond roedd polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llywodraeth Cymru a roddwyd i Stonewall - ac a welwyd gan y BBC - cafodd 'ailgyfeirio rhywedd' ei ddileu, ac yn ei le fe roddwyd 'hunaniaeth rhywedd' (gender identity) sef yr hyn y mae Stonewall wedi bod yn ymgyrchu amdano.

Mae'r rhai sy'n feirniadol o ddehongliad Stonewall yn dadlau bod y term 'hunaniaeth rhywedd' (gender identity) yn rhy eang a ddim yn cael ei ddiffinio yn gyfreithiol, a bod hynny'n tanseilio hawliau sy'n seiliedig ar ryw yn y ddeddfwriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae camgyfleu y ddeddf fel hyn yn dangos dirmyg nid yn unig at y gyfraith ond hefyd at unrhyw un sydd am fod yn eiriol dros fenywod," medd Tonia Antoniazzi

Dywedodd Tonia Antoniazzi: "Mae'n anhygoel bod Llywodraeth Cymru mor amlwg yn gallu camgyfleu Deddf Cydraddoldeb 2010 fel y mae Stonewall yn ei orchymyn.

"Maen nhw'n hybu diwylliant ideolegol ac yn ailysgrifennu'r Ddeddf Cydraddoldeb ar yr un pryd. Mae camgyfleu y ddeddf fel hyn yn dangos dirmyg nid yn unig at y gyfraith ond hefyd at unrhyw un sydd am fod yn eiriol dros fenywod neu sydd â phryderon am warchodaeth.

"Byddwn i hefyd am wybod pa sefydliadau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw i brofi eu polisïau ac ymarferion, a beth yw'r berthynas rhyngddyn nhw a Stonewall a'r Senedd.

"Mae'r sefyllfa yn warthus, ac fel AS Llafur rwy'n siomedig iawn nad oes yr un gweinidog wedi bod ar gael i ymateb i'r BBC i amddiffyn eu safbwynt."

Ychwanegodd ei bod yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu lle diogel i'r holl staff fedru mynegi unrhyw bryderon heb ofn.

'Wedi'u perswadio gan Stonewall'

Mae Robin Allen QC yn arbenigo mewn cyfreithiau cyflogaeth a chydraddoldeb.

Dywedodd wrth bodlediad Nolan Investigates nad oes "dim i rwystro Llywodraeth Cymru rhag cynnwys nodweddion mwy cynhwysol y maen nhw'n eu hystyried i fod yn bwysig wrth ddatblygu polisïau, ond yr hyn chawn nhw ddim gwneud yw dileu nodweddion".

Ychwanegodd ei fod yn credu bod Llywodraeth Cymru "wedi cael eu perswadio gan Stonewall i ddefnyddio'r term 'hunaniaeth rhywedd' er mwyn ceisio mabwysiadu dull mwy modern - fel byddai Stonewall yn dweud - bod hunaniaeth pobl ym maes cenedl a rhyw yn fwy llifol na bod naill ai'n wrywaidd neu'n fenywaidd".

Ond dywedodd hefyd nad "yw 'hunaniaeth rhywedd' yn nodwedd sydd wedi'i warchod fel y mae'n cael ei ddiffinio yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010".

Gwrthododd Llywodraeth Cymru gais am gyfweliad ar y podlediad.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod nad yw'r termau 'hunaniaeth rhywedd' a 'mynegiant rhywedd' yn nodweddion sydd wedi'u gwarchod yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond rydym yn defnyddio'r termau yma i sôn am y nodwedd o 'ailgyfeirio rhywedd' sydd wedi'i warchod gan y ddeddf.

"Rydym yn teimlo nad yw'r termau yma yn camgyfleu'r Ddeddf Cydraddoldeb o safbwynt ysbryd y ddeddf.

"Mae diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o 'ailgyfeirio rhywedd' yn cynnwys statws trans, hunaniaeth rhywedd ac yn gwarchod pobl rhywedd-lifol ac anneuaidd hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y stori i'r amlwg mewn ymchwiliad ar gyfer podlediad Nolan Investigates, gyda Stephen Nolan yn cyflwyno

Ond dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) - y corff sy'n gyfrifol am weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 - wrth Nolan Investigates nad yw'r term 'hunaniaeth rhywedd' yn egluro pwy sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith yn nhermau'r Ddeddf Cydraddoldeb, fel sy'n cael ei awgrymu gan Stonewall a Llywodraeth Cymru.

Ychwanegon nhw bod y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 "yn gwarchod yn erbyn gwahaniaethu ar sail y nodwedd ailgyfeirio rhywedd".

"Er mwyn cael gwarchodaeth rhag gwahaniaethu ar sail ailgyfeirio rhywedd, does dim rhaid i'r person fod wedi cael unrhyw driniaeth neu lawdriniaeth benodol.

"Gallwch fod mewn unrhyw ran o'r broses o drawsnewid - o benderfynu ailgyfeirio rhywedd i fod yn mynd drwy'r broses o gael triniaeth i newid eich rhywedd neu o fod wedi cwblhau'r broses".

'Cynhwysol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd ei bod yn "falch o fod yn gyflogwr cynhwysol lle mae pob cydweithiwr yn cael cefnogaeth i fod yn nhw'u hunain a chyrraedd eu llawn botensial. Nid yw ein polisïau yn anfanteisio, tanseilio nac yn eithrio unrhyw gydweithiwr".

"Fel cyflogwr cynhwysol, rydym yn rhan o nifer o weithgareddau sy'n sicrhau ein bod yn dysgu o'r ymarfer gorau mewn sefydliadau eraill. Mae Stonewall yn un o nifer o sefydliadau y byddwn yn siarad â nhw er mwyn profi ein polisïau ac ymarferion."

Dywedodd Stonewall: "Mae ein holl ganllawiau ar y Ddeddf Cydraddoldeb - gan gynnwys defnyddio'r term 'hunaniaeth rhywedd' - yn seiliedig ar god ymarfer cydraddoldeb EHRC, a gafodd sêl bendith yr Uchel Lys yn ddiweddar."

Ni wnaeth Stonewall ddarparu mwy o wybodaeth i'r BBC pan ofynnwyd iddyn nhw am fanylion yr achos Uchel Lys, nac am ddatganiad EHRC i'r podlediad.

Mae podlediad Nolan Investigates ar gael ar BBC Sounds.