'Gwyliwch rhag cael eich dal yn sownd gan lanw'r môr'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o'r gogledd yn rhybuddio pobl i beidio "anwybyddu cyflymder y dŵr" ar ôl iddi gael ei dal gan y llanw.
Roedd yn rhaid i Susan Beetlestone gael ei hachub wedi i'r môr ei hamgylchynu ar Draeth Barkby ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
Yn ôl yr RNLI, mae un o bob deg galwad yng Nghymru yn ymwneud â phobl sydd yn sownd achos y llanw.
Gyda hanner tymor ar y gweill, mae criwiau bad achub yn annog cerddwyr i wirio amser llanw a thrai cyn mynd allan.
'Roedd fy nhraed yn suddo'
Penderfynodd Ms Beetlestone, 59, fynd â'i chŵn i Draeth Barkby yn lle'i thraeth arferol ar y diwrnod pan aeth i drafferthion.
Pan redodd ei sbaniel dyflwydd oed, Jerry, i ffwrdd, aeth Ms Beetlestone ar ei ôl. Yn ddiarwybod iddi, daeth y llanw i'w hamgylchynu.
"Gan fod y dŵr yn codi mor sydyn, wnes i droi rownd a sylwi nad o'n i'n cerdded gyfochr â'r traeth, ond i ffwrdd o'r traeth… Ro'n i mor bell allan, ro'n i wedi fy amgylchynu," meddai.
Yn y diwedd, cafodd afael ar Jerry a cheisiodd anelu at y lan - ond doedd hynny ddim yn hawdd, â'r dŵr yn cyrraedd ei chluniau.
"Wrth i mi gerdded 'nôl, roeddwn yn y dŵr… roedd fy nhraed yn suddo a do'n i methu mynd drwy'r tywod," meddai.
Wrth iddi ddechrau cynhyrfu - gan boeni y byddai'n cael pwl o asthma - ffoniodd Wylwyr y Glannau.
"Do'n i methu anadlu na siarad. Ond daliodd y person ar y ffôn i siarad efo fi tan i'r bad achub fy nghyrraedd. Ro'n i'n agos at y traeth yn eistedd ar foncyff ger y gro mân pan gyrhaeddon nhw.
"Fe roddon nhw bwmp asthma i mi'n syth, achos doedd gen i mo'n un i, ac wedyn fe roddon nhw ocsigen i mi, a dechreuais deimlo'n well."
'Pwysig bod yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas'
Gyda disgwyl llanw uchel ar 22 Hydref, bydd y llanw a'r trai yn fwy eithafol y penwythnos nesaf, wrth i'r cyfnod hanner tymor gychwyn.
Cyngor yr RNLI yw i bobl wirio'r tywydd ac amseroedd y llanw cyn anelu am yr arfordir.
"Mae 10% o holl alwadau'r RNLI yng Nghymru yn ymwneud â phobl yn cael eu dal gan y llanw," meddai Vinny Jones, un o griw RNLI Y Rhyl a achubodd Susan Beetlestone.
"Felly mae'n bwysig iawn, os 'dach chi'n mynd i lan y môr, i adnabod yr hyn sydd o'ch cwmpas.
"Os 'dach chi ddim yn siŵr, gofynnwch i rywun. Byddwch yn ymwybodol o'r amgylchiadau a gwnewch yn siŵr bod gennych chi'ch ffôn symudol."
Yn ôl Ms Beetlestone, sydd o Waenysgor yn Sir Y Fflint, mae ganddi ddwy neges i gerddwyr eraill.
"Peidiwch anwybyddu cyflymder y dŵr pan 'dach chi'n bell allan a'r llanw'n dod mewn," meddai.
"A buaswn i'n cynghori pobl i ffonio 999 os ydyn nhw'n gweld rhywun yn y dŵr fel o'n i. Efallai nad o'n i â dŵr hyd at fy ngwddf, neu ble bynnag, ond ro'n i'n cael trafferth anadlu… ac mae 'na bethau eraill allai fynd o le."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2021
- Cyhoeddwyd14 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021