Dyn wedi ymddwyn yn 'beryglus' wrth drefnu hediad Sala

  • Cyhoeddwyd
David Henderson (chwith)
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Henderson (chwith) wedi'i gyhuddo o beryglu diogelwch awyren

Fe wnaeth dyn ymddwyn yn "anystyriol ac yn beryglus" wrth drefnu'r hediad roedd y pêl-droediwr Emiliano Sala yn teithio arni pan fu farw, mae llys wedi clywed.

Mae David Henderson, 67 o Hotham, Sir Efrog, wedi'i gyhuddo o beryglu diogelwch awyren.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd nad oedd y peilot roedd Mr Henderson wedi trefnu i hedfan yr awyren, David Ibbotson, yn "gymwys" i gymryd y daith.

Mae Mr Henderson eisoes wedi cyfaddef cyhuddiad o drefnu taith heb ganiatâd priodol ond wedi pledio'n ddieuog i beryglu diogelwch yr hediad.

Bu farw Mr Ibbotson a'r pêl-droediwr Sala pan blymiodd yr awyren Piper Malibu i Fôr Udd yn Ionawr 2019 wrth gludo'r chwaraewr 28 oed i ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson yn y digwyddiad ar 29 Ionawr 2019

Cafodd corff Sala ei ddarganfod y mis canlynol ond dyw corff Mr Ibbotson, 59 o Crowle, Sir Lincoln, na gweddillion yr awyren wedi eu codi o'r môr.

Roedd Mr Henderson wedi'i drefnu i hedfan rhwng Caerdydd a Nantes ei hun ond methodd a gwneud gan ei fod ar ei wyliau ym Mharis ar y pryd.

Fe ofynnodd i Mr Ibbotson hedfan yr awyren, er nad oedd ganddo drwydded fasnachol, meddai'r erlynydd Martin Goudie.

Yn ôl Mr Goudie, nid oedd Mr Ibbotson yn ddigon galluog i hedfan yn yr amodau tywydd gwael roedd Mr Henderson yn gwybod oedd wedi'u darogan.

Ychwanegodd yr erlyniad bod Mr Henderson wedi "anwybyddu anghenion penodol" a threfnodd yr hediadau am resymau busnes yn hytrach na "chariad at Sala neu Glwb Pêl-droed Caerdydd".

Torri rheolau hedfan

Yn 2018, chwe mis cyn y digwyddiad, dywedodd perchnogion yr awyren wrth Mr Henderson "na ddylai Mr Ibbotson hedfan y Piper Malibu eto" ar ôl iddo dorri rheolau hedfan ar ddau achlysur.

Ond gofynnod Mr Henderson i Mr Ibbotson hedfan yr awyren eto erbyn 5 Awst y flwyddyn honno.

Dywedodd Fay Keely, sy'n cynrychioli'r ymddiriedolaeth sy'n berchen yr awyren, nad oedd hi'n "ymwybodol mai Mr Ibbotson oedd y peilot" ar y teithiau rhwng Caerdydd a Nantes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Clywodd y llys bod Mr Henderson yn ymwybodol o broblemau gyda gallu Mr Ibbotson i hedfan yr awyren.

Mae negeseuon rhwng Mr Henderson a Mr Ibbotson o 2018 yn dangos trafodaethau ynglŷn â hedfan heb y cymwysterau cywir, a gallu Mr Ibbotson i hedfan yn ystod y nos.

Yn ôl Mr Goudie, yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth Mr Henderson anfon negeseuon yn annog sawl person i aros yn dawel oherwydd "gall cwestiynau gael eu gofyn dros hedfan" Mr Ibbotson.

"Mae'n amlwg o'r dystiolaeth ei fod yn 'nabod Mr Ibbotson yn dda, wedi trafod ei gymwysterau o'r blaen ac yn gwybod nad oedd o'n ddigon da," meddai.

Mae'r achos llys yn parhau.

Pynciau cysylltiedig