Albwm y Flwyddyn: 'Profiad bythgofiadwy' Mared Williams

  • Cyhoeddwyd
Clawr 'Y Drefn' gan MaredFfynhonnell y llun, IKACHING
Disgrifiad o’r llun,

Rhyddhaodd Mared Y Drefn ym mis Awst 2020

Deg albwm luniodd y rhestr fer eleni, pob un yn wahanol ac yn gyfanwaith unigryw, ond dim ond un fyddai'n derbyn y wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Fel rhan o ddathliadau Eisteddfod AmGen cyhoeddodd Siân Eleri mai Y Drefn gan Mared oedd yr enillydd ar BBC Radio Cymru nos Wener.

Ar dderbyn y wobr dywedodd Mared Williams sy'n wreiddiol o Sir Conwy, "Dw i'n ecstatic actually! Ar ben y byd. Mae 'di bod mor anodd cadw'r gyfrinach ond dw i'n falch i gael rhannu'r newyddion exciting 'ma efo pawb."

Un o feirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Ifan Davies, cyd-gyflwynydd i Sian, ac hefyd aelod o'r band Sŵnami.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Er gwaetha'r flwyddyn ryfedd, roedd hi'n grêt gweld gymaint o amrywiaeth ar restr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, ac mae'r enillydd, yn brawf o safon y gwaith sydd wedi'u gynhyrchu dros y flwyddyn."

Blwyddyn ryfeddol Mared

Mae Mared wedi cael blwyddyn a hanner go ryfeddol. Cyn gaeodd y theatrau ym mis Mawrth 2020 roedd Mared yn gweithio yng nghast Les Misérables y West End, ond yn fuan wedi'r llenni ddod i lawr am y tro olaf am sbel, cododd ei phac a symud yn ôl adref am gyfnod i Lannefydd.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Mared a rhai o'i chyd-gantorion yn fideos Welsh of the West End

Ond, ddim yn un i aros yn segur, dechreuodd wneud ymddangosiadau yn fideos poblogaidd Welsh of The West End, ac yna, ym mis Awst 2020 rhyddhaodd ei halbwm gyntaf Y Drefn, a hynny i glod a geirda di-rif gan ei chyfoedion.

Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, fel rhan o'r wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, aeth Mared i Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd i recordio dwy o brif draciau'r albwm gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - Y Reddf a Pontydd.

Er ei bod wedi perfformio gyda'r gerddorfa yn y gorffennol roedd clywed ei chaneuon ei hun yn cael eu chwarae gan gerddorfa yn brofiad tra gwahanol, meddai.

"Profiad bythgofiadwy. Y munud nes i glywed y demos gan Owain [Gruffudd Roberts], o'n i'n eistedd yn y car, 'nes i eu rhoi nhw yn y speaker ac o'n i bron â chrio'n eu clywed nhw - ac oedd hynny jest efo synau midi, cyfrifiadurol.

"O'n i'n cerdded yma yn meddwl, oh my gosh, caneuon fi sy'n cael eu chwarae gan yr orchestra! Mae'r trefniannau yn amazing."

Disgrifiad,

Mared yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn gyda'i halbwm cyntaf Y Drefn

"Mae 'na rywbeth am y caneuon yma dw i'n cysylltu efo pandemig a lockdown ac mae hyn jest yn gyfle i'w ddogfennu o. Dw i'n teimlo mor lwcus i fod mewn 'stafell sy'n llawn o gerddorion anhygoel achos mae wedi bod yn flwyddyn anodd i gerddorion a phawb yn y diwydiant yma felly dw i'n teimlo'n lwcus ofnadwy."

Yn gynharach eleni enillodd Mared ddwy wobr yng Ngwobrau'r Selar sef Artist Unigol Gorau a Seren y Sîn. Yn fuan wedi hynny cawsom gip ar broses greadigol Mared mewn pennod o Curadur gan Lŵp ar S4C.

Perfformio eto

Wedi amser maith mae'r cyfleoedd i berfformio yn fyw wedi ailddechrau yn ara' deg.

Meddai: "Ges i gyfle efo Welsh of the West End yn Theatr Clwyd i berfformio efo cynulleidfa tu allan, ac roedd hwnna'n stwff sioeau cerdd."

Roedd y ffenomen hwnnw, a gydiodd yn ystod y cyfnod clo cyntaf, yn rhan o ddathliadau Eisteddfod Gudd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar benwythnos agoriadol yr Eisteddfod AmGen. "Roedd bod ar lwyfan y Steddfod yn hollol hyfryd, er ychydig yn wahanol. Oedd cael canu o flaen y gynulleidfa cudd yn teimlo'n gartrefol iawn efo Welsh of the West End."

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Mared ar lwyfan Eisteddfod Gudd fel rhan o ensemble Welsh of the West End

Roedd hi hefyd yn un o artistiaid Gig y Pafiliwn eleni. Roedd y gig yn dathlu deng mlynedd o'r label I KA CHING, sef y label mae Mared arno. Cafodd y cyngerdd lle roedd nifer o artistiaid, yn cynnwys Candelas, Y Cledrau a Sŵnami, yn perfformio cân gyda cherddorfa y Welsh Pops, ei darlledu ar sianel YouTube yr Eisteddfod ac ar BBC Radio Cymru.

Er bod y gantores yn falch iawn o'r cyfleoedd sy'n dod gyda chaneuon sioeau cerdd, mae hi hefyd yn ysu i fynd â'i halbwm arobryn ar daith: "[O ran perfformio fy] stwff fi fy hun, yn Tafwyl oedd hi ar live stream ac roedd hwnnw'n un profiad o gael chwarae efo band. Nes i rili mwynhau bod yn rhan o Gig y Pafiliwn efo criw I KA CHING hefyd. Gobeithio fydda i'n gallu perfformio'r albym o flaen cynulleidfa ar daith yn fuan."

Beth nesaf i Mared?

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mared gyda thlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Felly, ar ôl blwyddyn brysur ac eithriadol lwyddiannus i'r ferch o Ddyffryn Clwyd mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iddi. Beth sydd ganddi ar y gweill nesaf?

"Sgwennu a recordio mwy o draciau nesa'," meddai Mared wrth Cymru Fyw. "A mynd yn ôl i berfformio yn rhan o gast Les Mis yn Llundain ddiwedd Medi."

Hefyd o ddiddordeb