Technoleg DNA i asesu dyfodol gwiwerod coch y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Bydd technoleg DNA blaenllaw yn cael ei defnyddio er mwyn asesu sut y mae poblogaeth gwiwerod coch canolbarth Cymru yn ymdopi.
Y canolbarth ydy'r unig ardal yng Nghymru ble mae gwiwerod coch wedi goroesi heb gael eu hailgyflwyno.
Mae llawer o wybodaeth am eu niferoedd a'u patrymau bridio wedi parhau'n ddirgelwch.
Ond nawr bydd swyddogion bywyd gwyllt yn cymryd samplau o gynffonnau gwiwerod, fydd yn cael eu hasesu gan Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe.
Bydd canfyddiadau'r prosiect yn penderfynu a oes angen cyflwyno mwy o wiwerod coch yn y canolbarth.
Dywedodd Sarah Purdon, swyddog gyda Phartneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru mai'r gobaith yw y bydd modd ffurfio math o "goeden deulu" ar gyfer y gwiwerod.
"Gobeithio y byddwn ni yn gallu dweud sut maen nhw'n perthyn i'w gilydd, fydd yna'n rhoi amcangyfrif da i ni o faint ac iechyd y boblogaeth," meddai.
"Yna fe fyddwn ni'n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud i'w helpu nhw."
'Dim ond pump mewn pythefnos'
Gwiwerod coch oedd i'w gweld amlaf yng Nghymru nes tua hanner canrif yn ôl, pan ddaeth gwiwerod llwyd yn fwy amlwg.
Dim ond mewn tair ardal yng Nghymru y mae modd gweld gwiwerod coch erbyn heddiw - Ynys Môn, Coedwig Clocaenog yn y gogledd-ddwyrain, a'r canolbarth.
Ond yn y ddwy ardal yn y gogledd mae'r niferoedd wedi cael hwb trwy ail-gyflwyno gwiwerod o ardaloedd eraill, gan gynnwys y canolbarth, ble mae'r gwiwerod coch wedi goroesi heb gymorth allanol.
Fel rhan o'r prosiect newydd mae swyddogion yn dal gwiwerod coch yng Nghoedwig Clywedog ar hyn o bryd er mwyn cymryd samplau, ond yn ôl Phil Harries o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru nid oes llawer o wiwerod coch yn yr ardal bellach.
"Yn y bloc yma dim ond pump sydd gennym ni - un gwryw, un fenyw a thri phlentyn. Dyna'r oll rydyn ni wedi'u dal mewn pythefnos," meddai.
"Ni fydd hynny'n gynaliadwy mewn 10 mlynedd oherwydd yn amlwg fe fyddan nhw'n mewnfridio.
"Rydw i mor gyffrous pan ni'n dal gwiwer goch, ac mae dal plentyn hyn yn oed yn well oherwydd yna ry'n ni'n gwybod bod pâr sy'n bridio rhywle o fewn y 1,000 erw yma.
"Fe fyddwn i wir yn hoffi eu gweld nhw'n goroesi."
Yn ôl Ms Purdon fe all gwiwerod coch chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.
"Maen nhw'n chwarae rôl mor bwysig yn yr ecosystem," meddai.
"Mae gwiwerod llwyd yn achosi llawer o ddifrod - yn tynnu'r rhisgl oddi ar goed - felly gyda'r nod o blannu mwy o goed, ni fyddai gwiwerod coch yn cael yr un effaith. Maen nhw'n llai ac yn addasu i'r cynefin.
"Mae'n anhygoel a dweud y gwir os ydych chi'n gofyn i bobl a ydyn nhw wedi gweld gwiwer goch yng Nghymru - bychan iawn yw'r rhai sydd wedi, ond mae pobl yn dal yn gwybod amdanyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2018