Rhaglenni plant Cymraeg yn 'amhosib' os daw cronfa i ben

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhai o gast gwreiddiol SuperTed yn hel atgofion am y gyfres gartŵn boblogaidd

Mae SuperTed a Sam Tân ymhlith cyfresi eiconig cynnar S4C - ond mae yna bryder na fydd modd cynhyrchu rhaglenni Cymraeg a Chymreig o'r fath yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn ystyried dyfodol cronfa ariannol sy'n cynnig cymhorthdal i gynhyrchu rhaglenni i blant ar sianeli darlledu cyhoeddus.

Mae 5% o arian y gronfa'n cael ei neilltuo i raglenni Celtaidd.

Yn ôl cadeirydd grŵp Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) byddai cau'r gronfa yn "ergyd drom i S4C, i gwmnïau darlledu ac i'r gynulleidfa iau".

Dywedodd Llywodraeth y DU bod yr "adolygiad gwariant yn parhau" ac nad oes "penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â dyfodol ariannu" y gronfa.

Ffynhonnell y llun, Mattel

Y ddarlledwraig a'r cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog ysgrifennodd benodau cyntaf Sam Tân.

Ar ôl ennill grant gan y gronfa Young Audiences Content Fund (YAC) mae hi nawr yn cynhyrchu drama i blant 8-12 oed - cynhyrchiad na fyddai'n bosib, meddai, heb yr arian.

"Mae'r gronfa yn un sydd yn cefnogi gwerthoedd darlledu cyhoeddus, yn rhoi cyfle i gynhyrchu rhaglenni lle mae plant yn gweld plant eraill ar y sgrin - nid yn unig unrhyw blant ond gweld plant drwy lens cymuned ei gwlad eu hunain," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

"Gan ei bod hi hefyd yn clustnodi swm helaeth o arian, mewn gwirionedd, ar gefnogi ieithoedd brodorol y Deyrnas Unedig mae'n galluogi ni i 'neud a chynhyrchu rhaglenni cyfresi na fyddai yn bosib ar gyfer yr oedran yma."

Ychwanegodd: "Mae cynhyrchu drama yn ddrud, dydy cyllidebau S4C ddim yn caniatáu i ni gynhyrchu drama i blant, mae o'n hollol amhosib."

'Cadw'r iaith a'r diwylliant'

Cafodd y gronfa YAC ei sefydlu yn 2018 er mwyn cefnogi rhaglenni sy'n adlewyrchu bywyd plant ym Mhrydain.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae £44m wedi ei roi i gefnogi cyfresi i blant ar wasanaethau cyhoeddus fel Channel 5 ac S4C.

Disgrifiad,

Smotyn a SuperTed ar antur arall - daw'r clip yma o'r gyfres gyntaf

Yn ôl yr animeiddiwr sy'n cael ei adnabod fel 'tad SuperTed' - Mike Young - byddai cau'r gronfa yn "ffolineb".

Dechreuodd ei yrfa'n cynhyrchu SuperTed a Sam Tân ar gyfer S4C cyn eu cyfieithu a'u gwerthu'n ddiweddarach yn Saesneg.

Yn achos S4C, meddai, mae'n fwy na chynhyrchu rhaglenni i blant. Mae'n mynd tu hwnt - mae'n cadw iaith a diwylliant.

"Os y'ch chi'n i'n edrych ar wledydd eraill, mae nhw'n rhoi cymorthdaliadau enfawr i raglenni plant", ychwanegodd.

"Felly dyna'n union y bydd cynhyrchwyr Prydain yn gorfod brwydro'n ei erbyn.

"Os fydd Llywodraeth Prydain yn diddymu'r grantiau yma bydd y Deyrnas Unedig dan anfantais aruthrol. Rwy'n gegrwth."

Ffynhonnell y llun, S4C/Calon
Disgrifiad o’r llun,

Heb arian gan y gronfa, dywed S4C na fyddai rhaglenni fel Sali Mali, Sol a Byd Tadcu wedi gweld golau dydd

Fe ddywedodd Cadeirydd TAC a Phrif Weithredwr Rondo Media, Gareth Williams, bod y gronfa yn "allweddol, achos mae'n caniatáu i gwmnïau i elwa mewn meysydd sy'n eithaf drud - fel drama i blant a phobl ifanc ac animeiddio".

Heb y gronfa mae'n cwestiynu a fydd darlledwyr yn gallu fforddio comisiynu'r cynnwys.

Ychwanegodd bod y gronfa'n "rhoi 50% o gyllideb felly mae'n ffynhonnell incwm a grant hynod o werthfawr i gwmnïau".

"Mae'n mynd i fod yn ergyd drom i S4C, i gwmnïau darlledu, i'r gynulleidfa ac i'r gynulleidfa iau yn benodol os fydd y gronfa yma'n dod i ben."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gronfa yn galluogi cynhyrchu rhaglenni a fyddai'n amhosib fel arall, medd cynhyrchwyr

Ymhlith y cwmnïau o Gymru sydd wedi llwyddo i ennill grantiau mae Boom Plant.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi elwa o'r gronfa gyda thri cynhyrchiad sylweddol gan ychwanegu "mae'n ddigon posibl na fyddai'r cynyrchiadau yma wedi cael eu comisiynu heb gefnogaeth YAC".

"Mae hi yn sicr yn bryder i gynhyrchwyr fod bygythiad i'r gronfa, yn enwedig yn wyneb y gystadleuaeth ffyrnig am wylwyr ar amryw o blatfformau a sianelau," ychwanegodd y datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae'r Gronfa YAC y llywodraeth wedi galluogi S4C i fuddsoddi mewn cynyrchiadau na fyddai fel arfer wedi gweld golau dydd, megis: Sali Mali, y ffilm cyd-gynhyrchiad Celtaidd Sol, dau broject pobol ifanc Y Gyfrinach a PersonA, a Byd Tad-cu."

Ond pe bai'r gronfa'n cael ei chau mae'r sianel yn hyderus "na fyddai ei diwedd yn fygythiad andwyol i arlwy plant ehangach S4C".

Dywedodd Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU: "Mae'r adolygiad gwariant yn parhau.

"Does dim penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â dyfodol ariannu y Gronfa YAC."