'O waw!' Sioc a syndod enillwyr Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
![enillwyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/153DF/production/_121170078_pjimage-2.jpg)
Mae prif enillwyr Eisteddfod yr Urdd 2020-21 wedi'u cyhoeddi.
Cafodd ymateb yr ymgeiswyr buddugol i gael gwybod mai nhw oedd wedi ennill ei ddal ar gamera.
Cafodd canlyniadau'r gystadleuaeth eu cyhoeddi drwy gydol yr wythnos wrth i'r mudiad ieuenctid wobrwyo gwaith cyfansoddi buddugol a ddaeth i law cyn cyfnod clo cyntaf y pandemig yng ngwanwyn y llynedd.
Dyma sut aeth hi...
![Grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/AA61/production/_121171634_ddcf4420-707f-4034-8bf0-6ed050c387f4.jpg)
Yr awdures Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Gwobrwyo enillydd Coron yr Urdd 2020/21
![Grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/D171/production/_121171635_bdaa832e-548e-4425-a836-fda9bd1599d3.jpg)
Ioan Wynne Rees o Gyffylliog, Rhuthun oedd enillydd y Fedal Gyfansoddi.
Gwobrwyo enillydd Medal Gyfansoddi'r Urdd 2020/21
![Grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/F881/production/_121171636_61fa3fc5-967c-48a4-ac3f-a9a963a39819.jpg)
Miriam Elin Sautin o Lanbedrog ym Mhen Llŷn oedd enillydd y Fedal Ddrama.
Miriam Elin Sautin yn derbyn Medal Ddrama'r Urdd 2020/21
![Grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/11F91/production/_121171637_6225f936-48d9-4704-a44c-ea17b7a3bcc8.jpg)
Carwyn Morgan Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle ydy Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Carwyn Eckley ydy Prifardd Eisteddfod yr Urdd
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021